Apelio penderfyniad i wrthod 18 o dai dros bryderon am yr iaith

Botwnnog o'r awyr
Disgrifiad o’r llun,

Mae datblygwyr eisiau codi 18 o dai rhent ym mhentref Botwnnog

  • Cyhoeddwyd

Mae datblygwyr wedi lansio apêl yn erbyn penderfyniad i wrthod caniatâd i godi 18 o dai rhent mewn pentref ym Mhen Llŷn.

Fis Hydref y llynedd fe wrthododd Pwyllgor Cynllunio Gwynedd y cais i godi'r tai ym Motwnnog, yn sgil pryderon lleol y gallai'r datblygiad fod yn "berygl i'r Gymraeg a gwead y gymuned".

Gyda chwestiynau hefyd dros yr angen am y tai rhent fforddiadwy, aeth cynghorwyr yn groes i argymhelliad swyddogion cynllunio Gwynedd er gwaethaf rhybudd nad oedd ganddyn nhw resymau digonol dros wrthod.

Mae'r datblygwyr, Cae Capel Cyf, bellach wedi lansio apêl, ac arolygwyr cynllunio wedi'u penodi gan Lywodraeth Cymru fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol.

Cyn gwneud y penderfyniad fis Hydref, cafodd cynghorwyr rybudd y byddai'n rhaid i'r awdurdod dalu costau sylweddol i'r ymgeisydd pe bai unrhyw apêl yn llwyddiannus.

'Effaith pellgyrhaeddol'

Roedd Uned Strategol Tai Cyngor Gwynedd wedi nodi bod "angen uchel" am dai rhent fforddiadwy o'r fath yn ardal Botwnnog.

Dangosodd eu ffigyrau bod 34 teulu ar y rhestr aros am dai cymdeithasol a 14 ar y gofrestr Tai Teg o fewn ward Botwnnog yn unig.

Ond roedd y cyngor cymuned wedi ymateb yn chwyrn i'r datblygiad, gan nodi nad oedd modd ei gefnogi heb sicrwydd byddai'r tai yn cael eu clustnodi ar gyfer siaradwyr Cymraeg yn unig.

Roedd y cyngor cymuned hefyd wedi dweud y byddai cael pobl ddi-Gymraeg yn symud yno yn cael "effaith pellgyrhaeddol ar addysg ein pobl ifanc yn lleol".

Llun o'r safle
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r safle ger meddygfa'r pentref

Ond roedd y datblygwyr Cae Capel Cyf, o'r farn bod maint y datblygiad yn addas i'r safle ac na fyddai'n or-ddatblygiad.

Roedden nhw hefyd wedi gwrthod honiadau nad oes angen amlwg am y tai, a byddai unrhyw effaith negyddol ar yr iaith yn "ddim o gwbl neu'n fach iawn".

Mae disgwyl penderfyniad terfynol dros y misoedd i ddod, gan alluogi datblygwyr a gwrthwynebwyr i ddarparu tystiolaeth ac ymweliad safle gan yr arolygwyr.

Pynciau cysylltiedig