Prif Stiward yr Eisteddfod, Cledwyn Ashford, yn ymddeol wedi 18 mlynedd

Cledwyn Ashford Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cledwyn Ashford yn un o hoelion wyth yr Eisteddfod

  • Cyhoeddwyd

Mae un o wynebau cyfarwydd y maes yn rhoi'r gorau i'w swydd wedi 18 mlynedd o wasanaeth.

Ers 2007 mae Cledwyn Ashford wedi bod yn Brif Stiward yr Eisteddfod Genedlaethol, gan sicrhau fod popeth mewn trefn wrth i filoedd ymweld â'r brifwyl.

Dywedodd iddo helpu gyda'r stiwardio am flynyddoedd cyn ei ethol yn Brif Stiward.

Ac er ei fod yn edrych 'mlaen i drosglwyddo'r awenau i "rywun bach mwy ifanc", dywedodd y bydd yn gweld eisiau'r swydd yn fawr.

'Diwrnodau hir'

Mae'n swydd sydd â thipyn o gyfrifoldeb, ac yn ôl Cledwyn, mae wedi dysgu lot dros y blynyddoedd.

"Adeg hynny doeddwn i ddim yn deall bod hi'n gymaint o gyfrifoldeb, neu fyddwn i ddim wedi cymryd y swydd!"

"Delio efo pobl ydy un o'r pethau pwysicaf. Mae hynny'n angenrheidiol pan yn delio efo'r bobl sydd wedi dod mewn i helpu'r Eisteddfod dros y blynyddoedd.

"'Da chi'n gorfod bod yn weithgar hefyd. Mae'n ddiwrnod hir.

"Yn 2007 ac am flynyddoedd wedyn oeddan ni'n dechrau am saith o'r gloch y bore tan hanner nos bob dydd.

"Hefyd 'da ni'n gweithio wythnos cyn yr Eisteddfod. Dyna'r amser pan 'da ni'n cael pethau at ei gilydd.

"Mae 'na lot o waith i'w wneud, y fire extingushers, y maes carafanau, maes pebyll, pob adeilad. Mae'r stondinwyr isio gwybod lle maen nhw'n mynd.

"Mae 'na ymarferion wythnos cynt. Felly 'da ni'n gyfrifol am edrych ar ôl pobl, 'neud yn siŵr eu bod nhw'n saff, eu bod nhw'n ddiogel."

Arwydd steddfodFfynhonnell y llun, Aled Llewelyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal yn Wrecsam yr wythnos hon

Aeth ymlaen i sôn am fwy o'i hanes yn gweithio yn yr Eisteddfod.

"O 2007 am ryw 10 mlynedd roedd yr amser roedden ni'n gorfod treulio yma yn anhygoel, ac roedd o'n ormodol a dweud y gwir, ac roedd y gofynion, wel roeddech chi'n covero pob math o bethau.

"Yn y pump, chwe, mlynedd diwethaf mae pethau wedi newid. Mae pethau ar y maes wedi newid.

"Mae 'na ddiod alcoholig yn cael mynd mewn i wahanol lefydd, ac mae hynny wedi neud o'n wahanol. Ond mae'r cyfrifoldeb arnom ni wedi newid hefyd.

"Ar ôl wyth o'r gloch y nos mae'r cyfrifoldeb fel petai yn mynd drosodd i security. Os ei di at Lwyfan y Maes gyda'r nos mae 'na filoedd yno.

"Wel ma' lot o'n stiwardiaid ni, fel fi, mewn oed, a fedri di ddim disgwyl iddyn nhw edrych ar ôl cynulleidfa fel 'na, so ma' security yn cymryd drosodd gyda'r nos."

Fe ddechreuodd Cledwyn Ashford yn y swydd yn 2007Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Fe gychwynnodd Cledwyn Ashford yn y swydd yn 2007

Fel allai rhywun ddychmygu, wedi nifer o flynyddoedd wrth y llyw mae 'na sawl stori ddigri yn dod i'r cof, a Cledwyn yn barod i rannu rhai yn fwy nag eraill.

"Mae 'na sawl stori, rhai alla i ddim eu hadrodd, ac eraill alla i siansio," meddai.

"Un o'r straeon gorau, a dwi'n gobeithio neith bobl faddau i fi am ddweud hon.

"Roedd yr Eisteddfod yn y de, ac roedd 'na ddwy ddynes mewn oed wedi bod mewn cyngerdd yn sefyll yn y ganolfan groeso, ac roedd 'na dacsi fod yn eu nôl nhw.

"Roedd hi wedi hanner nos a dyma ni'n mynd draw atyn nhw a sôn 'ydach chi'n oce?' a dyma nhw'n dweud 'o ydan, ma' 'na dacsi yn ein hôl ni'.

"Wel ydy o'n hwyr?' medden i, 'wel ydi' medden nhw. 'Ydych chi'n siŵr ei fod e'n dod i hôl chi?', 'Wel ydyn, ni'n dibynnu arno fo'."

"Wel gwrandewch medda fi, peidiwch bod yn wirion mae gen i bunkabin yn fan 'cw a dyna lle dwi'n cysgu, ac mae 'na ddigon i le i chi gysgu fan 'na a dwi'n dweud wrthoch chi, dwi mor flinedig fydda i wedi cysgu'n syth bin'.

"A dyma'r ddynes yma, ma'n rhaid bod hi yn ei 80au neu 90au, ac fe ddwedodd hi 'drych fy nghariad i, os fysen i yn y cabin 'na, fydde ti ddim yn cysgu dim!"

'Fyddai'n methu o'n ofnadwy'

Ag yntau'n 73 oed eleni, dywedodd ei fod yn amser i rywun iau gymryd yr awenau.

"Dwi wedi cael cyfnod mor dda ac wedi mwynhau cymaint, ond mae'r gofynion wedi mynd yn fwy, a dwi'n teimlo bod hi'n well i rywun bach mwy ifanc i gymryd drosodd ac wedyn fedran nhw rhoi blynyddoedd i mewn i helpu'r Eisteddfod.

"Ond fydda i'n methu fo'n ofnadwy. Does dim diwrnod yn mynd heibio lle 'da ni ddim yn cael hwyl."

Ac oes, wedi blynyddoedd o brofiad, mae gan Cledwyn gyngor i bwy bynnag fydd yn cymryd yr awenau.

"Mae'n angenrheidiol bod chi'n gallu delio gyda phobl. A hefyd bod yn gwrtais gyda phobl a bod nhw'n deall yn union beth ydy'r gofynion.

"Dwi'n gobeithio bo' fi wedi gallu bod yn ffrind da iddyn nhw, bod nhw wedi gallu dod ata i pan ma' 'na broblem.

"Ond hefyd, medru rhoi'r amser mewn. Dyw hi ddim yn job i rywun sy'n edrych ar y watch."

'Mwynhau mewn ffordd gwahanol'

Ar ddiwedd cyfnod Cledwyn fel Prif Stiward mae'n cyfaddef bod 'na bethau y bydd yn gweld eisiau wrth adael y siaced lachar ar ôl.

"Y cwmni - ni'n griw clos tîm y prif stiward. Bydda i'n methu gweithio gyda swyddogion yr Eisteddfod.

"Hogia'r maes. Mae hogia'r maes yn gweithio mor galed a does neb yn gweld nhw. Byddai'n methu awyrgylch yr Eisteddfod."

Yn gefnogwr brwd o Glwb Pêl-droed Wrecsam, mae Cledwyn yn gobeithio y bydd ganddo ragor o amser i wylio'r tîm.

Ond peidiwch â disgwyl y bydd y pêl-droed yn ei gadw draw o'r maes yn y dyfodol.

"Dwi'n gobeithio medrwn ni fynd o'r flwyddyn nesa 'mlaen, a dod am ddiwrnod, a ga'i fynd at y bar a chael peint bach, achos dy'n ni ddim yn cael gwneud hynny pan ni'n gwisgo'r siacedi yma.

"Fedra i gael un neu ddau a sgwrsio efo ffrindiau a mwynhau'r Eisteddfod. Dwi'n mwynhau hi rŵan, ond mwynhau mewn gwahanol ffordd wrth gwrs."