Hedfan y Ddraig Goch ar neuadd sirol ar ôl cwynion
- Cyhoeddwyd
Mae baner y Ddraig Goch wedi cymryd lle Jac yr Undeb ar un o brif adeiladau cyhoeddus Sir Fynwy ar ôl cyfres o gwynion gan gyn-athro.
Mae Peter Williams wedi bod mewn dadl gyda'r Neuadd Sirol ers Mehefin 2023, pan welodd y faner Brydeinig yn cael ei hedfan o'r adeilad, a dim arwydd o faner Cymru.
Ar 1 Mawrth eleni, sylweddolodd Mr Williams fod yr adeilad cyhoeddus, sy'n cael ei redeg fel amgueddfa, ddim yn dilyn ei bolisi ei hun o chwifio'r Ddraig Goch ar Ddydd Gŵyl Dewi.
Dywedodd lefarydd ar ran Cyngor Sir Fynwy: "Ar ôl adborth a sylwadau gan y gymuned am hedfan baner Cymru, rydym yn falch o wneud hynny am y misoedd nesaf yn y Neuadd Sirol."
Mae'r Ddraig Goch wedi bod yn hedfan uwchben yr adeilad 300 oed ers i Mr Williams wneud ei gwyn diweddaraf i'r cynghorwr Catherine Fookes ac arweinydd y cyngor Mary Ann Brocklesby.
“Roedden nhw’n gefnogol iawn ac wedi eu siomi gan y sefyllfa, ac mae baner Cymru bellach yn chwifio’n falch ar y Neuadd Sirol,” meddai Mr Williams.
Fe wnaeth Mr Williams gwestiynu absenoldeb baner Cymru o'r adeilad rhestredig Gradd I am y tro cyntaf ym mis Mehefin 2023.
Yn ôl Mr Williams, roedd y cyngor wedi honni bod yn rhaid chwifio Jac yr Undeb uwchben y Ddraig Goch a bod natur y polyn yn golygu nad oedd hynny’n bosibl.
Fe anfonodd staff y Neuadd Sirol gopi o'r protocol yr oeddent yn dilyn mewn ebost at Mr Williams, o'r enw UK Government: Flying Flags; A plain English Guide.
Dywedodd Mr Williams ei fod wedi dweud wrth y cyngor fod y protocol yn berthnasol i Loegr, nid Cymru.
'Teimlad gwrth-Gymreig'
“Dydw i ddim wedi cael unrhyw ymateb ynglŷn â phwy sy’n gyfrifol am weithredu'r canllawiau Saesneg yma yng Nghymru,” meddai Mr Williams, a symudodd gyda’i wraig i Sir Fynwy ym mis Tachwedd 2020 ar ôl dysgu yn Lloegr am dros 30 mlynedd.
“Mae Sir Fynwy hanner ffordd rhwng ein merch yn Sir Gaerwrangon a'n mab yng Nghaerdydd ac yn ardal ddymunol i fyw ynddi, ac roedden ni eisiau dod yn ôl i Gymru,” meddai Mr Williams sy’n wreiddiol o Aberdâr.
Ond dywedodd ei fod yn bryderus bod chwifio baner yr Undeb yn enghraifft o ddiffyg parch at ddiwylliant Cymreig yr ardal.
“Fe symudon ni yn ystod Covid, ond wrth i bethau fynd yn ôl i normal dechreuais sylweddoli bod Jac yr Undeb ar yr adeilad cyhoeddus ac y dylai fod â baner Cymru," meddai.
"Synhwyrais fod yna deimlad gwrth-Gymreig ym Mynwy, fel llythyrau yn y papurau newydd yn cwyno am y Gymraeg neu ddwyieithrwydd.”
Dywedodd y cyngor eu bod yn falch o hedfan y Ddraig Goch o'r Neuadd Sirol yn dilyn sylwadau gan y cyhoedd, ac y byddan nhw'n adolygu eu trefniadau gosod baneri yn y dyfodol".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd25 Ionawr
- Cyhoeddwyd14 Chwefror