Agor cwest i farwolaeth merch 12 oed o Ferthyr Tudful
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi ei agor i farwolaeth merch 12 oed o Ferthyr Tudful.
Clywodd y llys fod taid Mia-Mai Grace Williams wedi dod o hyd iddi hi mewn ystafell wely yn ei gartref am 18:20 ar 10 Awst, ac nad oedd hi'n ymateb iddo.
Cafodd ambiwlans ei alw ac fe gafodd Mia-Mai ei chludo i Ysbyty’r Tywysog Siarl cyn cael ei throsglwyddo’n ddiweddarach i Ysbyty Athrofaol Cymru.
Bu farw'r diwrnod canlynol.
'Episod meddygol'
Cafodd archwiliad post mortem ei gynnal yn ddiweddarach gan Dr Andrew Bamber ond bydd ymchwiliadau pellach i geisio darganfod beth oedd achos ei marwolaeth.
Gohiriodd y Crwner cynorthwyol, Rachel Knight y cwest a mynegodd ei chydymdeimlad â theulu Mia-Mai.
Mewn datganiad blaenorol, dywedodd Heddlu De Cymru bod swyddogion wedi eu galw wedi i blentyn 12 oed gael episod meddygol mewn cyfeiriad ym Mhenbryn, Merthyr ar 10 Awst ac nad oedd ei marwolaeth yn amheus.
Fe wnaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Rhydywaun ym Mhenywaun, lle’r oedd Mia-Mai yn ddisgybl blwyddyn saith, ailagor ar 14 a 15 Awst i gynnig cefnogaeth a chwnsela i’w chyd-ddisgyblion.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Awst 2024