Dr Robert Deaves: 'Dwi dal mewn cariad efo roboteg'

Dr Robert Deaves mewn darlith yn RhydychenFfynhonnell y llun, Dr Robert Deaves
Disgrifiad o’r llun,

Dr Robert Deaves mewn darlith yn Rhydychen

  • Cyhoeddwyd

O robotiaid sy'n glanhau carpedi i geir sy'n hunan-yrru, mae Dr Robert Deaves o Borthaethwy wedi bod ar flaen y gad gyda dyfeisiadau deallusrwydd artiffisial (AI).

Bu Robert yn siarad gyda Cymru Fyw am ei yrfa yn astudio roboteg.

Mae'r gwyddonydd, sy'n byw a gweithio ym Mryste ers degawdau, wedi arloesi yn y maes roboteg ar hyd ei yrfa, fel mae'n esbonio:

"Dw i wedi gweithio mewn sawl lle ar roboteg gan gynnwys BA Systems a British Aerospace. A dw i wedi gweithio ar satellite dishes sy' wedi mynd i fyny i'r gofod.

"Mae'n neis meddwl bod fi wedi gweithio ar rhywbeth sydd i fyny yn y gofod yn rhoi system gyfathrebu i'r byd."

LloerenFfynhonnell y llun, Getty Images

Tra'n gweithio i'r Sefydliad Arfau Atomig yn astudio effaith niwclear ar silicon, dechreuodd Robert weithio efo roboteg gan gael cyfle i fynd i Brifysgol Sydney i astudio algorithmau llywio (navigation algorithms).

Tra yno datblygodd algorithm o'r enw SLAM, sef Simultaneous Localisation and Map Building. Yn syml mae'r dechnoleg yn adeiladu map ac, ar yr un pryd, yn gallu dweud ble wyt ti o fewn y map.

Mae'r algorithm yma'n bwysig iawn, fel mae Robert yn esbonio: "Mae'r algorithm yna wedi bod yn sylfaen i'r maes roboteg am flynyddoedd rŵan."

Defnyddiodd y gwyddonydd yr algorithm pan aeth yn ôl i'r byd roboteg gan symud i weithio yn Dyson yn datblygu sugnwyr llwch robotig sy'n glanhau lloriau heb help llaw person.

Ac mae'r dechnoleg hefyd yn cael ei ddefnyddio gan Robert ar hyn o bryd yn ei waith i gwmni Oxa sy'n cynhyrchu ceir di-yrrwr.

Meddai: "Dwi rŵan yn datblygu cerbyd di-yrrwr sy'n teithio o gwmpas fferm solar, yn gwirio paneli solar i sicrhau bod nhw'n gweithio'n effeithiol.

"Mae'n job ffantastig, yn defnyddio technoleg roboteg i gefnogi ynni gwyrdd a chynaliadwyedd ar gyfer y dyfodol."

Ceir di-yrrwr

Mae Robert yn dweud y byddwn yn gweld cerbydau di-yrrwr mewn llefydd ble mae strwythur penodol i gychwyn, er enghraifft, yn symud nwyddau o amgylch mewn dociau neu meysydd awyr, ac yn cludo pobl ar fysiau sy'n dilyn yr un daith dro ar ôl tro.

Meddai: "Bydd y gwaith hyn i gyd yn cyfrannu at ddatblygu cerbydau di-yrrwr mewn llefydd llai strwythuredig fel heolydd prysur. Felly mater o aros yw hi!"

Diogelwch

Yr ystyriaethau diogelwch yw'r ystyriaeth pennaf tra'n datblygu ceir di-yrrwr, yn ôl Robert: "Mae rhai ohonon ni yn mynd i fod yn eitha' drwgdybus o geir sy'n gyrru eu hunain.

"Y peth sy'n wahanol pan 'da ni'n gwneud ceir heb bobl ydy diogelwch yr holl system.

"I wneud yn siŵr bod ni'n cael y diogelwch, 'da ni'n gwneud lot o testio.

"Mae yna lwyth o sensors ar y car. Mae 'na gamera sy'n sbio allan i'r blaen, mae yna laser rangefinder hefyd sy'n gyrru golau allan a disgwyl i gael y reflections sy'n dod yn ôl, ac mae 'na radar hefyd ar y blaen sy'n gyrru allan radio waves a gweld beth sy'n dod yn ôl.

"A 'da ni'n gwneud y broses o fuse-io hynny efo'i gilydd er mwyn cael llun o beth sydd o'n blaen ni a beth sydd ar yr ochrau a tu ôl i ni.

Car hunan-yrruFfynhonnell y llun, Getty Images

"Mae'r sensors yn mynd i weld reit bell o flaen y car a wedyn 'da ni'n mynd i predictio beth sydd o'n blaen ni ac wedyn cymryd yr action iawn cyn i ni gyrraedd rhywbeth sydd o'n blaen ni."

Wrth gwrs, ar y ffordd mae pethau annisgwyl yn gallu digwydd weithiau ond mae Robert yn ffyddiog yn y dechnoleg, meddai: "Mae'r latency yn y system yn sydyn iawn felly bydden ni'n rhoi'r brêcs ymlaen neu symud i'r ochr.

"Yn y dyfodol, os fyddwn ni'n medru cael y ceir i ddreifio'i hunain, bydd pethau yn fwy saff a fydd yna lai o bobl yn cael eu brifo. Mae gennym ni'r technoleg i wneud yn siŵr bod ni ddim yn taro pobl i lawr a bod ni ddim yn dreifio ceir i fewn i'n gilydd.

"Unwaith rydym ni wedi cael mwy o geir sy'n mynd i wneud autonomy ar y lôn, bydden ni'n cael llai o bobl sy'n marw, yn enwedig pobol ifanc."

Gwreiddiau

Mae Robert yn diolch i'w wreiddiau ar Ynys Môn am ei angerdd at beirianneg a gwyddoniaeth.

Meddai: "Dwi'n dod o deulu oedd o hyd yn hoffi gwneud a thrwsio pethau!

"Dechreuodd fy nhad fi efo toolkit bach a Lego pan oeddwn i'n ifanc iawn.

"A phan oeddwn i tua 10 mlwydd oed cefais kit ffantastig i greu dyfeisiau trydanol syml, gan gynnwys cloch drws.

"A dyna ni i fi, oeddwn i wrth fy modd!

"Rhai blynyddoedd wedyn, cefais kit arall, tro yma'n llawn chips microelectroneg. Ac mi wnaeth hynny gryfhau fy niddordeb i'n bellach."

  • Gallwch glywed mwy gan Dr Robert Deaves yng nghyfres Yfory Newydd ar Radio Cymru sy'n gipolwg ar waith gwyddonwyr Cymru.