Ethol y ddynes gyntaf i arwain grŵp Plaid Cymru Cyngor Gwynedd
- Cyhoeddwyd
Mae Nia Jeffreys wedi ei hethol fel arweinydd newydd Grŵp Cynghorwyr Plaid Cymru Gwynedd mewn cyfarfod.
Hi fydd y ddynes gyntaf i arwain grŵp y blaid yng Ngwynedd.
Bu'n arweinydd dros dro Cyngor Gwynedd ers i’r cyn-arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn ymddiswyddo ganol fis Hydref ar ôl iddo gael ei feirniadu am beidio yn wreiddiol ag ymddiheuro i ddioddefwyr y pedoffeil Neil Foden.
Bydd Cyngor Gwynedd yn cyfarfod ar 5 Rhagfyr, ble mae disgwyl i Ms Jeffreys gael ei hethol yn arweinydd newydd parhaol y cyngor.
Plaid Cymru Gwynedd yw’r grŵp mwyaf ar y cyngor, gyda 46 o aelodau yn y grŵp.
Cafodd Neil Foden ei garcharu am 17 mlynedd yn gynharach eleni am gam-drin pedwar o blant yn rhywiol yng ngogledd Cymru rhwng 2019 a 2023.
Wedi sylwadau Mr Siencyn mewn cyfweliad ar raglen Newyddion S4C fe ymddiswyddodd pedwar aelod cabinet.
Ar ôl hynny fe ymddiheurodd "yn ddiffuant" i ddioddefwyr Foden, gan alw am ymchwiliad cyhoeddus.
O fewn llai nag wythnos cadarhnaodd y byddai'n camu'n ôl o arwain grŵp Plaid Cymru y cyngor.
Bu Mr Siencyn yn y swydd ers 2017.
Y gred yw bod rhai o’i gyd-gynghorwyr Plaid Cymru wedi cyflwyno llythyr iddo yn diolch am ei waith ond yn galw arno i fynd.
Yn ôl y Cynghorydd Nia Jeffreys: “Mae hi’n fraint o’r mwyaf cael arwain grŵp y Blaid yng Ngwynedd.
"Dwi’n hynod ddiolchgar i aelodau Grŵp Plaid Cymru Gwynedd am yr ymddiriedaeth maent wedi ei ddangos ynof fi.
"Dwi’n edrych ymlaen at gydweithio â nhw a bwrw ati gyda’r gwaith dros drigolion Gwynedd.
“Hoffwn gymryd y cyfle i dalu gwrogaeth i’r cyn arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn am ei waith i lywodraeth leol dros y blynyddoedd diwethaf.
"Dwi’n edrych ymlaen at gael bwrw ati yn y rôl newydd gydag awch a brwdfrydedd.”
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2024