Mwy yn ymweld ag amgueddfeydd Cymru ond llai na cyn Covid

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

  • Cyhoeddwyd

Mae nifer y bobl sy’n ymweld ag amgueddfeydd cenedlaethol Cymru wedi cynyddu 20% dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae'r ffigwr wedi pasio 1.5m am y tro cyntaf ers Covid - gyda phob un o’r saith safle yn croesawu mwy o ymwelwyr.

Ond mae’r ffigyrau'n is nag oedden nhw cyn y pandemig.

Eleni, mae disgwyl i Amgueddfa Cymru wynebu diffyg o £4.5m yn eu cyllideb.

Dywedodd llefarydd ar ran Amgueddfa Cymru ei fod yn "anghenrheidiol ein bod ni'n parhau i fynd i'r afael â'r heriau ariannol er mwyn sicrhau Amgueddfa Cymru sy'n ffit ar gyfer y dyfodol".

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe welodd y cynnydd mwyaf yn nifer yr ymwelwyr rhwng 2023-24. Roedd 236,959 o ymwelwyr, sy'n gynnydd o 30%.

Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan yng Nghaerdydd yw’r atyniad mwyaf poblogaidd o hyd - gyda 611,695 o ymwelwyr - sef cynnydd o 21%.

Roedd cynnydd o 20% yn nifer y bobl wnaeth ymweld ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd - 384,860 o bobl - sef tri chwarter y ffigwr yn y flwyddyn cyn y pandemig.

Amgueddfa Wlân Cymru ger Llandysul, Sir Gaerfyrddin, welodd y cynnydd lleiaf - 3%.

118,368 o bobl wnaeth ymweld â Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru ger Pontypŵl a dyna'r safle welodd yr adferiad gorau yn ôl i’r niferoedd a welwyd cyn Covid.

Roedd nifer yr ymwelwyr ar draws yr holl safleoedd yn ystod haf 2023 30% yn uwch na’r un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwennan Davies yn credu dylai amgueddfeydd Cymru barhau i fod am ddim i'r cyhoedd

Y tu allan i Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd fe ddywedodd Gwennan Davies: "Dwi wedi bod i'r amgueddfa gannoedd o weithiau.

"Dwi'n gweithio yn y byd celfyddydau ac felly rydw i'n ceisio ymweld ag amgueddfeydd cymaint ag sy'n bosib.

"Dwi'n credu dylsai pob amgueddfa fod am ddim i ymwelwyr."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Joseph Leeds ei fod "wedi dysgu llawer" wrth ymweld â'r amgueddfa

Dywedodd Joseph Leeds, "Dylai amgueddfeydd fod ar agor ac am ddim i bawb trwy'r amser.

"Mae'r amgueddfa hon yng Nghaerdydd â chasgliad gwych o baentiadau Ffrengig.

"Fe wnes i ddysgu llawer yn yr amgueddfa pan oeddwn i'n blentyn a rydw i o hyd yn dysgu pethau newydd yma fel oedolyn."

Mae Amgueddfa Cymru - sydd wedi cynnig mynediad am ddim ar draws ei holl safleoedd ers 2002 - yn wynebu diffyg o £4.5m yn eu cyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol hon.

Mae’r sefydliad wedi derbyn £3m yn llai gan Lywodraeth Cymru eleni.

Yn ôl undeb y PCS, mae 140 aelod staff wedi cytuno i adael yn wirfoddol.

Mae’r sefydliad hefyd yn wynebu costau cynnal a chadw gwerth £90m ar draws Cymru, gyda bron i chwarter y gost yn gysylltiedig â gwaith i drwsio’r tô'r Amgueddfa Genedlaethol yn y brifddinas.

Ddydd Mercher, mae ymgynghoriad ar flaenoriaethau drafft Llywodraeth Cymru ar gyfer diwylliant dros y chwe blynedd nesaf yn dod i ben.

'Balch o weld pobl yn dychwelyd'

Mewn datganiad, fe ddywedodd llefarydd ar ran Amgueddfa Cymru: "Fel eraill yn y sector diwylliant, treftadaeth a thwristiaeth, cafodd y pandemig Covid-19 effaith ar ffigyrau ymwelwyr.

"Mae'r sefyllfa wedi'i gymhlethu ymhellach gan heriau economaidd byd-eang.

"Fodd bynnag, rydym yn falch o weld pobl yn dychwelyd i’n hamgueddfeydd ac am y cyfnod Ebrill 2023-Mawrth 2024, denodd Amgueddfa Cymru 1.5 miliwn o ymwelwyr.

"Mae hyn yn cynrychioli dros 80% o nifer yr ymwelwyr cyn y pandemig, ac mae hyn yn gyson â ffigyrau sefydliadau eraill."