Galw am fwy o lyfrgelloedd teganau i 'arbed arian a gwastraff'

Teganau
Disgrifiad o’r llun,

Mae llyfrgelloedd teganau helpu lleihau gwastraff ac yn helpu arbed arian i rieni, yn ôl Cyfeillion y Ddaear

  • Cyhoeddwyd

Ry' ni'n hen gyfarwydd â'r arfer o fynd i lyfrgell i fenthyg llyfrau, ond beth am y syniad o lyfrgell teganau?

Mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru a Chomisiynydd Plant Cymru yn cefnogi menter ar y cyd rhwng Cyfeillion y Ddaear Cymru, Blynyddoedd Cynnar Cymru a The Honeycomb Toy Library yng Nghaerdydd.

Pwrpas y fenter ydy datblygu mwy o lyfrgelloedd teganau yng Nghymru.

Yn ôl Jenny Lloyd o Cyfeillion y Ddaear Cymru, "mae hwn yn gyfle i deuluoedd arbed arian achos bydd modd iddyn nhw fenthyg teganau yn lle prynu rhai newydd".

Jenny Lloyd
Disgrifiad o’r llun,

"Mae hwn yn gyfle i deuluoedd arbed arian," meddai Jenny Lloyd

Dywedodd Ms Lloyd y bydd cyfle i gymdeithasu yn y llyfrgelloedd hefyd.

"Maen nhw hefyd yn cael eu cynnal mewn llefydd cymdeithasol, so mae siawns i rieni ddod at ei gilydd i gymdeithasu a hefyd i fenthyg teganau newydd," meddai.

"Mae'n rhoi mynediad i blant at deganau y bydde nhw, falle, ddim yn gallu fforddio, a hefyd yn lleihau faint o blastig sy'n mynd mewn i'r amgylchedd."

Ychwanegodd ei bod yn gobeithio am fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru.

"Hoffwn i weld Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn creu rhwydwaith o'r rhain, reit ar draws Cymru."

Gwenan hefo'i phlentyn.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwenan yn credu ei bod hi'n arbed arian drwy ddefnyddio'r llyfrgell

Cafodd y llyfrgell deganau gyntaf ei sefydlu yn Los Angeles ym 1935, mewn ymateb i'r heriau a gododd yn ystod y Dirwasgiad Mawr.

Mae tua 1,000 o lyfrgelloedd o'r fath yn bodoli ar draws y Deyrnas Unedig erbyn hyn, ond dim ond llond llaw ohonyn nhw sydd yng Nghymru.

Mae un o'r rheiny yn ardal Grangetown yng Nghaerdydd, ac yn ôl Gwenan - un o'r mamau sy'n ei ddefnyddio - mae'r ffaith bod y llyfrgell am ddim, yn beth da.

"Mae grwpiau'n gallu costio, ma' nhw'n gallu bod yn ddrud, ond mae'r Toy Library yn rhad ac am ddim, ond ni'n gallu hurio teganau hefyd," meddai.

"Os bydde nhw'n cael eu prynu bydde ni'n gwario lot o arian, ond ni'n gallu trio nhw mas am fis neu ddau ar y tro."

Ychwanegodd bod manteision mawr i lyfrgelloedd o'r fath: "Gyda ffrindiau sy'n byw mewn ardaloedd bach mwy gwledig s'dim pethe fel hyn ar gael iddyn nhw.

"Fi bendant yn meddwl bod e'n benefit mawr iawn, mae'n wych."

'Plant yn gallu diflasu ar deganau'n hawdd'

Yn ôl Megan, mam arall sy'n defnyddio'r gwasanaeth, mae'n "grêt gallu dod, benthyg teganau am rywbeth fel dwy bunt am fis".

"Felly ni ddim yn gorfod prynu pob tegan mae'r ferch yn hoffi, achos maen nhw'n gallu diflasu ar deganau'n ddigon hawdd," esboniodd.

"Mae'n grêt benthyg nhw am fis, dod â nhw nôl a chael rhywbeth arall, a helpu ni'n ariannol fel teulu bach."

Mae plant Ysgol Gynradd Gymraeg Hamadryad yng Nghaerdydd hefyd yn cefnogi'r syniad o ddatblygu rhagor o lyfrgelloedd teganau.

Dywedodd Efa, un o ddisgyblion yr ysgol: "Ma' gen i frawd bach so dwi'n meddwl bydde cael rhywbeth iddo fe am gwpwl o wythnosau yn syniad da iddo fe gael blas cyn prynu pethau."

Ychwanegodd Georgie ei fod yn "dda i'r amgylchedd, ac mae'n dda i bobl heb lot o arian."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n cefnogi awdurdodau lleol i sefydlu hybiau lle bod modd ail ddefnyddio nwyddau, gan gynnwys teganau - fel bod llai o nwyddau'n cael eu gwastraffu.