'O leiaf 90 o swyddi amgueddfeydd cenedlaethol Cymru i fynd'

  • Cyhoeddwyd
Amgueddfa Genedlaethol CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yng nghanol canolfan ddinesig Caerdydd

Fe fydd amgueddfeydd cenedlaethol Cymru'n torri o leiaf 90 o swyddi yn dilyn toriad i'w cyllid, ac fe allai mwy na hynny fynd eto yn ôl pennaeth y sefydliad.

Mae Jane Richardson hefyd yn rhybuddio y gallai un o'i adeiladau mwyaf adnabyddus. Amgueddfa Cymru Caerdydd, orfod cau gan fod ei gyflwr yn dirywio.

Dywedodd prif weithredwr Amgueddfa Cymru, sydd â saith safle ar draws Cymru, bod ymdopi â thoriad o £4.5m yn y gyllideb yn heriol.

Mewn datganiad mae llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod nhw "mewn trafodaethau gydag Amgueddfa Cymru" a bod eu cyllideb yn galw bod yn rhaid gwneud penderfyniadau anodd iawn".

Dywedodd Ms Richardson wrth raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales y bydd amgueddfeydd hefyd yn codi tâl am ymwelwyr ar gyfer digwyddiadau arbennig fel teithiau tro ac arddangosfeydd, ac yn cau'n gynt yn y gaeaf.

£3m yw'r toriad yn y grant i Amgueddfa Cymru, ond mae'n dweud bod angen mynd i'r afael â bwlch o £4.5m erbyn diwedd Mawrth yn sgil bwlch o flwyddyn i flwyddyn.

Yn ôl Ms Richardson, dim ond cyn y Nadolig y cawson nhw wybod maint y toriad "felly mae wedi bod yn anodd eithriadol i fy holl dîm i wneud newidiadau i'r graddau hynny mewn mater o wythnosau".

Dywedodd mai costau staff sydd i gyfri am 90% o gostau'r amgueddfeydd, a'i bod "erioed wedi dod ar draws dim byd fel hyn" yn unrhyw un o'r cyrff sydd wedi ei chyflogi.

Ni awgrymodd Ms Richardson union rif y swyddi fydd yn diflannu. Yn ôl gwefan Amgueddfa Cymru, maen nhw'n cyflogi dros 600 o bobl ac yn croesawu tua 1.8m o ymwelwyr bob blwyddyn.

Ffynhonnell y llun, Amgueddfa Cymru

Rhybuddiodd bod yna broblem "anferthol" gyda chyflwr Amgueddfa Cymru Caerdydd.

"Oni bai ei bod yn gallu sicrhau mwy o arian ar gyfer yr adeilad yna fe fydd yn rhaid iddo gau," dywedodd.

Dywedodd bod Cyngor Caerdydd eisoes wedi cau'r adeilad drws nesaf, Neuadd y Ddinas, sydd o'r un oedran gydag "yn union yr un problemau â ni".

"Pan mae gyda chi ddŵr yn dod i mewn a systemau trydanol sy'n dirywio, mae yna gwestiwn dros ddyfodol yr adeilad yna beth bynnag.

"Yn amlwg fe fydden ni wedyn yn ystyried ble arall gallwn ni gael presenoldeb yng Nghaerdydd... bydd yna bob math o sgyrsiau ynghylch sut mae gwneud hynny.

"Ond rydym yn glir, fel corff, bod angen gwaith hanfodol i'r adeilad i ni allu parhau i agor i'r cyhoedd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyflwr yr adeilad yng Nghaerdydd yn destun pryder, medd prif weithredwr Amgueddfa Cymru

Dywedodd Ms Richardson bod swyddogion "mor bositif ag y gallwn ynghylch y toriad anferthol yma i'r gyllideb", gyda chynlluniau ad-drefnu a strategaeth newydd i gynyddu incwm.

Roedd yna newyddion da i'r sefydliad wythnos diwethaf pan gyhoeddwyd bod Cronfa'r Loteri Genedlaethol yn rhoi £412,000 er mwyn datblygu Amgueddfa Lechi Llanberis.

Er mor "gyffrous" yw hynny, dywedodd Ms Richardson petai yna "fwy o doriadau ar yr un raddfa, bydde'n rhaid i mi fod yn onest gyda'r llywodraeth ac ein holl rhanddeiliaid na allen ni barhau gyda maint ein hamgueddfa nawr.

"Bydde'n rhaid i ni edrych ar ein hadeiladau."

Dywedodd na fydd yr amgueddfeydd yn ailddechrau codi tâl mynediad, oherwydd fe fyddai hynny'n golygu eu bod yn colli manteision treth ac ar eu colled yn ariannol.

Ond fe allen nhw annog rhoddion gan ymwelwyr, codi tâl am fynediad i ddigwyddiadau arbennig - fel yr arddangosfa bresennol yng Nghaerdydd, The Art of the Selfie, sy'n cynnwys llun gan Vincent vsy'n cynnwys llun gan Vincent van Gogh - a thorri amseroedd agor dros y gaeaf.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae ein cyrff hyd braich wedi bod yn gweithio er mwyn asesu effaith y gyllideb maen nhw wedi ei neilltio. Rydyn ni'n ddiolchgar iddyn nhw am eu gwaith pwysig a'r ffordd mae pobl Cymru yn elwa o hynny.

"Rydyn ni mewn trafodaethau am Amgueddfa Cymru. Rydyn ni wedi bod yn glir bod ein cyllideb ni £700m yn llai mewn termau real na phan gafodd ei osod yn 2021 ac mae'n rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd iawn."