Menyw wedi'i gorfodi i sefyll yn noeth y tu allan a gweddïo - llys

Mae Antonio Villafane hefyd yn cael ei adnabod fel Anthony Manson
- Cyhoeddwyd
Mae llys wedi clywed bod menyw 64 oed wedi ei gorfodi i sefyll yn noeth y tu allan yn y tywyllwch a'r oerfel a gweddïo gan ei phartner "oedd â rheolaeth arni".
Dywedodd Sally Anne Norman fod ei phartner, Antonio Villafane, 68, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Anthony Manson, wedi ei gorchymyn allan o'r tŷ yr oedden nhw'n ei rannu yn Sir Fynwy.
Mewn cyfweliad fideo gyda'r heddlu, dywedodd Ms Norman bod Mr Villafane wedi ei gorchymyn i dynnu ei dillad a mynd tu allan.
Dywedodd: "Roeddwn yn crynu, roedd yn dywyll. Yn ddiweddarach fe ngwaeth e fy ngadael i 'nôl mewn. Roedd fy nannedd yn crynu."
Mae Mr Villafane yn gwadu ymddygiad o reoli drwy orfodaeth, anafu anghyfreithlon, niwed corfforol gwirioneddol a thwyll.
- Cyhoeddwyd22 awr yn ôl
Yn Llys y Goron Caerdydd dywedodd Ms Norman fod y pâr yn dilyn ffydd Islamaidd Sufi, ac mai Khadejah oedd ei henw Islamaidd, ac Ibrahim oedd ei enw ef.
Dywedodd fod y cwpl wedi cael seremoni briodas Sufi tua 15 mis i mewn i'w perthynas.
Ond dywedodd wrth yr heddlu nad oedd yn gwybod am eu priodas nes diwrnod y seremoni.
Dywedodd Ms Norman fod ganddi ofn ei chyn-bartner, a'i fod yn dweud celwydd wrthi.
Dywedodd Mr Villafane wrthi iddo fod yn rhan o'r fyddin ac yn yr SAS: "Os oedd e neu beidio - mae llwyth o bethau y mae wedi dweud wrtha i yn gelwydd.
"Dwi'n meddwl ei fod wedi dweud hynny wrtha i i'm dychryn a'm dychryn fel y byddwn i'n gwneud yr hyn a ddywedodd."
Wrth roi tystiolaeth o ran arall o Lys y Goron Caerdydd drwy gyswllt fideo, dywedodd Ms Norman bod Mr Villafane wedi cyfaddef aflonyddu yn 2018.
Dywed Ms Norman bod Mr Villafane wedi ymweld â'i rhieni yn Yr Alban ac wedi ffonio eu cartref sawl gwaith.
Dywedodd fod ei rhieni wedi cael braw ac wedi dadgysylltu'r ffon yn y pendraw.
Anhwylder personoliaeth
Wrth groesholi ar ran yr amddiffyn, holodd Martha Smith-Higgins pam nad oedd Ms Norman wedi dweud wrth heddlu'r Alban bod ei chyn-bartner wedi ymosod arni wrth ymchwilio i'r aflonyddu.
Dywedodd bod ganddi ofn ohono a'r hyn y gallai wneud, gan ychwanegu ei fod wedi dweud wrthi: "Os wnei di ddweud unrhyw beth fe wna i ladd dy blant, fe wna i ladd dy deulu ac yna fe fyddaf yn dod o hyd i ti ac yn dy ladd di."
Clywodd y llys fod gan Mr Villafane anhwylder personoliaeth, dywedodd Ms Norman nad oedd yn gwybod am hynny pan wnaethon nhw gwrdd.
Dywedodd ei bod yn gwybod am afiechydon eraill gan gynnwys canser y coluddyn.
Aeth Ms Smith-Higgins ymlaen i holi Ms Norman am ei phenderfyniad i ddilyn ffydd Islamaidd.
Dywedodd Ms Norman: "Fe wnaeth e fy ngorfodi i barhau i'w wisgo [yr hijab] pan doeddwn i ddim eisiau."
Dydd Mawrth, fe glywodd y llys bod ei chyn-bartner wedi ei gorfodi i wisgo penwisg dros ei hwyneb i gyd, ar ôl iddo ymosod arni.
Dywedodd Ms Norman nad oedd ei theulu'n "cefnogi'r" berthynas a'u bod yn poeni pa mor sydyn yr oedd yn datblygu.
Pan wnaeth Ms Norman a Mr Villafane gwrdd yn 2015, roedd Ms Norman wedi bod yn briod am 34 o flynyddoedd, ac yn disgrifio'r briodas honno fel un anhapus.
O fewn misoedd, roedd y ddau yn byw gyda'i gilydd.
Fe dderbyniodd setliad ariannol o £280,000 o'r ysgariad, a dywedodd iddyn nhw ddefnyddio'r arian i brynu tir, offer, ceffyl, carafán a nifer o gerbydau.
Dywedodd ei bod hi a Mr Villafane wedi trafod sut y byddent yn gwario'r arian, ond dywedodd ei bod yn amheus am yrru'r pres ato.
"Byddai'n tynnu llawer o arian allan, fel arian parod, a dwi ddim yn gwybod beth oedd yn gwneud gyda'r arian hwnnw."
Atal rhag cymryd meddyginiaeth
Dywedodd Ms Norman hefyd ei bod yn dioddef o glefyd Lupus ac nad oedd Mr Villafane yn gadael iddi gymryd ei meddyginiaethau.
Dywedodd: "Fe wnaeth e ddweud wrtha i ei fod wedi fy ngwella. Nid oedd yn gadael i mi gael unrhyw boen laddwyr."
Fe wnaeth Ms Normal adael y berthynas yn ystod haf 2022.
Mewn adroddiad meddygol ar 4 Awst, fe gafodd ei holi a oedd Mr Villafane erioed wedi bygwth ei lladd.
Fe glywodd y llys ei bod wedi ticio'r blwch 'na' wrth ateb y cwestiwn.
Dywedodd Ms Smith-Higgins: "Ni wnaeth o ymosod arnat. Ni wnaeth dy foddi di. Ni ddefnyddiodd ffon gerdded i dy daro, ni neidiodd ar dy gefn."
Fe atebodd Ms Norman "fe wnaeth" i bob un o'r datganiadau hynny.
Ychwanegodd Ms Smith-Higgins: "Ni wnaeth dy reoli, na'r hyn yr oeddet yn ei wneud."
Atebodd Ms Norman gan ddweud: "Fe wnaeth e reoli mi a phob peth y gwnes i."
Mae'r achos yn parhau.