'Cyfle i newid bywydau' yng Nghwpan y Byd i'r Digartref

Bydd Cymru yn un o 48 o wledydd sy'n cystadlu yng Nghwpan y Byd i'r Digartref fis yma
- Cyhoeddwyd
Mae gan chwaraewyr Cymru gyfle i newid eu bywydau wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer Cwpan y Byd i'r Digartref yn Norwy.
Bydd wyth o fenywod o Gymru sydd wedi profi digartrefedd, problemau iechyd meddwl neu gaethiwed yn cynrychioli'r wlad rhwng 23 a 30 Awst.
Dyma fydd yr 20fed tro i'r twrnament gael ei gynnal.
Fe fydd y Cymry ymhlith mwy na 500 o chwaraewyr o 48 o wledydd a fydd yn uno nid yn unig i rannu eu cariad at bêl-droed, ond hefyd i sbarduno newid yn y gobaith o gael dyfodol disgleiriach.
'Tîm mor arbennig'
"Maen nhw 'di gweithio'n mor galed dros y misoedd diwethaf," meddai Caitlin Thomas, rheolwr datblygu a gweithrediadau Pêl-droed Stryd Cymru.
"Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda'r grŵp ers mis Chwefror - dyna pryd wnaethon ni ddewis y tîm ac maen nhw wedi gweithio'n galed dros y misoedd diwethaf.
"Bob wythnos, maen nhw wedi bod yn teithio mor bell o ogledd a de Cymru i gael y cyfle hwn i chwarae dros Gymru.
"Dechreuodd rhai chwarae gyda'i gilydd am y tro cyntaf ychydig fisoedd yn ôl, ond maen nhw wir wedi dod at ei gilydd fel tîm.
"Maen nhw'n dîm mor arbennig.
"Dim ond i un Cwpan y Byd y gallan nhw fynd, felly mae cael y cyfle hwn yn arbennig iawn.
"Mae'n gyfle i newid bywydau pobl mewn gwirionedd."

Cafodd Cwpan y Byd i'r Digartref ei gynnal yng Nghaerdydd yn 2019
Mae cyn-gôl-geidwad Cymru Jo Price wedi bod yn ymwneud â phêl-droed stryd ers tair blynedd, ac yn hyfforddi tîm y menywod.
Dywedodd y bu hi''n "fraint lwyr" gweithio gyda'r grŵp.
"Mae gan bawb eu stori unigol ac i oresgyn yr anawsterau y maen nhw wedi'u hwynebu a gallu cyrraedd y pwynt yma, mae'n wirioneddol ysbrydoledig," meddai.
"I allu cynrychioli Cymru ar y llwyfan mwyaf yn 20fed rhifyn Cwpan y Byd i'r Digartref - a dwi'n credu bod y twrnament yma wedi cael y nifer fwyaf o dimau yn cystadlu - mae'n mynd i fod yn anhygoel.
"Am daith fydd hi i'r menywod sy'n ein cynrychioli ni - dylai pawb fod mor falch o'u hunain."
Bydd Cymru yn cychwyn eu hymgyrch yn Rådhusplassen ddydd Sadwrn.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2019