Balchder Cymraes Bwnjabaidd yn ei gwreiddiau

Trishna Singh-DaviesFfynhonnell y llun, Trishna Singh-Davies
  • Cyhoeddwyd

Cafodd Trishna Singh-Davies ei geni a'i magu yng Nghaerfyrddin, i rieni Pwnjabaidd o Faleisia.

Doedd gweld pobl oedd yn edrych fel hi ddim yn beth cyffredin pan oedd hi'n ifanc, meddai. Ond mae hi'n falch o'i hunaniaeth gymysg, ac eisiau rhannu pob rhan ohoni gyda'r byd.

Cerddoriaeth

DJ yng Nghaerdydd ydi Trishna, sy'n rhan o lawer o brosiectau celfyddydol yn ne Cymru sy'n rhoi llais i artistiaid o liw ac yn cefnogi artistiaid benywaidd yn y diwydiant cerddorol. Mae hi hefyd yn cynnal gweithdai DJio sy'n cyfuno meddwlgarwch a niwrowyddoniaeth.

Ffynhonnell y llun, Trishna Singh-Davies

Cafodd ei dylanwadu gan y gerddoriaeth Hindi oedd yn chwarae yng nghartref y teulu yng Nghaerfyrddin, meddai, cyn iddi symud ymlaen at gerddoriaeth hip-hop a drum and bass dan ddylanwad ei chefnder.

Bellach, mae'r Gymraeg yn rhan o'i harbrofi cerddorol. Ysgrifennodd a pherfformiodd ei rap cyntaf yn ddiweddar, ac roedd yn bwysig iddi ei fod yn Gymraeg a Saesneg. Mae hi hefyd yn aelod o grŵp cerddorol o ferched, The TeiFi Verse, sydd yn perfformio mewn wyth iaith – gan gynnwys Cymraeg a Pwnjabi – ar eu halbwm diweddaraf.

"Pan o'n i'n tyfu lan, doedd yna ddim llawer o bobl oedd yn edrych fel fi, yn enwedig rhai oedd yn siarad Cymraeg. Nawr mae yna gymaint o Gymry Cymraeg o liw, a dwi eisiau bod yn rhan o'r criw yna. Dydi'r Gymraeg ddim jest i bobl wyn; mae hi i bawb.

"Dwi eisiau bod beth o'n i ddim yn ei weld pan o'n i'n iau."

Ffynhonnell y llun, Trishna Singh-Davies
Disgrifiad o’r llun,

Trishna wedi ei gwisgo fel Sali Mali wrth DJio

Wedi ei magu yng Nghaerfyrddin i rieni Pwnjabaidd o Faleisia, prin iawn oedd y bobl eraill o liw o'i chwmpas, ac fe brofodd ambell i achos o hiliaeth tuag ati dros y blynyddoedd.

Fodd bynnag, mae hi'n hynod falch o'i hunaniaeth gymysg, ac yn angerddol iawn am basio pob rhan ohoni i lawr i'w mab tair oed, Hira.

Crefydd

Pobl o ardal Indiaidd y Pwnjab yw teulu Trishna. Symudodd ei Mam-gu a'i Thad-cu ar y ddwy ochr i Maleisia, lle ganwyd ei rhieni. Mae'r teulu felly yn dilyn crefydd Siciaeth; "crefydd hyfryd" meddai Trishna.

"Mae'n cynnwys y dysgeidiaethau da o grefyddau Hindŵaeth ac Islam, ac mae'n credu fod pobl yn gyfartal. Mae disgwyl i ni gyfrannu cyfran o'n cyflog i elusen ac i wneud rhywbeth caredig bob dydd; mae pob teml yn unrhywle dros y byd yn gweini cinio i bwy bynnag sydd ei angen bob dydd.

"Unwaith fydd Hira yn cael ei seremoni enwi, byddwn ni'n mynd i'r deml yn fwy rheolaidd. Dyma un o'r pethau dwi eisiau ei basio mlaen iddo. Dwi am ei fagu yn Siciaidd; geith e benderfynu pan mae'n hŷn os ydi e am barhau."

Ffynhonnell y llun, Trishna Singh-Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae Hira wedi cael gwersi DJio o oed ifanc... gwersi Pwnjabi sydd nesaf iddo

Ieithoedd

Rhywbeth arall agos at galon Trishna, yw ieithoedd. Mae'r teulu yn siarad Saesneg a Chymraeg, a bydd Hira yn mynd i ysgol Gymraeg – ond mae geiriau Pwnjabi a Malay hefyd yn cael eu defnyddio yn y cartref wrth iddo ddatblygu ei eirfa.

"Roedd fy rhieni yn siarad Pwnjabi a Malay pan oedden nhw'n siarad amdanon ni neu gyda ffrindiau, ond 'naethon nhw ddim eu pasio lawr i ni. Dwi'n gwybod llawer o eiriau a dwi eisiau eu pasio 'mlaen i Hira hefyd; mae'n bwysig iawn i mi. Ry'n ni am gael gwersi Pwnjabi fel teulu.

"Mae dysgu ieithoedd mor bwysig. Lle bynnag rwyt ti yn y byd, dwi'n meddwl y dylet ti allu dweud 'Helo', 'Os gwelwch yn dda' a 'Diolch' yn yr iaith leol. Dwi eisiau i Hira deimlo'r un angerdd tuag at deithio a dysgu o ddiwylliannau eraill.

"Maen nhw'n dweud y dylech chi gael gymaint o ieithoedd mewn â phosib cyn eich bod chi'n saith oed er mwyn creu'r llwybrau yn dy ymennydd di, felly dyna dwi am ei wneud gyda Hira.

"Dwi'n meddwl ei bod hi mor bwysig, os wyt ti'n byw mewn gwlad sydd â iaith frodorol, dy fod ti'n ei gwybod hi. Nes i Gymraeg i TGAU, ond 'nes i golli lot ohoni; do'n i ddim wedi sylweddoli ei gwerth ar gyfer fy nyfodol. Ro'n i bob amser am wneud cwrs, ond byth yn gwneud.

"Ond mae cael Hira mewn ysgol Gymraeg am fy helpu i ail-ddysgu 'nawr. Ac wrth gwrs, roedd gallu cael partner oedd yn rhugl mewn Cymraeg yn un o'r rhesymau pam 'nes i briodi Josh...!"

Ffynhonnell y llun, Trishna Singh-Davies
Disgrifiad o’r llun,

Priodas ar y traeth: Trishna, Hira a Josh

Cariad at Gymru

Mae Trishna yn Gymraes i'r carn: yn nodi 'Cymreig' yn lle 'Prydeinig' ar bob ffurflen, ac yn falch iawn ei bod wedi ei geni a'i magu yng Nghaerfyrddin.

Ond mae hi hefyd yn falch iawn o'i gwreiddiau Pwnjabaidd a Maleisiaidd. Yn ddiweddar, cafodd Trishna a Josh briodas fawreddog yn Kuala Lumpur, Maleisia, a oedd yn ddathliad wythnos o hyd, gyda gwisgoedd traddodiadol, lliwgar Indiaidd, bwyd lleol, a'u teuluoedd o bedwar ban byd yn dystion.

Ac wrth gwrs, roedd rhaid iddi gael ambell i lun ohoni yn gwisgo ei het Gymreig gyda'i gwisg lehenga traddodiadol; adlewyrchiad perffaith o'i hunaniaeth gymysg.

Ffynhonnell y llun, Trishna Singh-Davies
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Josh a Trishna lawer o hwyl yn eu dathliadau priodasol draw ym Maleisia

Fodd bynnag, Cymru yw'r unig gartref mae hi wedi ei 'nabod, ac mae hi'n teimlo balchder mawr yn hynny.

"Cymru yw fy ngwlad i," meddai.

"Symudodd fy rhieni a fy mrawd i Gaerfyrddin yn yr '80au oherwydd fod Dad wedi cael swydd yn yr ysbyty meddwl, ac roedd y teulu yn cael byw ar y safle.

"'Sen nhw wedi gallu byw yn unrhywle, ond cyrhaeddon nhw dref hynaf Cymru, ac mae hynny'n golygu rhywbeth i mi. Dwi'n falch iawn o Gaerfyrddin ac o fod yn Gymraes."