Gwobr arbennig i ferch o dŷ ble bu cam-drin domestig
- Cyhoeddwyd
“Unrhyw un sy’n dioddef trais yn y cartref, dwi’n gwybod bod o’n anodd, ond dywedwch wrth rywun. 'Neith o helpu chi a gwneud eich bywyd cymaint yn well.”
Dyna neges Lia Thomas, 18 o Bwllheli, sydd wedi ennill Gwobr Dewi Sant fel Person Ifanc 2024.
Pan yn ifanc roedd Lia'n yn byw mewn tŷ ble bu cam-drin domestig.
Yn dilyn digwyddiad o drais yn y cartref cafodd ei thad ei arestio a’i gael yn euog o reoli drwy orfodaeth.
“Roedd o’n gyfnod anodd iawn, ac yn drawmatig iawn,” meddai Lia.
“Mae gen i frawd sydd ag anghenion ychwanegol ac mae angen cymorth arno fo.
"O’n i’n gwarchod o rhan fwya’r amser yn ystod y cyfnod hwnnw ac felly ddim yn cael amser gyda ffrindiau neu deulu.
"O’n i hefyd yn gwneud popeth o’n i’n gallu i gefnogi mam, ond roedd o’n anodd.
“Yn edrych nôl dwi’n difaru peidio â dweud rhywbeth yn gynt.
"Falle mae eich rhieni chi’n dweud wrthych chi i beidio sôn bod yna broblem, ond dwi wedi sylweddoli, os byddwn i wedi rhannu beth oedd yn digwydd yn gynt, byddai bywyd fi wedi bod llawer yn hapusach.”
Er gwaethaf ei sefyllfa yn y tŷ, llwyddodd Lia i gwblhau ei blwyddyn olaf yn yr ysgol a delio â’r stigma o ganlyniad i’r hyn ddigwyddodd.
“Ar y pryd o’n i ddim am fynd i’r ysgol, o’n i’n nerfus iawn am y peth," meddai.
"Ond dwi’n cofio meddwl, mae hi’n well mynd achos mae’n saffach na bod yn y tŷ.
"Daeth y pennaeth blwyddyn fyny ata i a dweud 'os wyt ti eisiau sgwrs neu rywbeth tyrd yma, dwi yma i ti'.”
“Ar ddyddiau anodd o’n i’n mynd at rywun yn yr ysgol, cael sgwrs gyda nhw a cholli un neu ddau o wersi.
"Ond mwy nag unrhyw beth, nes i jyst parhau gorau o’n i’n gallu.”
Erbyn hyn mae bywyd Lia a’i theulu wedi gwella’n sylweddol ac fe gafodd Lia ei henwebu yn un o gategorïau Gwobrau Dewi Sant.
Dyma wobrau cenedlaethol i Gymru sy’n dathlu rhai o bobl fwyaf dewr a disglair y wlad.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Eleni fe gafodd 500 o bobl eu henwebu gan y cyhoedd mewn 10 o gategorïau.
Daeth Lia i'r brig yn y categori person ifanc wedi i’w mam Swsan Williams ei henwebu fel ffordd o ddiolch iddi am ei chymorth yn ystod yr adegau anodd i’r teulu.
“Dwi’n ofnadwy o falch o Lia,” dywedodd Swsan.
“Mae hi’n hogan fach gwrtais a hapus. Cefnogodd hi fi a’i brawd yn gyson yn ystod y cyfnod anodd iawn yna.
"Dwi am iddi wybod pa mor hynod o ddiolchgar dwi a’i brawd ohoni."
Prif Weinidog Cymru fuodd yn cyhoeddi enillydd pob categori mewn seremoni arbennig yng Nghaerdydd nos Iau.
Dywedodd Lia bod ennill y wobr "yn syrpreis llwyr... pan nath enw fi ddod i fyny nes i jyst dechra' crio".
Ychwanegodd: "Dwi 'di bod trwy llawer a 'ŵan ma' petha' da yn dod i ni gyd fel teulu... eto heno 'ma wedi llwyddo efo rwbath arall."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2021