Oedi cyn cynnal angladdau 'ddim yn deg' i deuluoedd
- Cyhoeddwyd
Mae 'na alwadau am adolygiad o ba mor gyflym y mae tystysgrifau marwolaeth yn cael eu cyhoeddi, ar ôl i system newydd gael ei chyflwyno y mae rhai'n dweud sydd wedi achosi oedi.
Mae rhai teuluoedd wedi gorfod aros wythnosau cyn gallu trefnu angladdau, oherwydd mesurau newydd sydd wedi'u cynllunio i amddiffyn cleifion.
Mae rhai yn honni bod newidiadau i'r rheolau yng Nghymru a Lloegr, a gyflwynwyd y llynedd i wella craffu, wedi arwain at oedi sylweddol.
Dywed Llywodraeth Cymru ei bod yn flin am yr oedi, ond bod angen amser ar y system newydd i ymsefydlu.
Mae teulu Paul Crook o Langstone ger Casnewydd wedi cael dau brofedigaeth yn yr wythnosau diwethaf.
Bu farw tad yng nghyfraith Mr Crook, Anthony Roberts, ddiwedd mis Tachwedd, ac yna ychydig wythnosau yn ddiweddarach bu farw ei fam yng nghyfraith, June Roberts hefyd.
Dywed y teulu bod eu galar yn waeth oherwydd yr oedi cyn cofrestru'r marwolaethau.
Bu farw Anthony Roberts ar 26 Tachwedd, ond ni chafodd y teulu dystysgrif tan y 13 Rhagfyr, 17 diwrnod yn ddiweddarach.
Dim ond bryd hynny y gallai'r teulu ddechrau trefnu ei angladd, felly digwyddodd hynny ddim nes 27 Rhagfyr, 31 diwrnod ar ôl iddo farw.
'Rhaid ffonio sawl gwaith i gael ateb'
Wedyn ynghanol y cyfnod hwn o straen eithriadol i'r teulu, aeth gwraig Mr Roberts, June, a oedd cyn hynny mewn iechyd da iawn, yn sâl yn sydyn ar 20 Rhagfyr, a bu farw ar 2 Ionawr.
Unwaith eto bu'n rhaid i'r teulu aros am ei thystysgrif hi, tan 13 Ionawr, sy'n golygu na fydd angladd Mrs Roberts yn cael ei gynnal tan 3 Chwefror – 32 diwrnod ar ôl ei marwolaeth.
Yn y diwedd, roedd Paul Crook yn ffonio'r ysbyty bob dydd i weld a oedd y broses wedi'i chwblhau.
"Bu'n rhaid i fi ffonio sawl gwaith i gael ateb, a phan o'n i'n cael ateb, yn aml bydden i'n cael y'n rhoi drwodd i system awtomataidd, ac yna yn y pen draw byddai'r alwad yn gollwng ac roedden i wedi bod yn aros 10 munud am ymateb.
"Bydden i wedyn yn ffonio'n ôl ac yn y diwedd yn cael siarad â rhywun, a bydde'r person yna'n rhoi neges i chi megis 'Ni'n cwrso'r mater. Ni'n aros am feddyg' a dyna yn y bôn y stori a aeth ymlaen i ni am 17 diwrnod."
Daeth rheolau newydd i mewn yn dilyn yr ymchwiliad i Harold Shipman, y meddyg teulu a laddodd o leiaf 215 o'i gleifion.
Ers mis Medi diwethaf, mae'n rhaid i feddyg archwilio pob marwolaeth yng Nghymru a Lloegr nad yw'n cael ei chyfeirio at grwner.
Y nod yw sicrhau nad yw cleifion yn cael eu camdrin. Yna mae'r adroddiad yn cael ei ddanfon at archwiliwr meddygol annibynnol i gael ei wirio eto, proses allai gymryd dyddiau.
Aeth Mr Crook a'i achos at ei Aelod o'r Senedd, y Ceidwadwr Natasha Asghar, sy'n dweud bod angen adolygu'r system newydd.
"Pam yn union fod yr oedi hwn yn digwydd? Er bod gen i bob parch ac edmygedd tuag at y bobl hynny sy'n gweithio yn y rheng flaen, gallaf ddeall ei bod yn swydd sy' dan bwysau mawr, mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad mor fuan â phosibl i atal digwyddiadau fel hyn rhag yn digwydd byth eto."
'Anodd symud yn eu taith trwy alar'
Mae'r Parchedig Dyfed Roberts, gweinidog eglwys ers dros 30 mlynedd ar draws Ynys Môn a Gwynedd, yn dweud ei fod yn cymryd "llawer hirach nag oedd o" i gynnal angladdau.
"Oedd hi'n bosib cael angladd o fewn wythnos weithiau, rŵan mae tair wythnos, weithiau mis, yn gyffredin erbyn hyn," meddai.
"Hynny ydy'r effaith fwyaf mae'r system newydd wedi cael. Ac mae hynny'n 'neud hi'n anodd i deuluoedd symud ymlaen yn eu taith trwy alar.
"Mae gwasanaeth angladd mor bwysig - mae'n ddigwyddiad pwysig yn y daith yma trwy alar."
'Teuluoedd yn aros ac ysbytai'n llenwi'
Dywedodd Dyfed Roberts bod cael angladd yn gynt yn galluogi i bobl symud ymlaen, a mynd yn "ôl i bach o normalrwydd".
"Ond beth rydw i'n gweld nawr yw bod pobl yn dychwelyd i'r gwaith cyn i'r angladd ddigwydd ac felly mae bywyd normal yn ailgychwyn, a dydy pobl ddim yn gallu dweud eu ffarwel yn ffurfiol wrth eu hanwylyd.
"Mae hyn yn cael effaith emosiynol eithaf trwm ar bobl."
Mae'r oedi'n "cadw pobl mewn limbo," meddai.
"Dydyn nhw ddim yn teimlo fel gallen nhw symud ymlaen. Mae'r holl bethau yma wedi cael eu stretcho allan ac maen nhw'n strugglo efo hynny."
Er yn derbyn bod y rheolau yma i aros, dywedodd ei fod yn gobeithio y gallai'r system fod yn "fwy effeithiol" yn y dyfodol.
Dywedodd Gareth Williams, trefnydd angladdau ym Methesda, bod "pethau yn well yn ystod amseroedd argyfwng - yn ystod Covid".
"Mae teuluoedd yn cael amser anodd iawn oherwydd y newidiadau yma, dydy o ddim yn deg arnyn nhw.
"Mae teuluoedd yn aros tair wythnos, efallai mis neu fwy i gael cadarnhad am ddyddiad.
"Mae ysbytai hefyd yn llenwi does dim ganddyn nhw le i gadw'r cyrff 'ma i gyd."
'Newidiadau am gymryd amser'
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Hoffem ymddiheuro i unrhyw deuluoedd sydd wedi gorfod aros cyn derbyn tystysgrifau marwolaeth, a allai fod wedi effeithio ar eu cynlluniau angladd.
"Mae newidiadau a gyflwynwyd yng Nghymru a Lloegr i ddiwygio'r broses ardystio marwolaeth wedi'u cynllunio i gryfhau mesurau diogelu i deuluoedd, ond gall gymryd peth amser i'r rhain ymsefydlu'n llawn.
"Rydym yn gweithio gyda'r prif Archwiliwr Meddygol a'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru i gael deall ble mae'r oedi, a sut y gellir darparu cymorth ychwanegol i deuluoedd ar adeg mor anodd."