Marathon Eryri: Mwy o ferched yn rhedeg eleni

Dechrau Marathon Eryri 2024
  • Cyhoeddwyd

Mae dros 2,800 o bobl wedi rhedeg Marathon Eryri ddydd Sadwrn wrth i’r ras gael ei chynnal am y 40fed tro.

Eleni, am y tro cyntaf erioed, roedd dros 1,000 o’r rhedwyr yn fenywod.

Cynhaliwyd y ras gyntaf yn 1982 ac ers hynny mae'r cwrs heriol wedi denu rhedwyr o bedwar ban byd - heblaw am fwlch o ddwy flynedd oherwydd y pandemig Covid.

Mae’r cwrs, sy’n dechrau a gorffen ym mhentref Llanberis yng Ngwynedd, yn gofyn i’r cystadleuwyr redeg 26.2 milltir o amgylch gwaelod llethrau’r Wyddfa - mynydd uchaf Cymru.

Ymhlith y menywod a ddewisodd gystadlu eleni roedd Bethan Evans, 47 oed, a Lois Griffiths, 40 oed. Teithiodd y ffrindiau o Sir Gaerfyrddin i gymryd rhan yn ei marathon Eryri cyntaf.

“O’n i’n 40 mlwydd oed ym mis Awst, a gan fod hwn yn rhifyn 40 o’r ras o’n i’n meddwl bydde fe’n her neis i wneud.

"Mae’r bola yn troi nawr, ond ni wedi hyfforddi dros sawl wythnos ac yn barod i roi tro da iddo fe,” meddai Lois cyn cychwyn y ras.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Bethan a Lois o Sir Gaerfyrddin yn rhedeg y ras am y tro cyntaf

Dywedodd Bethan: “Fel Lois o’n i’n edrych am her newydd. Ni erioed wedi gwneud marathon o’r blaen ac mae’n debyg ni wedi dewis un o’r rhai mwyaf anodd fel y cyntaf.”

Mae’r ddwy yn rhedeg ar ran elusennau.

“Cafodd fy ngŵr i ddiagnosis o myeloma, sef math o ganser, tua 6 mlynedd yn ôl. Mae e yma yn cefnogi fi heddiw, ond dwi’n gwneud y ras yma drosto fe, ac eraill sy’n dioddef,” meddai Bethan.

Disgrifiad o’r llun,

Andrew Davies o’r Drenewydd groesodd y linell derfyn yn gyntaf yn ras 2024 a hynny wedi 2:28:41

Ond nid pawb sy’n cymryd rhan am y tro cyntaf. Dyma’r 11fed tro i Robert Smith, sy’n 46 oed ac o ardal Birmingham, redeg y cwrs.

“Dyma fy hoff ras o’r flwyddyn o bell ffordd. Mae'r golygfeydd yn anhygoel, yr awyrgylch a'r cyfeillgarwch yn well nag unrhyw le arall.

"Mae’n ras gwbl arbennig. Dyma fy unfed tro ar ddeg a gobeithio nid yr olaf.”

Disgrifiad o’r llun,

Louise Flynn o Gaerdydd enillodd ras y menywod gydag amser o 2:59:23

Mae Matt Ward, 50 oed o Gorris, wedi bod yn helpu i drefnu marathon Eryri ers 15 mlynedd. Er ei falchder fod y ras wedi cael ei chynnal 40 o weithiau, mae ei ffocws ar y dyfodol.

“Mae’n anhygoel i feddwl ein bod ni wedi cyrraedd y deugeinfed tro o’r ras hon sy’n wych.

"Cawsom y nifer uchaf o geisiadau erioed ar gyfer ras eleni, a’r gobaith felly yw i barhau i dyfu ac i barhau i gynnal y ras arbennig hon i’r dyfodol.”

Andrew Davies o’r Drenewydd groesodd y linell derfyn yn gyntaf yn ras 2024 a hynny wedi 2:28:41.

Louise Flynn o Gaerdydd enillodd ras y menywod gydag amser o 2:59:23 - lai na dwy funud o’r record a gofnodwyd ar gyfer y cwrs yn 2017.

Pynciau cysylltiedig