Caerdydd: Pedwar yn cyfaddef cymryd rhan mewn terfysg
![terfysg trelai](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/3840/cpsprodpb/79a6/live/050c0fa0-7745-11ef-8df0-fdff75f5dac1.jpg)
Cafodd ceir eu rhoi ar dân a gwrthrychau eu taflu at yr heddlu yn yr anhrefn
- Cyhoeddwyd
Mae pedwar o bobl wedi cyfaddef i fygythiadau a throseddau difrod mewn anhrefn torfol yng Nghaerdydd y llynedd.
Cafodd heddlu terfysg a'r gwasanaethau brys eu galw i ardal Trelái ar 22 Mai ar ôl i hyd at 150 o bobl ymgasglu wedi gwrthdrawiad angheuol yn yr ardal.
Bu farw Kyrees Sullivan, 16, a Harvey Evans, 15 yn y gwrthdrawiad.
Cafodd ceir eu rhoi ar dân a gwrthrychau, gan gynnwys tân gwyllt, eu taflu at yr heddlu.
Ymddangosodd naw person arall yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Gwener, ar ôl i 17 o bobl ymddangos ar gyhuddiadau ddydd Iau.
![Jayden a Morgan Williams](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1600/cpsprodpb/4e4d/live/c3618c50-774a-11ef-8b29-dbfbc35f7274.jpg)
Plediodd Jayden a Morgan Williams yn euog i fygwth difrod troseddol
Plediodd efeilliaid 18 oed, Morgan a Jayden Williams, yn euog i fygwth difrod troseddol.
Roedd Morgan wedi bygwth llosgi’r orsaf heddlu leol, clywodd y llys, ac wedi bygwth dod o hyd i gartrefi swyddogion heddlu ac ymosod arnyn nhw.
Dywedodd: "Ar fedd fy mrawd, mae eich gorsaf heddlu yn mynd ar dân heno."
Roedd ei frawd Jayden wedi bygwth ffrwydro ceir yr heddlu yn y fan a’r lle.
Cafodd y ddau eu rhyddhau ar fechnïaeth ddiamod ac mae disgwyl iddyn nhw ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ar 21 Hydref.
![Janine Refell](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/913/cpsprodpb/8262/live/fcb54c80-774a-11ef-8b29-dbfbc35f7274.jpg)
Mae Janine Refell wedi cyfaddef difrodi car heddlu
Plediodd Janine Refell, 53, o Drelái yn euog i ddifrodi car heddlu.
Yn ystod yr aflonyddwch fe chwalodd ffenestr gefn y car oedd wedi ei barcio mewn stryd gyfagos, clywodd y llys.
Cafodd ei rhyddhau ar fechnïaeth ddiamod.
Mae McKenzie Pring, 19, a Lee Robinson, 37, y ddau o Gaerau, yn wynebu cyhuddiad o derfysg (riot).
Ni chafodd unrhyw ble ei chyflwyno ac mae disgwyl iddyn nhw ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ar 21 Hydref.
![Kyrees Sullivan, 16, a Harvey Evans, 15](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/4028/live/d7912c10-774c-11ef-8c1a-df523ba43a9a.jpg)
Roedd mamau Kyrees Sullivan a Harvey Evans yn y llys ar gyfer gwrandawiadau'r diffynyddion dan 18 oed ddydd Gwener
Yn ddiweddarach fe wnaeth wyth diffynnydd rhwng 15 ac 17 oed ymddangos yn y llys, ond nid oes modd eu henwi am resymau cyfreithiol.
Fe wnaeth un bledio'n euog i achosi difrod troseddol, ac fe gafodd ei ryddhau ar fechniaeth cyn ei wrandawiad dedfrydu ar 26 Tachwedd.
Fe wnaeth y saith arall bledio'n ddieuog, ac mae disgwyl i'r achos yn eu herbyn ddechrau ar 16 Rhagfyr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Medi 2024