Nifer y bobl ar restrau aros wedi disgyn am y tro cyntaf mewn blwyddyn

- Cyhoeddwyd
Mae nifer y bobl sydd ar restrau aros iechyd yng Nghymru wedi disgyn am y tro cyntaf mewn bron i flwyddyn - a hynny gan bron i 2,000 o gleifion.
Mae'r nifer sydd wedi bod yn aros am driniaeth ers dros ddwy flynedd hefyd wedi disgyn, er bod yr ymgais i gael gwared ar y rhestrau yma erbyn Mawrth 2025 yn parhau heb eu cyrraedd, bron i ddwy flynedd yn ddiweddarach.
Mae'r niferoedd sy'n aros am fwy na 36 wythnos am driniaeth wedi codi i'w ffigyrau uchaf erioed.
Ond mae 'na welliant wedi bod i ofal canser, gyda'r ffigyrau yn dangos y perfformiad gorau ers Awst 2021.
Er y gwelliant yn y maes hwn gyda 61.9% o gleifion yn cychwyn triniaeth o fewn 62 diwrnod, mae hyn yn parhau i fod ymhell o'r targed o 75% o gleifion.
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd19 Medi 2024
Ar hyn o bryd mae ychydig yn llai na 800,400 o lwybrau gofal i gleifion, sef tua 616,500 o gleifion ar restrau aros.
23,600 yw'r ffigwr ar gyfer y rheiny sy'n aros dwy flynedd, ond nid yw'r ymgais i gael gwared â'r rhain yn berthnasol i'r saith maes mwyaf heriol.
Mae hyn yn golygu, ym mis Rhagfyr fod 3,040 o bobl yn aros am driniaeth yn y categori hwnnw, nifer a ddisgynnodd 101 o'i gymharu â'r mis blaenorol.
O ran gofal brys, fe wnaeth y gwasanaeth ambiwlans barhau i dderbyn galwadau brys a rhai oedd yn gallu effeithio bywyd, ym mis Ionawr.
Roedd 'na ychydig o welliant o ran pa mor sydyn yr oedden nhw'n ymateb i gleifion o fewn wyth munud. 48.3% yw'r ganran honno - y targed yw 65%.
'Dim ond y dechrau yw hyn'
Fe wnaeth nifer cyfartalog y bobl oedd yn mynd i'r adran ddamweiniau ac achosion brys ddisgyn ym mis Ionawr, a arweiniodd at helpu i wella'r perfformiad yn erbyn amseroedd aros pedair a 12 awr.
Ond unwaith yn rhagor 67.6% oedd y ganran ar gyfer rheiny oedd yn aros pedair awr, sydd dal yn bell o'r nod o 95% o gleifion.
Mae oedi wrth drosglwyddo i griwiau ambiwlans yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys yn parhau i fod yn broblem, gyda mis Ionawr yn gweld cynnydd arall.
Dywedodd ysgrifennydd iechyd a gofal cymdeithasol Llywodraeth Cymru, Jeremy Miles ei fod yn "falch o weld y cynnydd positif" i'r amseroedd a rhestrau aros.
"Mae 'na dipyn o ffordd i fynd eto a llawer o waith i'w wneud" meddai.
"Ond mae'r data yma yn dangos bod cynlluniau'r GIG i gynyddu capasiti a gwaith i leihau'r amseroedd aros hiraf yn dechrau cael effaith. Dim ond y dechrau yw hyn.
"Dwi'n disgwyl gweld cynnydd pellach yn y misoedd nesaf, o ganlyniad i'r gweithgarwch ychwanegol a gafodd ei ariannu gan y £50m gennym ym mis Tachwedd."
'Ychydig o gysur'
Dywedodd Mabon ap Gwynfor, llefarydd Iechyd Plaid Cymru: "Er bod ffigyrau heddiw edrych yn gadarnhaol, mae wedi cymryd yn rhy hir i gyrraedd yma.
"Rydym wedi gweld arwyddion o restrau aros yn lleihau yn y gorffennol, dim ond i Lafur i lywyddu dros fisoedd yn fwy o aros.
"O ystyried hanes y Llywodraeth hon, bydd pobl Cymru yn gwbl amheus o'u gallu i gadw rhestrau aros i lawr yn barhaol.
Wrth ymateb i'r ffigyrau, dywedodd Andrew RT Davies, Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig: "Dim ond ychydig o gysur y bydd pobl Cymru yn teimlo am y lleihad o lwybrau gofal cleifion.
"Ar ôl misoedd a misoedd o restrau aros GIG Llafur yn cyrraedd y lefelau uchaf erioed, gostyngiad bach yw'r cam cyntaf mewn taith hir, ac mae gen i amheuon bod gan Lafur y ffocws i'n cadw ar y llwybr hwn."