Oedi cynllun ffermio dadleuol tan 2026 ar ôl protestiadau

Ffermwyr yn protestioFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Daeth 3,000 o ffermwyr a'u cefnogwyr i brotestio y tu allan i'r Senedd ym mis Chwefror

  • Cyhoeddwyd

Bydd yna oedi pellach i gynllun cymorthdaliadau amaeth newydd Cymru, yn dilyn protestiadau.

Ni fydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn dechrau cael ei gyflwyno tan 2026, gyda ffermwyr i barhau i dderbyn eu prif gymhorthdal arferol yn 2025.

Dywedodd yr ysgrifennydd materion gwledig Huw Irranca-Davies fod y penderfyniad yn dangos bod Llywodraeth Cymru yn "gwrando" ar bryderon ffermwyr.

Roedd addasu'r amserlen yn rhoi'r cyfle i "weithio drwy nifer o agweddau pwysig", meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Daeth cyhoeddiad yr Ysgrifennydd Materion Gwledig Huw Irranca-Davies yn ystod cynhadledd i'r wasg ar fferm ger Pen-y-bont

Mae'r undebau amaeth wedi bod yn dadlau nad yw agweddau o'r cynllun newydd - yn enwedig y rheol bod coed ar 10% o bob fferm - yn ymarferol.

Bydd ffermwyr yn parhau i dderbyn yr hen brif gymhorthdal - y taliad sylfaenol neu BPS - yn 2025. Mae hwnnw'n cael ei dalu ar sail faint o dir sy'n cael ei ffermio.

Mae'r newidiadau i'r model o ariannu amaeth wedi bod dan ddatblygiad ers Brexit - gyda'r nod o wobrwyo dulliau o amaethu sy'n gyfeillgar i natur ac yn helpu mynd i'r afael â newid hinsawdd.

Ond fe arweiniodd yr ymgynghoriad diweddaraf ar y cynlluniau yn gynharach eleni at brotestiadau ar draws Cymru - gan gynnwys yr un fwyaf erioed tu allan i'r Senedd gyda 3,000 o ffermwyr a'u cefnogwyr yn bresennol.

Denodd yr ymgynghoriad ei hun dros 12,000 o ymatebion - sy'n torri record.

Wrth annerch cynhadledd i'r wasg ar fferm ger Pen-y-bont, dywedodd Mr Irranca-Davies fod y llywodraeth wedi dweud erioed "na fyddai'r Cynllun yn cael ei gyflwyno nes ei fod yn barod ac rwy'n glynu wrth hynny".

Roedd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy i fod i ddechrau yn Ebrill 2025, gyda'r gwaith o gyflwyno newidiadau fyddai'n gweddnewid cymhorthdaliadau amaeth wedi wynebu oedi sawl gwaith yn barod.

Dywedodd Mr Irranca-Davies bod ei ymrwymiad i "ymgysylltu ystyrlon" gyda'r sector amaeth ac eraill ar "y newidiadau sydd eu hangen yn golygu newid yn yr amserlen weithredu".

“Gyda'n gilydd gallwn greu dyfodol lle mae ein ffermwyr yn cynhyrchu’r bwyd gorau o Gymru i'r safonau uchaf, gan ddiogelu ein hamgylchedd gwerthfawr," meddai.

“Rhaid i ni barhau i weithio mewn partneriaeth i gwblhau cynllun sy'n gweithio yn y tymor hir."

'Cam mawr i'r cyfeiriad cywir'

Mae yna groeso i'r cyhoeddiad gan undebau amaeth sydd wedi beirniadu sawl elfen o'r cynlluniau a'r amserlen gwreiddiol.

Mae parhau â'r taliad sylfaenol tan 2026, a bwriad Mr Irranca-Davies "i weithio mewn partneriaeth â'r diwydiant amaethyddol... yn gam mawr i'r cyfeiriad cywir," yn ôl Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman.

Bydd y penderfyniad, meddai, "yn rhoi sefydlogrwydd i fusnesau amaeth ac yn sylfaen gadarn ar gyfer trafodaethau ystyrlon", ond "bydd craffu ar y manylion yn hollbwysig".

"Ers yr ymgynghoriad diwethaf, rydym wedi galw'n gyson ar Lywodraeth Cymru i ymestyn y BPS ar y lefelau presennol ar gyfer y flwyddyn nesaf o ystyried faint o newid sydd ei angen i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy o fewn yr amserlen dynn," dywedodd.

"Datblygu'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yw'r newid mwyaf arwyddocaol mewn polisi amaethyddol yng Nghymru ers degawdau. Mae'n galonogol felly bod Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi na fydd y Cynllun yn cael ei gyflwyno nes ei fod yn barod."

Disgrifiad o’r llun,

Protest gan ryw 30 o bobl yng Nghaerdydd wrth i'r Ysgrifennydd Materion Gwledig gyhoeddi ei benderfyniad

Dywed NFU Cymru bod "y penderfyniad buan hwn yn rhoi sefydlogrwydd a sicrwydd sydd wir angen i sector sydd wedi wynebu heriau sylweddol yn y flwyddyn diwethaf".

"Ni allai teuluoedd amaeth na'r llywodraeth fforddio i gael cynllun nad sy'n cyflawni ein gweledigaeth o ran bwyd, natur, yr hinsawdd a chymunedau," meddai llywydd yr undeb, Aled Jones.

"Rwy'n croesawu ymroddiad Ysgifennydd y Cabinet i gymryd amser i wrando ar rheiny fyddai'n cael eu heffeithio gan y cynigion ac i weithio mewn partneriaeth ar ddatblygu'r cynllun yn y dyfodol."

Dywedodd bod yna gyfrifoldeb ar bawb i sicrhau cynllun llwyddiannus, gan ddweud bod clywed prydeon miloedd o ffermwyr ynghylch y cynigion mewn sioeau a digwyddiadau ar draws Cymru "yn brofiad sobreiddiol a dirdynnol ar brydiau".

"Rhaid defnyddio'r amser sydd gyda ni i ddyblu ein hymdrechion i gael y cynllun yma'n iawn i bob math o fferm, sector a rhanbarth yng Nghymru, ac i denantiaid a thir comin."

Ond yn ôl Ymddiriedolaethau Natur Cymru, mae'r cyhoeddiad yn "newyddion drwg i ffermwyr, natur a'r hinsawdd", gan ddadlau bod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn "gyfle unwaith mewn oes i roi ffermio yng Nghymru ar sail gynaliadwy gadarn... a sicrhau dyfodol hyfyw" i'r sector.

Dywedodd eu cyfarwyddwr, Rachel Sharp: "Mae'r penderfyniad i oedi'r cynllun yn estyn yr ansicrwydd mewn cyfnod pan mae angen gwobrwyo ffermwyr am newid i ddulliau ffermio cynaliadwy fydd o fudd i'w busnesau yn y dyfodol."

Ychwanegodd bod "y rhan fwyaf o ffermydd Cymru eisoes â 6% o orchudd coed [ar eu tir] ac felly does dim angen mynd yn bell i sicrhau 10% dan y cynllun newydd".

Penderfyniad 'pragmataidd'

Mae'r gwrthbleidiau yn y Senedd wedi croesawu'r penderfyniad hefyd, gan hawlio eu bod hwythau wedi cael dylanwad arno.

Dywed y Ceidwadwyr Cymreig bod y llywodraeth "wedi gwrando" ar eu pryderon ynghylch effaith y cynllun ar ddyfodol amaeth yng Nghymru.

"Mae'n gam positif i weld bod y Gweinidog wedi gwrando ar y diwydiant, yr undebau a'r holl filoedd o bobl a ymatebodd i'r ymgynghoriad trwy oedi gweithredu'r CFfC," dywedodd llefarydd materion gwledig y blaid, James Evans.

Ond mae'n dweud bod angen "gwir newid" o hyd i'r cynllun presennol mewn ymateb i bryderon ffermwyr i "sicrhau [cynllun] sy'n gweithio er budd ein ffermwyr, yn hytrach nag yn eu herbyn".

Mae Plaid Cymru'n dweud bod y cytundeb cydweithredu rhyngddyn nhw a Llywodraeth Cymru "wedi sicrhau mwy o amser i gael y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn gywir".

Dywedodd eu llefarydd materion gwledig Llyr Gruffydd, bod Mr Irranca-Davies yn dilyn trywydd "paragmataidd a synhwyrol", ac yn rhoi "pwyslais cryfach ar ymgysylltu gyda ffermwyr ac ar gynhyrchu bwyd".

"Rwyf wedi hen ddadlau bod rhuthro i gynllun a fyddai'n effeithio ar ffermio am genedlaethau yn anghyfrifol a hurt," ychwanegodd.

"Mae gyda ni gyfle nawr i gymryd cam yn ôl a gwneud y newidiadau angenrheidiol a fydd yn sicrhau cefnogaeth y diwydiant a chynllun mwy cynaliadwy i amaeth a natur."

Disgrifiad o’r llun,

Liam Price a Chloe Hyde - dau ffermwr mynydd sy'n teimlo bod angen i'r frwydr barhau i sicrhau newidiadau i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Roedd Liam Price, ffermwr mynydd yng Nghastell-nedd, ymhlith pump a drefnodd brotest yng Nghaerdydd ddiwrnod cyhoeddiad y llywodraeth yn sgil pryder "so nhw'n gwrando ar ffermwyr".

Dywedodd bod hi dal yn aneglur pa newidiadau sydd dan ystyriaeth gan yr Ysgrifennydd Materion Gwledig.

"Ni sydd ar lawr gwlad yn ffermio. Ni sy'n gwybod beth sydd angen, felly mae gyda fe flwyddyn nawr i geisio gwrando ar gymaint o ffermwyr ag y galle a treial gael system sy'n gweithio i bawb.

"Falle bydd e flwyddyn yn ddiweddarach ond rhaid i ni ddal frwydro."

Dywedodd ffermwr mynydd arall yn y brotest, Chloe Hyde o ardal Aberdâr: "Sa i'n synnu bod nhw wedi ei oedi.

"Roedd angen iddyn nhw weithio lot mwy ar y cynllun newydd - mae bendant angen nifer o welliannau.

"Mae pobol yn dechrau sylweddoli bod yna fwy iddi... mae'r polisi TB yn destun pryder ar y foment."

Ychwanegodd bod sawl elfen fuddiol i'r cynllun, ac y byddai'r "fwy na hapus" pe tai ond yn gorfod plannu coed ar dir "sydd ddim yn gynhyrchiol... ond mi wn bod hi ddim yn un fath i bawb".