Ymunwch â sianel newydd BBC Cymru Fyw ar WhatsApp
- Cyhoeddwyd
Gallwch nawr gael y newyddion diweddaraf gan BBC Cymru Fyw ar WhatsApp.
Rydym wedi lansio sianel WhatsApp newydd, sy'n golygu y gallwch gael gwybod am y straeon mwyaf o Gymru.
Sut alla i ddod o hyd i'r sianel?
Cliciwch ar y ddolen yma, dolen allanol neu sganiwch y cod QR isod gyda chamera eich ffôn, sy'n mynd â chi'n syth i'n sianel WhatsApp.
Fel arall, gallwch ddilyn ein sianel â llaw trwy ddilyn y camau hawdd yma:
O'ch sgrin gartref yn WhatsApp, cliciwch ar y botwm "Updates" ar waelod y sgrin;
O'r fan hon chwiliwch am BBC Cymru Fyw, a chlicio ar y botwm "+" ochr yn ochr â'n sianel i danysgrifio.
Ydy hi'n bosib i mi gael hysbysiadau?
Ydy. Mae hysbysiadau ar gyfer ein sianel WhatsApp yn cael eu diffodd fel rheol, ond mae'n hawdd eu troi ymlaen.
I droi hysbysiadau ymlaen, ewch i sianel WhatsApp BBC Cymru Fyw a chliciwch ar yr eicon cloch yng nghornel dde uchaf y sgrin, gan sicrhau nad oes unrhyw linell yn rhedeg drwy'r eicon.
Dylai "Hysbysiadau wedi'u troi ymlaen" gael eu harddangos ar y sgrin.
Lawrlwythwch ap Cymru Fyw
Gallwch dderbyn hysbysiadau am straeon mawr sy'n torri yng Nghymru drwy lawrlwytho ap BBC Cymru Fyw ar Google Play, dolen allanol neu App Store, dolen allanol.