Rhestr aros triniaeth ysbyty'n gostwng ychydig am ail fis

Mae data gofal brys yn dangos gwelliannau, er ei fod yn bell islaw'r targed
- Cyhoeddwyd
Mae'r rhestr aros am driniaeth ysbyty yng Nghymru wedi gostwng ychydig am yr ail fis yn olynol.
Ym mis Ionawr 2025, roedd 613,000 o gleifion yn aros i 796,802 o driniaethau gael eu cynnal, i lawr 0.4% o 800,395 ym mis Rhagfyr 2024.
Y rhestr aros yw'r chweched fwyaf ar gofnod.
Mae'r nifer sy'n aros dros flwyddyn neu ddwy flynedd wedi gostwng o'i gymharu â mis Rhagfyr 2024, gydag ychydig llai na 21,100 o bobl yn aros yn hwy na 24 mis.
Mae'n parhau i fod ymhell uwchlaw'r targed o 8,000 a bennwyd gan Brif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, i'w gyflawni erbyn mis Mawrth 2025.

Gwellodd amseroedd ymateb ambiwlansys ym mis Chwefror
Mae data perfformiad diweddaraf GIG Cymru hefyd yn dangos gwelliannau mewn triniaethau gofal brys, er bod y ffigyrau'n parhau i fod ymhell islaw'r targed.
Bu cynnydd yn nifer y bobl sy'n mynd adrannau brys bob dydd – ac eto bu gwelliannau bychain o ran arosiadau pedair a 12 awr.
Ond gwaethygodd perfformiad yn erbyn y targed 62 diwrnod ar gyfer gwasanaethau canser, gan ostwng i 57.4% (gostyngiad o 4% ar y mis blaenorol).
Gwellodd amseroedd ymateb ambiwlansys ym mis Chwefror hefyd, lle'r oedd cyfran uwch o'r galwadau brys, lle'r oedd bywyd yn y fantol, yn cael eu hateb o fewn wyth munud, ond ar 51.1%, mae dal yn is na'r targed o 65%.
Dywedodd Ysgrifennydd Iechyd Cymru, Jeremy Miles: "Mae hyn yn addawol ond mae gennym ni ffordd bell i fynd eto i sicrhau bod pobl yn cael mynediad amserol at ofal wedi'i gynllunio."
- Cyhoeddwyd20 Chwefror
Mae'r gwrthbleidiau wedi beirniadu'r canlyniadau diweddar ac arweinyddiaeth Llafur yn hallt.
Yn ôl Mabon ap Gwynfor, llefarydd iechyd Plaid Cymru: "10 mlynedd yn ôl, nid oedd un person ifanc neu blentyn yn aros dros flwyddyn am apwyntiad, nawr mae gennym dros 1,000 yn aros dros ddwy flynedd. Mae hyn yn rhoi darlun perffaith o record Llafur ar iechyd – record o siomi pobl."
Dywedodd James Evans AS o'r Ceidwadwyr Cymreig bod "Llywodraeth Lafur Cymru yn esgeuluso targedau canser, gyda pherfformiad yn gwaethygu'n sylweddol yn erbyn y targed hanfodol o 62 diwrnod ar gyfer triniaeth".
Ychwanegodd bod y "cynnydd yn parhau i fod yn llawer rhy araf ar gyfer rhestrau triniaeth" ac na ddylai "unrhyw gleifion aros dros ddwy flynedd am driniaeth, fel sy'n ymarferol mewn rhannau eraill o'r DU."