Arweinydd Gwynedd yn ymddiheuro a 4 aelod cabinet yn ymddiswyddo

Dyfrig SiencynFfynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dyfrig Siencyn bellach wedi "ymddiheuro yn ddiffuant" i'r dioddefwyr ac wedi galw am ymchwiliad cyhoeddus

  • Cyhoeddwyd

Mae pedwar aelod o gabinet Cyngor Gwynedd wedi ymddiswyddo ar ôl i arweinydd y cyngor wrthod ymddiheuro i ddioddefwyr y pedoffeil Neil Foden mewn cyfweliad nos Iau.

Mae Dyfrig Siencyn o Blaid Cymru erbyn hyn wedi "ymddiheuro yn ddiffuant" i'r dioddefwyr a phrynhawn Gwener fe alwodd am ymchwiliad cyhoeddus.

Ond mae pedwar cynghorydd Plaid Cymru - Beca Brown, Berwyn Parry Jones, Dafydd Meurig ac Elin Walker - wedi camu i lawr o gabinet Cyngor Gwynedd oherwydd sylwadau gwreiddiol Mr Siencyn.

Dywedodd y pedwar mewn datganiad eu bod yn camu'n ôl o'r cabinet oherwydd "gwahaniaethau sylfaenol rhyngom a’r arweinyddiaeth ynglŷn â sut i ddelio gyda’r hyn a wnaeth Foden a beth yw’r ffordd orau i fynd ati i ganfod beth yn union aeth o’i le".

Dywedodd Mr Siencyn y bydd yn ystyried sefyllfa ei hun fel arweinydd y cyngor "cyn penderfynu ar y ffordd orau ymlaen".

Ychwanegodd: "Rwyf wedi fy nhristáu gan y newyddion fod pedwar o fy nghyd-aelodau Cabinet wedi datgan heddiw eu bod yn camu i lawr o’u dyletswyddau.

"Hoffwn ddiolch iddynt am eu cyfraniad gwerthfawr a’u gwaith diflino dros bobl a chymunedau Gwynedd."

Mewn cyfweliad gyda rhaglen Newyddion S4C nos Iau, dywedodd Dyfrig Siencyn o Blaid Cymru nad oedd yn cefnogi galwad aelodau blaenllaw ei blaid am ymchwiliad cyhoeddus, gan ddweud “fod angen ymdrin â hwn yn fuan ac yn sydyn, dwi’n meddwl mai’r Adolygiad Amddiffyn Plant ydy’r ffordd orau i wneud hynny".

Yn sgil y cyfweliad, mae yna gred ar lefel uwch o fewn Plaid Cymru bod safle Mr Siencyn yn anghynaladwy.

Mae arweinydd y blaid, Rhun ap Iorwerth, wedi galw ar Mr Siencyn i "feddwl eto ynglŷn â’r cwestiwn" am ymddiheuriad i ddioddefwyr Foden.

Dywedodd Mr Siencyn yn y cyfweliad nos Iau: "Os bydd unrhyw fai ar y cyngor, yna bydd lle i ymddiheuro."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

“Mae eisiau gwneud beth bynnag sydd angen ei wneud i ddod at y gwir sydd yn sicr yn cynnwys ymchwiliad cyhoeddus," meddai Rhun ap Iorwerth

Wrth drafod cynhadledd hydref Plaid Cymru sy'n cael ei chynnal yng Nghaerdydd ddydd Gwener, bu Rhun ap Iorwerth hefyd yn ymateb i sylwadau Dyfrig Siencyn ar raglen Dros Frecwast.

Dywedodd: “Mae eisiau gwneud beth bynnag sydd angen ei wneud i ddod at y gwir, sydd yn sicr yn cynnwys ymchwiliad cyhoeddus.

"Fe fyddwn i’n gofyn i Dyfrig i feddwl eto ynglŷn â’r cwestiwn hwnnw achos i fi, dylai ymddiheuro fod yn rhywbeth sy’n eitha hawdd ar y pwynt yma.

"Dydyn ni ddim yn gwybod beth aeth o’i le a dyna pam bod angen ymchwiliad neu mae angen gwneud beth bynnag sydd angen."

'Angen dysgu gwersi'

Dywedodd Rhun ap Iorwerth ei fod yn gofyn i Dyfrig Siencyn "ailystyried" ei benderfyniad i beidio ymddiheuro "achos er ein bod ni ddim yn gwybod yn union am be 'dan ni’n ymddiheuro, neu’n union beth aeth o’i le, rydan ni’n gwybod bod angen dysgu gwersi fel bod neb yn gorfod mynd drwy hyn eto".

Ychwanegodd: "Dwi’n gwybod bod Cyngor Gwynedd ag yntau [yr Arweinydd] yn deall beth sydd angen ei wneud i ddod at y gwir."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n bosib fod troseddu Neil Foden - yma yn y 90au - wedi dechrau dros 40 mlynedd yn ôl

Cafodd Dyfrig Siencyn ei gyfweld ar Newyddion S4C ar ôl i ragor o honiadau gael eu gwneud am y cyn-bennaeth a’r pedoffeil Neil Foden, gafodd ei ddedfrydu i 17 mlynedd yn y carchar am gam-drin pedwar o blant yn rhywiol yng ngogledd Cymru rhwng 2019 a 2023.

Roedd Foden wedi bod yn bennaeth yn Ysgol Friars ym Mangor, ac yn bennaeth strategol Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes, y ddwy yng Ngwynedd.

Mae BBC Wales Investigates wedi datgelu yr wythnos hon y gallai Foden fod wedi cam-drin disgyblion am fwy na 40 mlynedd.

Clywodd y rhaglen honiadau yn mynd yn ôl i 1979, a gan ddwy ddynes sy’n dweud bod yr heddlu wedi dweud wrthyn nhw bod hyd at 20 o ddioddefwyr posib.

Dywedodd un cyn-ddisgybl bod Foden yn parhau i anfon neges ati tan y diwrnod y cafodd ei arestio.

Mae'r adolygiad amddiffyn plant presennol wedi cael ei feirniadu - dywedodd dau ddioddefwr nad oedd unrhyw un wedi cysylltu â nhw.

'Ymchwiliad cyhoeddus am gymryd blynyddoedd'

Mewn cyfweliad gyda rhaglen Newyddion S4C, dywedodd Dyfrig Siencyn nad oedd yn cefnogi galwad aelodau blaenllaw ei blaid am ymchwiliad cyhoeddus, gan ddweud "fod angen ymdrin â hwn yn fuan ac yn sydyn, dwi’n meddwl mai’r Adolygiad Amddiffyn Plant ydy’r ffordd orau i wneud hynny".

"Mae ymchwiliad cyhoeddus am gymryd blynyddoedd," meddai.

"Ond os oes 'na ymchwiliad cyhoeddus, os oes 'na benderfyniad i gael un, fyddwn ni’n croesawu fo."

Roedd yn cydnabod fod cwestiynau i’w hateb, gan ddweud ei fod yn "hyderus y bydd y cwestiynau yna’n cael eu hateb drwy drefn yr Adolygiad Amddiffyn Plant ac mi fyddwn ni erbyn ddydd Gwener wedi cyflwyno’r holl dystiolaeth.

"Mae 'na gytundeb llwyr, does 'na ddim gwahaniaeth barn ynglŷn â’r angen i ganfod beth aeth o’i le," meddai.

"Ac os oes 'na rywbeth wedi mynd o’i le ar ein prosesau ni, gweithredu arnyn nhw, ac os oes yna unrhyw un o swyddogion y cyngor, fyddwn ni yn delio â hynny yn y ffordd arferol.

"Does dim amheuaeth am yr angen i fynd i wraidd y broblem yma ac fel dwi wedi dweud ar sawl achlysur, mi fyddwn ni’n troi pob carreg posib i ganfod atebion."

Aeth ati i ddweud: “Os bydd unrhyw fai ar y cyngor, yna bydd lle i ymddiheuro.”

'Canfyddiadau'n llywio unrhyw benderfyniadau'

Mae aelodau Senedd Cymru a San Steffan y Blaid yn Nwyfor Meirionnydd ac aelod cabinet addysg Gwynedd, Beca Brown, ymhlith uwch aelodau Plaid Cymru sydd wedi galw am ymchwiliad cyhoeddus.

Mae Liz Saville-Roberts, AS Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, wedi dweud bod gan Gyngor Gwynedd fel yr awdurdod lleol ddyletswydd gofal i blant ac y dylai fod yn destun adolygiad annibynnol.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae ein meddyliau gyda phawb sydd wedi’u heffeithio gan yr achos yma. Fel yr eglurodd y Prif Weinidog yn y Senedd yr wythnos hon, bydd Adolygiad Ymarfer Plant cynhwysfawr yn cael ei gynnal i’r achos.

"Bydd y canfyddiadau'n llywio unrhyw benderfyniadau ar gamau ehangach sydd angen eu cymryd, gan gynnwys a oes angen ymchwiliad cyhoeddus llawn."

Pynciau cysylltiedig