Diwrnod mawr ymweliad y Mauretania ag Abergwaun yn 1909
- Cyhoeddwyd
Mae gan Ifan Pleming ddiddordeb mewn llongau mawr ers ei blentyndod.
Yma, mae'n egluro mwy ac yn adrodd hanes diwrnod arwyddocaol iawn i dref porthladd Abergwaun, sef 30 Awst 1909; y diwrnod laniodd y llong fydenwog Mauretania yno:
Rwy’n cofio ers i mi fod yn ddim o beth fod gan fy nhaid lun; llun llong ysblennydd pedair funnel yn torri drwy’r môr fel cyllell, a’r machlud yn gefndir iddi. Dyma Taid wedyn, yn estyn plât o bellafoedd y seidbord a’i ddangos i mi, gan ddweud ‘Mi ddaeth dy hen nain â’r plât ‘ma o’r Lusitania pan aeth hi drosodd i ‘Merica yn 1909.’
Fyth ers hynny mae hanes y llongau mawr wedi fy swyno, ac yn sgil dyfodiad ffilm Titanic James Cameron yn 1997, mae’r diddordeb wedi dyfnhau. Ychydig flynyddoedd yn ôl bellach, es ati mewn difrif i edrych ar gysylltiadau’r ddwy long hon â Chymru, cefais y syniad hwnnw ar drip i America gyda Chôr CF1, gan feddwl mai hawdd fyddai olrhain hanes bob cysylltiad Cymreig â’r Lusitania a’i mordaith olaf.
Mae enwau’r Cymry oedd ar fwrdd y Lusitania ar y daith olaf yn rhestr ddifyr iawn i’w darllen, ond stori am rhywdro eto yw honno.
Cymro wrth y llyw
Rhai blynyddoedd wedyn, cefais anrheg o gwpan china, ac arni ysgrifen Gymraeg yn nodi’r ffaith i’r Royal Mail Steamer Mauretania, chwaer long y Lusitania ymweld â phorthladd Abergwaun ar 30 Awst 1909, a hynny o dan gomand y Commodore o Gaernarfon, y Capten John Pritchard.
Dywedir i’r Capten gael ei eni ym Mhorthmadog, a’i dad yn grydd ac wedi hynny yn cadw’r Royal Sportsman, Porthmadog am rai blynyddoedd cyn i’r teulu symud i Gaernarfon.
Diweddodd gyrfa ddisglair y capten o Gymro yn gapten cyntaf ar y Mauretania. Roedd hyn felly, yn golygu mai’r gŵr o Gymru oedd wrth y llyw pan fu gofyn iddi ddod i Abergwaun am y tro cyntaf i agor y porthladd hwnnw fel porthladd cydnabyddedig i’r Cunard Line.
O Efrog Newydd i Lundain (via Abergwaun)
Dair blynedd union cyn y diwrnod hwnnw, ar 30 Awst 1906, fe agorwyd gorsaf drenau Porthladd Abergwaun yn swyddogol wrth i wasanaethau fferi Corc a Waterford gael eu trosglwyddo o orsaf Neyland, oherwydd bod hynny’n rhwyddach i’r teithwyr.
Buan iawn y daeth y porthladd i sylw’r Cunard Line, wrth iddynt geisio manteisio ar gyflymder y Mauretania a’r Lusitania, a chael teithiwr o Efrog Newydd i Lundain a’r cyfandir yn gynt.
Roedd y ffaith bod y Mauretania a’r Lusitania yn torri pob math o record wrth groesi’r Iwerydd - mewn pedwar diwrnod 13 awr a 41 munud yn ôl rhifyn y Weekly Mail, 25 Medi 1909 - yn cryfhau’r achos i Abergwaun fod yn borthladd y dyfodol.
Roedd Abergwaun, a’r cysylltiadau rheilffordd yn torri cryn amser oddi ar y siwrnai gyfan.
Cafodd diwrnod glanio'r Mauretania yn Abergwaun ei ganmol yn y Welsh Gazette and West Wales Advertiser, 2 Medi 1909 fel “AN EPOCH-MAKING EVENT” ac “A DAY OF RECORD BREAKING IN TRAVEL”, gan frolio bod y teithwyr, mewn dwy Express wedi cyrraedd Llundain mewn pedair awr a hanner, mewn hen ddigon o amser i ddal y Paris Express am naw o’r gloch.
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd24 Awst 2022
- Cyhoeddwyd6 Mai 2015
Roedd y cwmnïau Americanaidd yn eiddigeddus hefyd, ac ymhen dim o dro, gwelwyd cynnydd mewn traffig Americanaidd, gyda'r Booth Line, i enwi ond un, yn fwy na bodlon i ddefnyddio Abergwaun ar draul porthladdoedd de Lloegr er hwylustod i’w teithwyr. Dywedodd y Weekly Mail:
“The passengers, who lunched in New York on Wednesday, were enabled to dine in London on Monday evening, with the added advantage of being in time for the theatres.”
Roedd cymaint wedi gwirioni ar yr hyn yr oedd Abergwaun yn ei gynnig, a rhai’n cwestiynu doethineb glanio yn Queenstown, yn Iwerddon, o gwbl erbyn sefydlu Abergwaun fel rhan o’r gwasanaeth ar draws yr Iwerydd.
Wedi’r cyfan oni fyddai dadlwytho’r holl bost a gariai’r llongau yn Abergwaun yn golygu y byddai hwnnw hefyd yn cyrraedd Llundain a’r cyfandir yn llawer cynt?
Balchder Abergwaun
Roedd 30 Awst 1909 yn ddiwrnod mawr i Abergwaun ac Wdig, y Cunard a’r Great Western Railway Company, er mwyn dangos i’r byd beth oedd yn bosib wrth harneisio’r dulliau effeithiol hyn o deithio i’r eithaf.
Cymaint oedd craffter penderfyniad y Cunard Line, fel y bu i’r White Star Line edrych i’r posibilrwydd o lanio yng Nghaergybi yn niwedd 1909.
Argraffodd y Great Western Railway Company lyfr yn arbennig ar gyfer glaniad cyntaf y Mauretania yn Abergwaun, i’w roi yn llaw pob teithiwr a laniai ar dir Cymru.
Cyflwynwyd iddynt gopi o’r Historic Sites and Scenes of England: Souvenir Copy, gyda phennod llawn gwybodaeth ar Fishguard: The Great Western Railway’s new Port of Call: Its Past, Present and Future. Ynddo roedd ychydig baragraffau ar hanes yr enwog Jemima Nicolas neu Jemima Fawr a ddaliodd 12 o Ffrancwyr yn gaeth mewn eglwys ym Mrwydr Abergwaun 1797, ychydig cyn iddynt ildio yn nhafarn y Royal Oak.
Y teithiwr cyntaf i roi ei droed ar dir Cymru oedd Mr Jenkin Evans o’r Unol Daleithiau ond yn wreiddiol o Lanbedr Pont Steffan.
Cymaint oedd y balchder yn Abergwaun ar 30 Awst 1909 nes i’r County Echo gyhoeddi rhifyn arbennig ar ddiwrnod glaniad cyntaf y Mauretania a’i alw yn Special “Mauretania” Edition of the County Echo ac ynddo ddwy dudalen yn llawn lluniau o’r Mauretania a’r Lusitania, 'Milgwn yr Atlantig'.
Roedd pwysigrwydd y digwyddiad yn amlwg i’r Cunard Line hefyd gan bod y Mauretania wedi’i gwisgo’n llawn, rhywbeth a oedd yn cael ei gadw, yn ôl yr arfer, ar gyfer achlysuron arbennig, fel Pen-blwydd y Brenin, Sul y Pasg neu Gwener y Groglith.
Nodir hefyd bod trigolion Wdig ac Abergwaun yn cael gwyliau cyhoeddus, a gofynnwyd iddynt addurno eu tai â fflagiau a byntings, roedd Band Sir Benfro ar gael i chwarae trwy gydol y dydd a phroseswn i’w gynnal am 10 y bore o Sgwâr y Farchnad, Abergwaun i blant ysgol, gweithwyr lleol, y Llu Tiriogaethol Lleol a merched mewn gwisg draddodiadol Gymreig.
Roedd y banciau i gau am hanner dydd. Roedd y plant ysgol yn cael rhywbeth i gofio’r achlysur – ai’r gwpan sgwn i? Roedd Cwch Achub yr RNLI yn mynd i hebrwng y Mauretania i’r angorfa gyferbyn â’r breakwater, i’w ddilyn gan saliwt dri gwn.
Roedd hyn oll i’w ddilyn gan garnifal yn Sgwâr y Farchnad, a gwobrau o 5s i’r wisg ffansi orau i’r dynion ac i’r merched a gwobr o £1 i’r beic a addurnwyd orau a 5s i’r ail. Hefyd rhoddwyd gwobr arbennig o gloc teithio, gini o werth i’r ddynes oedd wedi gwisgo orau ar y diwrnod.
Roedd y diwrnod i’w gloi gan dân gwyllt mawreddog wrth orsaf Gwylwyr y Glannau yn Saddle Point.
Hyd yn oed flwyddyn wedi hynny, roedd modd i drigolion Treherbert heidio i’r Opera House, a thalu 3d am gyfle i weld 'Up-to-date pictures on the Bioscope', a’r lluniau oedd y Mauretania yn glanio yn Abergwaun.
Oedd wir, roedd y ffaith i’r Mauretania lanio a gollwng angor ym mae Abergwaun ar 30 Awst 1909, toc wedi un o’r gloch yn ddigwyddiad o bwys mawr.