'Fe allai ffermwyr brotestio eto os na fydd newid'

Cyfarfod Digon yw Digon nos Lun
Disgrifiad o’r llun,

Roedd tua 200 o bobl mewn cyfarfod cyhoeddus ar faes y Sioe Fawr nos Lun

  • Cyhoeddwyd

Mae ymgyrchwyr sy'n gwrthwynebu cynlluniau amaeth dadleuol yn dweud eu bod yn barod i ystyried protestio eto os na fydd Llywodraeth Cymru yn gwrando ar eu pryderon.

Roedd tua 200 o bobl mewn cyfarfod cyhoeddus arbennig ar faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd nos Lun i drafod eu pryderon ac i alw am fwy o eglurder.

Fe gafodd y cyfarfod ei drefnu gan y mudiad Digon yw Digon i drafod y datblygiadau diweddaraf yn ymwneud â pholisïau'r llywodraeth.

Ac er bod yna groeso i'r ffaith na fydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn cael ei gyflwyno tan 2026, mae cynrychiolwyr y mudiad yn dweud bod angen gweld "newidiadau ar lawr gwlad" i'w bodloni bod y llywodraeth yn ystyried eu pryderon o ddifrif.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod yr Ysgrifennydd Materion Gwledig Huw Irranca-Davies wedi cynnal cyfarfod preifat gyda chynrychiolwyr o Digon yw Digon ar faes y Sioe Frenhinol ddydd Sul.

Ychwanegwyd ei fod wedi mynegi ei sicrwydd ar gyfer y sector i'r grŵp ymgyrchu.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r pwysau'n parhau ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno newidiadau, medd Hefin Jones o'r grŵp ymgyrchu Digon yw Digon

Fe gafodd y cynllun dadleuol ei oedi ym mis Mai gan Mr Irranca-Davies - penderfyniad sy'n golygu y bydd ffermwyr yn parhau i dderbyn eu prif gymhorthdal arferol drwy 2025.

Dywedodd Hefin Jones o'r grŵp Digon yw Digon bod yna "sicrwydd bod ysgrifennydd y cabinet yn gwrando" ar bryderon amaethwyr a bod y trafodethau ers y cyhoeddiad yn "ddiddorol".

Ond fe rybuddiodd bod "pwysa' yn dal i fod ar y llywodraeth i roi sicrwydd, i ddod â newidiade".

Ychwanegodd: "Os na welwn ni newidiade, os na fydd y gweithredoedd yn Llywodraeth Cymru yn troi yn newidiade ar lawr gwlad, wedyn mae arna'i ofn falle bydd 'na barodrwydd i ymgyrchu 'to."

Disgrifiad o’r llun,

Arweinwyr amaeth yn annerch y dorf yn ystod y cyfarfod cyhoeddus

Dywedodd un o drefnwyr eraill y cyfarfod, Aled Rees mai'r pwrpas oedd rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf o ran "ble ry'n ni arni" ers cyhoeddiad y llywodraeth a ddaeth wedi sawl protest ar draws Cymru.

Awgrymodd bod y newidiadau hyd yn hyn heb fod yn ddigon "i wneud unrhyw wahaniaeth mawr i'r polisi a bod ni ddim rili wedi symud ymlaen gym'int â 'ny".

'Protestio yn arwain at newid'

Disgrifiad o’r llun,

Credai Elgan Thomas bod dal 'lot i 'wneud 'to'

Yn gynharach brynhawn Llun, roedd pryder ymysg ffermwyr dal ynghylch faint o gefnogaeth sydd ar gael i'r sector.

Yn y sied wartheg, dywedodd Elgan Thomas o Lanelli: "Ma’ lot o'n ni wedi croesawu'r newyddion bod yr SFS wedi cael ei pusho ‘mlaen tamaid bach, i ail-edrych i weld os oes modd gwella fe, neu newid e'n gyfan gwbl.

"Fi'n credu bod bach o newidiadau wedi bod ynglŷn â difa gwartheg ar y fferm, so ma' hwnna'n newyddion ni'n croesawu ‘fyd, ond 'ma lot i wneud 'to."

Wrth gyfeirio at yr Ysgrifennydd Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, dywedodd: "Mae e'n bendant wedi gwrando fwy na Leslie Griffiths oedd cyn e."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Angharad Thomas eisiau i ffermwyr gael y cyfle i gymryd rhan mewn trafodaethau

Cytuno bod ffordd bell i fynd wnaeth Angharad Thomas, sy'n ffermio bîff a defaid yn Dryslwyn hefyd.

"Fi'n gwybod ar y funud ma' gymaint o round-tables a phethau yn digwydd lle mae trafodaethau yn digwydd," meddai.

"Ond fi’n credu bod dal lle i drafod gyda ffermwyr ar lawr gwlad - 'na le yn aml gewch chi lot o'r atebion.

"Ma' sawl peth falle bydde'n gweithio yn scientifically ond o ran beth sy'n mynd i weithio ar bob ffarm, mae’n hollol wahanol.

"Os feddyliwch chi am yr ardaloedd, does dim un method yn mynd i allu gweithio i bopeth."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Angharad Thomas o Landeilo yn meddwl mai protestio yw'r ffordd i gael pobl i wrando ar ffermwyr

Er mai cyfarfod cyhoeddus ac nid protest a gafodd ei drefnu ar faes y sioe nos Lun, yn ôl y trefnwyr, mae rhai'n teimlo mai protestio sy'n arwain at newid.

Dywedodd Angharad Thomas o Landeilo: "Fi'n credu mae'r Ffrengig yn gwybod yn iawn beth maen nhw'n 'neud.

"Ma' nhw'n protestio ac mae pobl yn gwrando.

"Mae'n drist bod ffermwyr yn gorfod 'neud e ond fi yn meddwl bod nhw yn gwrando i bobl pan maen nhw yn protestio."

Disgrifiad o’r llun,

Credai Sian Elin Davies fydd ffermwyr yn mynd mor bell ag sydd rhaid dros eu hachos

Ategodd Sian Elin Davies, sy'n ffermio yn Llanymddyfri: "Beth ni'n gallu 'neud yw tyfu bwyd.

"Ni'n gallu cynhyrchu bwyd i'r safon gorau.

"Os nagyn nhw’n dechrau supporto ni man hyn, s'dim gobaith gyda ni.

"Ma' rhaid i nhw ddechrau gwrando ar farmers ac os nad y'n nhw yn, alla'i ddweud hyn - fi'n credu bydd y farmer yn mynd ag e mor bell â mae'n rhaid."