Cyfraith bosib i atal Aelodau o'r Senedd am ddweud celwydd

Senedd Ffynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Fe allai gwaharddiad ar wleidyddion yn dweud celwydd yn fwriadol ddod yn gyfraith, yn rhannol diolch i’r cyn-weinidog Llafur Lee Waters.

Mae cyn-arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, yn credu y dylai unrhyw un sy'n cael eu canfod o fod wedi dweud celwydd gael eu gwahardd rhag bod yn Aelod o’r Senedd.

Fe gafodd y drosedd ei hychwanegu at fil i ddiwygio etholiadau, gyda chefnogaeth y Ceidwadwyr, ac ar ôl i Mr Waters ymatal ar y gwelliant.

Roedd yn groes i ddymuniadau Llywodraeth Cymru, sydd wedi rhybuddio fod yn bosib na fydd gan y Senedd y grym i basio’r ddeddfwriaeth.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod angen "dadansoddiad manwl o'r goblygiadau polisi a chyfreithiol".

Beth yw'r mesur?

Mae gan y mesur - sy'n cynnwys cynllun peilot ar gyfer cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig - gamau pellach i'w pasio drwy'r Senedd, ble y gall gweinidogion geisio dileu gwelliant Mr Price.

Dywedodd y cyn-weinidog trafnidiaeth Mr Waters wrth BBC Cymru bod y ffaith ei fod wedi ymatal, yn hytrach na gwrthryfel, yn arwydd o Senedd oedd yn aeddfedu.

O dan y gyfraith, byddai’n drosedd i aelod o’r Senedd, neu ymgeisydd ar gyfer etholiad i’r Senedd, gamarwain yn fwriadol neu gyda’r bwriad o wneud datganiad eu bod yn gwybod ei fod yn ffug neu’n dwyllodrus.

Byddai’n amddiffyniad pe bai’n “gasgliad rhesymol” ei fod yn ddatganiad barn, neu pe bai’n cael ei dynnu’n ôl gydag ymddiheuriad yn cael ei roi o fewn 14 diwrnod.

Byddai'n rhaid dwyn achos o fewn chwe mis i'r dyddiad y gwnaed y datganiad.

Petai rywun yn cael eu herlyn dan gyfraith o’r fath, mi fydden nhw'n cael eu gwahardd rhag bod yn aelod o’r Senedd.

Disgrifiad o’r llun,

Cyn arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, wnaeth gyflwyno'r gwelliant iddi fod yn drosedd i wleidyddion gamarwain yn fwriadol

Mae Adam Price wedi ymgyrchu ers peth amser iddi fod yn drosedd i wleidyddion gamarwain yn fwriadol.

Roedd wedi ceisio a methu â chael y drosedd wedi’i hychwanegu at y ddeddfwriaeth i ehangu maint y Senedd.

Yr wythnos diwethaf fe gyflwynodd welliant i’r Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig yn y pwyllgor llywodraeth leol a thai.

Fe bleidleisiodd Mr Price a dau aelod Ceidwadol o blaid y gwelliant, tra bod dau aelod Llafur o'r pwyllgor wedi pleidleisio yn erbyn. Fe wnaeth Mr Waters ymatal.

Nid yw’r bil wedi cael ei basio gan y Senedd eto ac mae yna ddau gam arall o ddadleuon eto i ddod.

Os yw'r llywodraeth yn parhau i wrthwynebu'r gwaharddiad, mae'n bosib y bydden nhw'n ceisio diwygio'r mesur i ddileu'r drosedd.

Fe allai hynny fod yn anodd os na all y llywodraeth sicrhau cefnogaeth gan aelodau o'r gwrthbleidiau i gael gwared ar y drosedd.

Er bod y Ceidwadwyr wedi cefnogi'r drosedd o dwyll yn y pwyllgor, dyw hi ddim yn glir a fydden nhw'n gwneud hynny yn y dyfodol.

Llywodraeth yn cefnogi'r syniad

Er gwaethaf y pryderon am gynllun Mr Price, mae gweinidogion y llywodraeth wedi rhoi rhywfaint o gefnogaeth i'r syniad.

Mae prif gynghorydd cyfreithiol llywodraeth Cymru, y Cwnsler Cyffredinol Mick Antoniw, wedi dweud yn y gorffennol ei fod yn cefnogi'r "egwyddor gyffredinol", ac wedi cyfeirio'r mater at bwyllgor safonau'r Senedd.

Yn ddiweddar, dywedodd y Prif Weinidog Vaughan Gething ei fod am "weithio'n adeiladol gyda phob plaid i geisio datrys y mater hwn cyn etholiad nesaf y Senedd".

Fodd bynnag, yn y Senedd ddydd Mawrth, dywedodd Mr Antoniw ei fod yn pryderu bod y gwelliant yn honni ei fod yn datrys problem ond mewn gwirionedd, "yn ddim mwy na chyfraith ddrwg ac aneffeithiol".

Dywedodd fod ganddo "amheuaeth sylweddol" y byddai'r gwelliant "yn gweithio mewn gwirionedd" ac y byddai'n effeithiol. Dywedodd nad oedd wedi bod yn destun craffu "cyffredin".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mr Waters wrth BBC Cymru fod democratiaeth “dan her aruthrol”

Yn y pwyllgor fe rybuddiodd Mr Antoniw hefyd na all y Senedd ddeddfu i “greu troseddau o’r math sy’n cael eu trin gan Ddeddf Anudon 1911”.

Wrth siarad â BBC Cymru, fe wnaeth Mr Waters ddadlau fod y mesur etholiadau yn ffordd fwy diogel o sicrhau bod y mater yn cael ei ddatrys cyn yr etholiad nesaf yn 2026, na thrwy fesur pwyllgor.

“Dwi’n meddwl bod y math yma o beth yn rhan bwysig o’r Senedd yn aeddfedu fel sefydliad,” meddai.

“Rydyn ni’n symud o ddisgyblaeth fel cyngor sir... i un mwy aeddfed lle mae meinciau cefn y llywodraeth yn cyflwyno gwelliannau (a oedd yn arfer cael eu gwahardd), a hefyd yn herio'r llywodraeth ar bwyllgorau trwy graffu.”

Dywedodd Mr Waters wrth BBC Cymru fod democratiaeth “dan her aruthrol”.

“Rwy’n meddwl ei bod yn bwysig ein bod yn cydnabod difrifoldeb hynny ac yn cymryd camau i’w wrthsefyll.

“Dydyn ni ddim yn ei dderbyn gan feddygon. Nid ydym yn ei dderbyn gan gyfreithwyr. Pam ydyn ni’n ei dderbyn gan wleidyddion?”

'Cam hanesyddol'

Dywedodd Adam Price: “Mae hwn yn gam hanesyddol ymlaen gan fod un o bwyllgorau trawsbleidiol y Senedd wedi pleidleisio o blaid fy ngwelliant i wneud celwydd gan wleidyddion yn drosedd.

“Gydag ymddiriedaeth yn ein sefydliadau gwleidyddol ar ei hisaf erioed, mae angen i ni fod yn rhagweithiol wrth ailadeiladu’r ymddiriedaeth a’r hyder hwnnw".

Dywedodd yr aelod Ceidwadol o’r pwyllgor James Evans: “Rwy’n meddwl y byddai’r cyhoedd yn gyffredinol yn parchu gwleidyddion yn llawer mwy, pe na bai anwireddau’n cael eu dweud.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae’r egwyddor gyffredinol sy’n sail i’r gwelliant hwn, fel y’i nodwyd yn ystod y craffu, yn un bwysig.

"Fodd bynnag, fe fydd yn bwysig i'r Senedd a Llywodraeth Cymru gynnal dadansoddiad manwl o oblygiadau polisi a chyfreithiol y cynigion.

Byddwn nawr yn ystyried canlyniad y ddadl wrth i ni symud ymlaen gyda'r bil hwn."