'Hunllef' teulu dyn a laddwyd yn y Borth ger Aberystwyth yn 2019

Roedd Lewis Stone ar wyliau yn y Borth yng Ngheredigion pan wnaeth David Fleet ei drywanu yn 2019
- Cyhoeddwyd
Mae teulu dyn a gafodd ei ladd yng Ngheredigion gan glaf seiciatrig yn dweud mai "dim ond dechrau eu hunllef" oedd ei farwolaeth yn y Borth yn 2019.
Mae teulu Lewis Stone bellach wedi gael gwybod y bydd David Fleet, a oedd yn 21 ar y pryd, yn cael gadael uned seiciatrig ddiogel am gyfnodau.
Roedd Mr Stone, cigydd wedi ymddeol, ar wyliau yng Ngheredigion pan gafodd ei drywanu droeon gan David Fleet.
10 diwrnod cyn y digwyddiad roedd Fleet newydd gael ei ryddhau o uned seiciatrig ar ôl cael diagnosis o sgitsoffrenia.
Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder fod eu meddyliau gyda theulu Mr Stone a dim ond "ar ôl asesiad risg trylwyr a gyda mesurau diogelwch llym" y gwnaed y penderfyniad i adael Fleet allan o'r carchar am gyfnodau.
- Cyhoeddwyd24 Mai 2019
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2023
Dywed teulu Mr Stone fod ganddyn nhw gwestiynau o hyd am y gofal seiciatrig a gafodd Fleet cyn yr ymosodiad.
Mae Vicki Lindsay, llysferch Mr Stone, wedi galw ar y GIG i gyhoeddi adroddiadau mewnol fel bod modd i'r teulu ddeall pam y gwnaed rhai penderfyniadau a bod gwersi'n cael eu dysgu.
Fe adawodd Mr Stone, o Sir Stafford, y cartref gwyliau yn y Borth i fynd â'i gi, Jock, am dro tua 09:20 ar 28 Chwefror 2018.
Rhyw 20 munud yn ddiweddarach, ar lan Afon Leri daeth ar draws Fleet, a wnaeth ei drywanu sawl gwaith.
Bu farw Mr Stone dri mis yn ddiweddarach.
Plediodd Fleet yn euog i ddynladdiad ar sail cyfrifoldeb lleiedig a chafodd ei gadw am gyfnod amhenodol mewn uned seiciatrig ddiogel.
Ddydd Iau, cafodd teulu Mr Stone wybod y byddai'n cael gadael yr uned am gyfnodau dros nos.
Yn ystod y ddedfryd, clywodd Llys y Goron Abertawe bod Fleet yn clywed lleisiau yn ei ben yn dweud wrtho eu bod am ei ladd a ac fe fyddai'r lleisiau yn rheoli ei ymennydd pe na bai'n ymosod ar rywun.
Yn Hydref 2018 cafodd Fleet ei gadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.
10 diwrnod cyn y digwyddiad yn y Borth cafodd ei anfon adref er i'w fam godi pryderon am ei ryddhau.

Roedd David Fleet yn 21 adeg yr ymosodiad ac wedi gadael ward seiciatryddol 10 diwrnod cyn hynny
Wrth siarad ag asiantaeth newyddion PA, dywedodd Ms Lindsay ei bod yn meddwl i ddechrau mai'r ymosodiad a'r tri mis wedi hynny oedd "cyfnod gwaethaf ein bywydau".
"Ychydig a wyddwn fodd bynnag mai dim ond dechrau ein hunllef oedd hynny. Fel dioddefwyr, rydym wedi cael ein trin yn warthus," meddai.
"Dydyn ni dal ddim yn gwybod pam y cafodd Fleet ei ryddhau 10 diwrnod cyn iddo ymosod ar Lewis Stone na phwy wnaeth y penderfyniad hwnnw a pham.
"Rydyn ni wedi cael ein cadw'n gyfan gwbl yn y tywyllwch a'n trin fel baw.
"Ond nawr chwe blynedd yn ddiweddarach, rydyn ni 'n cael gwybod bod Fleet yn cael ei ganiatáu allan gyda'r nos ac mae'n siŵr y bydd yn cael ei ryddhau'n barhaol yn fuan.
"Pa fath o wlad yw hon rydyn ni'n byw ynddi lle mae dioddefwyr yn cael eu trin fel hyn?"

Yn 2023 fe ddywedodd mam Fleet, Sharon Lees, wrth BBC Cymru ei bod am i Fwrdd Iechyd Hywel Dda ymddiheuro iddi hi, ei mab a theulu Lewis Stone
Dywedodd Sharon Daniel, cyfarwyddwr nyrsio, ansawdd a phrofiad cleifion Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, na fyddai'r bwrdd iechyd yn cyhoeddi adroddiadau.
Mewn datganiad i Sky News, a rannwyd gyda PA, dywedodd: "Daeth y Ddyletswydd Gonestrwydd ar gyfer cleifion i rym yng Nghymru ym mis Ebrill 2023. Ar adeg y digwyddiad a'r pryder hwn, fe wnaethom gyflawni ein dyletswyddau yn agored."
Pan ofynnwyd iddi a fyddai'r bwrdd iechyd yn ymddiheuro i deuluoedd Mr Stone a David Fleet, dywedodd: "Os oes digwyddiadau difrifol, mae gennym ni brosesau cadarn yn eu lle ar gyfer adolygu'n fewnol, nodi unrhyw broblemau, a lle bo'n briodol paratoi cynllun gwella i atal digwyddiad o'r fath yn y dyfodol.
"Mae'n flin gennym am ddigwyddiadau o'r fath ac rydym bob amser yn ceisio dysgu oddi wrthynt."
Mae'r penderfyniad i ryddhau pobl am gyfnod amhenodol yn cael ei wneud gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder: "Rydym yn deall y bydd y penderfyniad hwn yn anodd i deulu Stone, ac mae ein meddyliau gyda nhw.
"Dim ond ar ôl asesiad risg trylwyr a gyda mesurau diogelwch llym yn eu lle y gwneir unrhyw benderfyniad i gymeradwyo mynediad i'r gymuned."
Daw'r alwad am ryddhau adroddiadau iechyd Fleet ar ôl i'r Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr wyrdroi y penderfyniad i beidio â chyhoeddi adroddiad llawn i'r gofal a gafodd Valdo Calocane o Nottingham. Fe laddodd e dri o bobl yn 2023 - roedd ef hefyd yn dioddef o sgitsoffrenia.
'Trychineb o'r dechrau i'r diwedd'
Dywedodd Radd Seiger, sy'n cynghori teulu Stone ei bod yn "warthus" bod y teulu wedi darganfod bod Fleet yn cael ei ryddhau dros nos ar yr un diwrnod ag y cyhoeddwyd eu cais am ei adroddiadau iechyd.
Ychwanegodd bod angen i'r bwrdd iechyd fod yn dryloyw ynglŷn â pham y digwyddodd yr ymosodiad angheuol yn 2019.
Disgrifiodd yr achos fel "trychineb o'r dechrau i'r diwedd" i'r teulu, gan ddweud nad oedd Fleet "yn amlwg wedi derbyn triniaeth ddigonol fel claf mewnol".
"Mae'n rhaid bod yna gamgymeriadau difrifol o ran barn glinigol a methiant i wneud asesiad risg digonol a rheoli'r risg yna," meddai.