Treth y cyngor: Faint mae fy mil yn cynyddu?

  • Cyhoeddwyd
Dinbych-y-PysgodFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae biliau treth y cyngor yn dal i fod yn seiliedig ar werth eiddo yn 2003

Mae cynghorau yng Nghymru yn wynebu ceisio llenwi bylchau ariannu o dros £330m yn y flwyddyn i ddod.

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi amcangyfrif y gallai'r diffyg fod mor uchel â £432m.

Mae disgwyl i godiadau treth y cyngor amrywio - o 3% yng Nghaerdydd i dros 16% yn Sir Benfro.

Dros yr wythnosau nesaf bydd cynghorau yn penderfynu faint y bydd pob un ohonom yn ei dalu, a sut y byddant yn mantoli eu llyfrau ac yn darparu gwasanaethau hanfodol ar adeg o bwysau costau dwys.

Faint fydd treth y cyngor?

Dyma sut mae codiadau arfaethedig yn nhreth y cyngor yn edrych ledled Cymru (% y newid rhwng 2024-25 a 2023-24).

  • Sir Benfro - 16.3%

  • Ceredigion - 13.9%

  • Castell-nedd Port Talbot - 10%

  • Ynys Môn - 9.8%

  • Conwy - 9.67%

  • Pen-y-bont ar Ogwr - 9.5%

  • Sir Ddinbych - 9.34%

  • Gwynedd - 9%

  • Casnewydd - 8.5%

  • Powys - 7.5%

  • Sir Fynwy - 7.5%

  • Caerffili - 6.9%

  • Bro Morgannwg - 6.7%

  • Sir Gaerfyrddin - 6.5%

  • Wrecsam - 6%

  • Sir y Fflint - 5%

  • Blaenau Gwent - 5%

  • Abertawe - 4.99%

  • Torfaen - 4.95%

  • Rhondda Cynon Taf - 4.9%

  • Merthyr Tudful - 4.7%

  • Caerdydd - 3%

Ar gyfartaledd, talodd aelwyd £1,879 mewn cartref Band D yn y flwyddyn ddiweddaraf.

Ond dim ond peth o'r arian sy'n talu am wasanaethau llywodraeth leol yw treth y cyngor, sy'n amrywio o ofal cymdeithasol, addysg i gasglu gwastraff, llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden.

O ble arall mae'r arian yn dod?

Bob blwyddyn, mae pob cyngor yn cael arian grant gan Lywodraeth Cymru. Ar gyfartaledd, mae hyn wedi codi 3.1% ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Ond cafodd rhai cynghorau fwy nag eraill. Mae gan gyngor Casnewydd 4.7% ychwanegol, tra bod Conwy a Gwynedd wedi cael codiad o 2% yn unig.

Pam fod pethau'n costio cymaint?

Chwyddiant - cost gynyddol ynni a thanwydd er enghraifft - a thalu'r cyflog byw yw dau o'r ffactorau mwyaf.

Gan fod cynghorau yn gyfrifol am rai gwasanaethau yn ôl y gyfraith - fel gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd yr amgylchedd - nid oes llawer o le i fod yn hyblyg pan fydd costau'n codi.

Gall hynny adael gwasanaethau eraill, fel llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden, yn fwy agored i doriadau.

Mae cynghorau eleni yn nodi pwysau sylweddol ar y galw, a chost gofal cymdeithasol a gwasanaethau plant yn arbennig.

Mae Cyngor Ceredigion yn wynebu diffyg o £14.6m yn y gyllideb ac yn bwriadu cynnig cynnydd o 13.9% yn nhreth y cyngor.

Mae wedi ei galw y "gyllideb llymaf eto ac yn waeth nag a ragwelwyd yn flaenorol".

Mae gan y cyngor lleiaf, Merthyr Tudful, ddiffyg o hyd o £13m, a galwodd y sefyllfa'n "anhygoel o heriol".

Mae cyngor bach arall, Torfaen, wedi dweud ei fod yn gobeithio mantoli ei lyfrau ar ôl gwneud £5.2m o arbedion mewnol.

Beth fu'r ymateb?

Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod cynghorau wedi colli £1bn mewn incwm dros y blynyddoedd diwethaf, gan adael "bylchau ariannu enfawr."

Dywedodd arweinydd cyngor Ynys Môn, Llinos Medi na fyddai cyhoeddiad Llywodraeth Cymru yr wythnos ddiwethaf o £25m ychwanegol i gynghorau "yn cyffwrdd ag ochrau'r tyllau" yng nghyllidebau gwasanaethau lleol.

Dywedodd arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Andrew Morgan, sy'n bennaeth ar gyngor Rhondda Cynon Taf, fod maint y pwysau yn golygu y bydd angen gwneud "penderfyniadau hynod anodd" o ran codi cyfraddau treth y cyngor a darparu gwasanaethau.

Mae Llywodraeth Cymru, yn y cyfamser, yn rhoi'r bai ar y cyllid y mae hi yn ei dro yn ei gael gan Lywodraeth y DU, a dywedodd y bu'n rhaid iddi wneud rhai penderfyniadau anodd iawn i ail-lunio ei chyllideb yn radical.

"Rydym yn cydnabod bod y setliad yn brin o'r cyllid sydd ei angen i gwrdd â'r holl bwysau chwyddiant sy'n wynebu gwasanaethau a bod awdurdodau lleol yn wynebu penderfyniadau anodd wrth iddynt osod eu cyllidebau," meddai.

"Mae'n bwysig eu bod yn ymgysylltu'n ystyrlon â'u cymunedau lleol wrth iddynt ystyried eu blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod."

Yn y cyfamser, bydd cynghorau yn gwneud penderfyniadau terfynol ar eu cyllidebau - ac yn gosod lefel treth y cyngor - erbyn diwedd yr wythnos gyntaf ym mis Mawrth.