Arestio dau ar ôl i ferch 12 oed gael ei hanafu gan gi
- Cyhoeddwyd
Mae merch 12 oed wedi dioddef anafiadau a allai newid ei bywyd yn dilyn ymosodiad gan gi.
Cafodd yr heddlu eu galw i The Crescent ym Mrynmawr, Blaenau Gwent am tua 17:50 ddydd Llun.
Cafodd y ferch ei chludo i’r ysbyty, a bydd y ci oedd yn rhan o’r ymosodiad yn cael ei ddinistrio.
Mae dyn 37 oed a dynes 42 oed, y ddau o’r ardal, wedi’u harestio ar amheuaeth o fod yn berchen ar gi wedi’i fridio ar gyfer ymladd a chaniatáu i gi fod allan o reolaeth yn beryglus.
Maen nhw'n parhau yn nalfa'r heddlu.
Dywedodd yr Uwcharolygydd John Davies o Heddlu Gwent nad oes risg pellach i'r cyhoedd.
Ychwanegodd y gallai gweithgarwch yr heddlu ym Mrynmawr barhau ac anogodd unrhyw un â phryderon i siarad â swyddogion.