Teyrnged i ferch 'arbennig', 18, fu farw ar y ffordd yn ôl o'r Sioe Fawr

Sally AllenFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Sally yn berson "gofalgar, eithriadol o ddoniol a wastad yn gefnogol," yn ôl ei theulu

  • Cyhoeddwyd

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i chwaer a merch "arbennig" fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd yr A40 yn Sir Gaerfyrddin.

Roedd Sally Allen yn 18 oed ac yn dod o ardal Cilgeti.

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ger Derwen-fawr, rhwng Llandeilo a Chaerfyrddin, am 08:00 fore Mercher.

Dywedodd ei theulu fod ei gwen a'i phersonoliaeth yn "goleuo unrhyw ystafell yr oedd ynddi".

Wrth roi teyrnged iddi, dywedodd y Clwb Ffermwyr Ifanc ble'r oedd hi'n aelod fod Sally yn teithio o'r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd ar adeg y digwyddiad.

'Person llawn hapusrwydd'

Mewn datganiad, dywedodd teulu Ms Allen ei bod yn berson "gofalgar, eithriadol o ddoniol a wastad yn gefnogol a llawn hapusrwydd".

"Roedd Sally yn chwaer arbennig i William ac Issie, ac roedd yn cael ei thrysori gan ei rhieni, Richard a Kate.

"Roedd yn wyres i Nanna, Bamps, Nanny a Pops ac roedd ei modrybedd, ewythrod a'i chefndryd i gyd yn ei charu.

"Roedd ganddi nifer fawr o ffrindiau, ac roedd yn boblogaidd iawn ymhlith y rhai oedd yn ei hadnabod."

Dywedodd ei theulu bod Sally Allen yn mwynhau marchogaeth ac yn aelod o Glwb Ffermwyr IfancFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd ei theulu bod Sally Allen yn mwynhau marchogaeth ac yn aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc

Ychwanegodd y teulu ei bod wedi "cyffwrdd calonnau gymaint o bobl o fewn ei chymuned, ei hysgol, ei gwaith a'i bywyd cymdeithasol".

"Roedd yn goleuo unrhyw ystafell yr oedd ynddi gyda'i gwen a'i phersonoliaeth.

"Ers ei marwolaeth mae wedi dod yn amlwg faint yr oedd pobl yn caru Sally, ac mae'r golled sydyn yn gadael gwagle sy'n amhosib i'w lenwi ym mywydau gymaint o bobl.

"Rydyn ni fel teulu wedi ein llorio, wedi ein syfrdanu, ac rydyn ni'n cael ein cefnogi gan ffrindiau a theulu."

Mae'r heddlu yn dal i apelio ar unrhyw un sydd oedd yn dyst i'r gwrthdrawiad, neu sydd â gwybodaeth all fod o ddefnydd i'r ymchwiliad i gysylltu â nhw.

'Ffrind i bawb'

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, mae Clwb Ffermwyr Ifanc Martletwy wedi disgrifio Sally Allen fel "ffrind i bawb" a'i bod yn "rhan fawr" o'u clwb.

"Sally oedd y person mwyaf cynnes, cariadus gyda gwên fawr ar ei hwyneb a oedd yn goleuo'r 'stafell.

"Roedd yn ffrind i bawb, boed yn hen neu'n ifanc."

Mae'r neges yn sôn bod brawd, chwaer, mam a thad Sally hefyd yn ymwneud llawer â'r clwb ffermwyr ifanc.

Mae hefyd yn nodi bod Ms Allen ar ei ffordd 'nôl o'r Sioe Frenhinol pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.

"Fe dreuliodd ei noson olaf yn y sioe gyda'i ffrindiau yn nhent yr aelodau, yn dawnsio gyda [esgid] Croc ar un droed a trainer ar y llall, dyna'n union sut un oedd Sal!!"

Mae eu meddyliau gyda'r teulu ac mae'r clwb yn cynnig cymorth i unrhyw aelod sydd ei angen.