Ateb y Galw: Beth Jones

- Cyhoeddwyd
Yr wythnos yma, y gomedïwraig stand-yp o Glwyd, Beth Jones, sy'n ateb ein cwestiynau busneslyd.
Bellach yn byw yn y brifddinas, pan dydi hi ddim yn gwneud i bobl chwerthin, mae hi'n gweithio i Menter Caerdydd fel Prif Swyddog Tafwyl - mae'r ŵyl boblogaidd yn cael ei chynnal eleni ar 14-15 Mehefin.
Beth yw eich atgof cyntaf?
O mae hwn yn anodd! Bues i'n byw dramor yn Papua Gini Newydd pan yn blentyn ifanc a ges i lwyth o brofiadau anhygoel ac mae lluniau di-ri.... ond dwi byth yn siwr os taw atgof neu llun dwi'n meddwl amdano.
Dwi'n cofio pob amser cinio yn ysgol gynradd Bulae, oedd ein cinio yn dod mewn bocs mawr oren o'r ffreutur a byse ni'n achlysurol yn cael iced buns pinc.
Mae wedi creu bach o obsesiwn iced buns pinc gen i ers hynny, ond does dim un cystal â rhieny ges i yn bump oed!

Beth yn ei gwisg ysgol yn Papua Gini Newydd... newydd orffen iced bun pinc!
Disgrifiwch eich hun mewn tri gair.
Byr, direidus a charedig.
Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?
Os ei di am dro lawr i afon Ystrad yn Brwcws, Dinbych, a mynd heibio'r salmon leaps, dros y gamfa garreg fawr ac o dan bont yr hen reilffordd a thrwy'r giât i'r cae cynta'... yn union fan'na jest i'r dde o'r bont ger yr afon yw fy hoff le yng Nghymru.
Yn fama oedden ni'n cael picnics, yn chwarae yn yr afon ac i'r cae yma byswn i'n mynd â Cadi'r ci am dro bob dydd pan yn ifanc.

Hoff le Beth... er fod yr afon wedi erydu'r tir felly mae'r darn ble'r oedden nhw'n cael picnic bellach wedi diflannu!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnoch chi erioed?
O gosh alla i wir ddim rhannu! Cywilydd!
Beth yw'r noson orau i chi ei chael erioed?
Dim noson ond y diwrnod gore erioed (heb ystyried fy mhriodas na genedigaeth fy mhlant!) oedd chwarae yn y Stadiwm Principality llynedd efo thîm rygbi Merched Clwb Rygbi Cymry Caerdydd ac ennill.
Dwi'n sôn am gymaint mae rygbi wedi bod yn bwysig i mi yn fy mywyd yn y llyfr Fel yr Wyt.
Oedd chwarae yn y Principality yn uchafbwynt fy ngyrfa rygbi, a wnaethon ni ddychwelyd eto eleni; ond er i ni golli roedd hi eto dal yn brofiad anhygoel.

Beth a'i chyd-chwaraewyr ar ôl y gêm yn y Stadiwm Principality
Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?
Wnaeth fy rhieni gwrdd â fy ngŵr Craig (cariad ar y pryd) am y tro cyntaf yn Papua Gini Newydd, am eu bod yn byw yno ar y pryd. Oedd o wedi teithio o ochr arall y byd ac eisiau creu argraff dda.
Yr atgof sydd yn 'neud i fi chwerthin bob tro yw rhywbeth digwyddodd o fewn rhai ddyddie wedi iddo gwrdd â fy mam. Rhoddodd mam bowlen y ci i Craig, gan gyfeirio at y bisgedi ci gofynnodd iddo 'put one in there' – heb feddwl dim am y peth pigodd un fisged ci a'i rhoi yn y fowlen.
'Nath Mam rolio chwerthin yn meddwl fod o'n jocio, tra oedd fy ngŵr yn edrych arni wedi drysu yn llwyr. Un scoop oedd mam wedi meddwl, ond roedd fy ngŵr wedi meddwl yn llythrennol ac yn meddwl bod fy mam yn hurt eisiau just un fisged fach, ond pwy oedd o i gwestiynu?!
Oedd gwylio'r sefyllfa yn hollol hilarious a dwi'n aml yn cofio nôl a chael belly laugh go iawn.
Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?
Rhywbryd wythnos yma dwi'n sicr. Dwi'n un am grio. Let it out!

Er fod Beth yn hoffi gwneud i gynulleidfaoedd chwerthin... mae hi hefyd yn ffan o grio!
Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?
Doom scrollio ar fy ffôn cyn cysgu a cholli awr neu fwy o gwsg dwi rili angen!
Beth yw eich hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?
Dwi ar hyn o bryd yn mynd trwy bach o obsesiwn ffilmiau a rhaglenni teledu Star Wars. Mae'r mab wedi dechrau eu hoffi nhw a dwi yn rhiant 'all in' felly wnes i wylio y naw ffilm un noson ar ôl y llall... Doeddwn i byth wedi dangos diddordeb cyn Pasg 2025 a rŵan dwi'n hooked!
Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi’n cael diod a pham?
Yn fyw, byswn i wrth fy modd yn cael paned o de efo David Attenborough a chael sgyrsiau am ei brofiadau.
Yn farw faswn i wrth fy modd yn cael diod o wisgi efo fy hen ewythr Harries. Byse fo wrth ei fodd yn clywed fy holl anturiaethau a llwyddiannau ers iddo fo adael y byd, er dwi'n ffyddiog ei fod o ac Anti Luned yn gwylio drosta'i ac yn gwybod yr hanes i gyd.
Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Mae gen i achrediad fel Assistant Scuba Diving Instructor. Symudodd fy rhieni i fyw nôl yn Papua Gini Newydd pan o'n i yn fy 20au cynnar, ac es i o fod hefo ffobia o'r môr i droi yn bach o ffanatic deifio scuba!
Dwi wedi bod yn lwcus iawn i gael deifio coral reefs mwyaf lliwgar y byd. Faswn i'n sôn am hynny efo David Attenborough 'fyd!

Beth yn gweld siarc wrth ddeifio
Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi’n ei wneud?
Unai rhywbeth gwirion bydde'n ebosnio pam taw hwnne oedd fy diwrnod olaf ar y blaned neu, gobeithio, fydda i'n rili rili hen ac yn marw yn fy nghwsg o flaen film Star Wars!
Pa lun sy’n bwysig i chi a pham?
Selffi hefo Suzie/Eddie Izzard – dwi yn ffan mawr a gweles i nhw yn Chapter yn cael paned cyn gig a magu'r hyder i ofyn am lun!

Beth gydag un o'i harwyr comedi, Suzie/Eddie Izzard
Mae gen i hefyd lun o Dawn French wedi'i arwyddo mewn ffrâm adre. Wnaeth fy ffrind anfon o i fi pan oedd hi'n gweithio fel runner ar ei sioe, a ges i nodyn personol yn dweud 'Keep up the stand-up' - mae'r ffrâm yma ger llunie fy mhlant yn yr ystafell fyw!
Petasech chi’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Un o'r criw camera ar expedition efo David Attenborough yn ddwfn yng nghoedwig law yr Amazon.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd31 Mawrth
- Cyhoeddwyd19 Awst 2024