Teyrnged i beilot fu farw mewn damwain paragleidio yn Llanberis

Bu farw Geoff Corser yn y digwyddiad yn Chwarel Dinorwig ar 23 Awst
- Cyhoeddwyd
Mae teyrngedau wedi'u rhoi i hyfforddwr hedfan a pheilot "gwych" a fu farw mewn damwain paragleidio tra oddi ar ddyletswydd.
Bu farw Geoff Corser yn y digwyddiad yn Chwarel Dinorwig yng Ngwynedd ar 23 Awst.
Yn hyfforddwr hedfan "uchel ei barch" yn safle'r Awyrlu Brenhinol yn Y Fali, dywedodd ei gydweithwyr y bydd yn cael ei gofio am fod yn "wych ac anhunanol".
Cafodd ei angladd ei gynnal yn Eglwys Sant Padarn, Llanberis ddydd Iau.

Roedd Geoff Corser yn hyfforddwr hedfan "uchel ei barch" yn safle'r Awyrlu Brenhinol yn Y Fali
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd y capteiniaid grŵp Peter Ward a Gez Currie o RAF Y Fali eu bod "wedi'n llorio gan golled ein cydweithiwr a'n ffrind".
"Roedd Geoff yn hyfforddwr ac yn beilot gwych.
"Mae ei etifeddiaeth yn parhau trwy'r nifer o beilotiaid yr Awyrlu Brenhinol a'r Llynges Frenhinol a gafodd ei help i hyfforddi, sydd bellach yn amddiffyn ein cenedl gartref a thramor.
"Ond yn fwy na dim, roedd Geoff yn fab, brawd a phartner.
"Rydym yn cynnig ein cydymdeimlad dwysaf a diffuant i'w deulu yn ystod yr amser anodd yma.
"Ni fyddwn ni, ei deulu gwaith, byth yn caniatáu i'w atgof a'i etifeddiaeth anhygoel gael eu hanghofio."
Dywedodd RAF Y Fali ei fod wedi "marw wrth wneud rhywbeth yr oedd yn angerddol amdano mewn bywyd – hedfan".
Ychwanegodd llefarydd: "Roedd Geoff yn hyfforddwr hedfan uchel ei barch yn RAF Y Fali, yn cael ei barchu'n fawr gan ei gydweithwyr a'r myfyrwyr yr oedd yn eu dysgu."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.