Creu ffilm 'wrth i golli fy ngwallt ddechrau rheoli fy mywyd'

Judah Cousin
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddechreuodd Judah Cousin, sydd â gwallt gosod ddechrau golli ei wallt pan oedd e yn yr ysgol

  • Cyhoeddwyd

Roedd colli ei wallt yn 16 oed yn brofiad a gafodd gryn effaith ar iechyd meddwl Judah Cousin.

Roedd e'n teimlo fel pe bai'r sefyllfa yn ei reoli ac o ganlyniad fe wnaeth ei berthynas gyda'i deulu a ffrindiau newid.

"Doeddwn i ddim am fynd mas os oedd hi'n wyntog, doeddwn i ddim eisiau mynd i nofio, byddwn i wastad yn gwisgo het i wneud ymarfer corff... rwy'n cofio cael cawod tair gwaith yn olynol er mwyn cael fy ngwallt yn iawn ac o ganlyniad roeddwn i'n hwyr i'r prom ysgol," meddai.

Bellach yn 19 oed, mae Judah wedi creu ffilm ar ei brofiadau er mwyn ceisio helpu dynion ifanc eraill a lleihau'r stigma am golli gwallt tra'n ifanc.

Mwy am y cyflwr

Mae alopesia adrogenig yn fath o foelni sy'n effeithio yn bennaf ar ddynion - maen nhw'n dueddol o golli gwallt o ganol neu blaen y pen.

Mae'n gyflwr y mae'n bosib ei etifeddu neu mae'n gallu cael ei achosi gan hormonau ac yn aml mae'n effeithio ar ddynion yn eu 20au.

Mae yna wahanol ffyrdd o drin y cyflwr ond prin yw'r dewisiadau ar y cyfan a gall rhai fod yn ddrud.

Disgrifiad,

Mae ffilm Judah, More Than What You See, yn portreadu perthynas mab a'i fam wrth iddo ddelio â'r profiad o golli ei wallt yn ystod ei arddegau

Roedd yn ergyd anferth i hyder Judah pan ddechreuodd ei ffrindiau wneud sylwadau am ei wallt, meddai.

"Byddwn i'n dechrau meddwl fy mod i'n clywed pobl yn siarad am fy ngwallt tu ôl i fy nghefn.

"Mae gen i gannoedd o fideos hefyd o fi fy hun yn edrych yn hollol ddigalon yn checio fy ngwallt i weld faint o'n i wedi ei golli.

"Dyna pryd 'nes i sylwi bod y sefyllfa yn dechrau rheoli fy mywyd."

Wedi iddo ddweud wrth ei ffrindiau cymaint o effaith oedd colli ei wallt yn ei gael ar ei iechyd meddwl, fe wnaethon nhw barchu ei deimladau.

Dywedodd bod y broses o gynhyrchu ffilm am ei brofiadau wedi ei helpu hefyd i dderbyn ei sefyllfa yn hytrach na bod yn flin.

Erbyn hyn, mae Judah yn defnyddio meddyginiaeth i geisio arafu'r broses o golli ei wallt.

Trwy rannu ei brofiadau, ei obaith yw gallu helpu pobl eraill "i beidio teimlo cywilydd".

"Mae'n bwysig darganfod beth sy'n gallu helpu chi i deimlo'n hyderus a mae bod yn agored am hynny yn fonws," ychwanegodd.

Luke ShepherdFfynhonnell y llun, Luke Shepherd / BBC
Disgrifiad o’r llun,

Mae Luke Shepherd o Flaenafon hefyd yn gobeithio y bydd rhannu ei brofiadau yn help i eraill

Nos Galan fe benderfynodd Luke Shepherd, 34, bod angen iddo wneud rhywbeth wrth iddo golli mwy o wallt.

"Edrychais i yn y drych yn nhŷ fy ffrind a sylweddolais i nad oeddwn i'n hoffi'r hyn roeddwn i'n ei weld.

"Roeddwn i wedi cribo'r gwallt i un ochr i guddio'r moelni ac roedd y gwallt yn fflat gan fy mod i wedi chwistrellu cymaint o'r hylif sydd i fod helpu i arafu'r broses o golli gwallt."

Ym mis Ionawr, fe benderfynodd drefnu apwyntiad i gael yr hyn a elwir yn system gwallt - sef triniaeth sy'n sicrhau bod darnau gwallt o ansawdd uchel wedi'i wneud o wallt go iawn neu synthetig yn glynu i groen y pen.

"Mae'r profiad wedi newid fy mywyd yn llwyr," meddai Luke.

Yn ôl yr athro ysgol gynradd o Flaenafon, mae pwysau allanol cyson yn gorfodi dynion ifanc i deimlo y dylen nhw wneud mwy i edrych yn well.

"I fi, roedd gweld yr holl bobl ar Instagram â gwallt perffaith a dynion ifanc ar y teledu â gwallt arbennig yn gwneud i fi deimlo mai dyna beth o'n i eisiau hefyd.

"Roeddwn i'n teimlo bod colli fy ngwallt yn fy atal rhag byw bywyd mwy hyderus.

"Roedd fy iechyd meddwl yn dioddef felly teimlais bod angen gwneud rhywbeth i newid y sefyllfa."

Sharon Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sharon Thomas, sy'n rhedeg busnes gwallt gosod a systemau gwallt, â chwsmeriaid rhwng 17 ac 80 oed

"Mae safon wigiau a systemau gwallt wedi gwella'n sylweddol ers i fi gychwyn yn y busnes 30 o flynyddoedd yn ôl," meddai Sharon Thomas.

"Erbyn hyn, mae tua 70% o'n gwsmeriaid yn ddynion.

"Mae trawsblaniadau yn cymryd mwy o amser a ddim yn para am byth. Mae systemau gwallt llawer yn fwy fforddiadawy."

Mae nifer o ddewisiadau ar gyfer y rhai sy'n colli gwallt - yn eu plith meddyginiaethau y mae modd eu prynu mewn fferyllfa.

Mae'r diwydiant trawsblannu gwallt wedi ffynnu yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac yn gallu costio rhwng £1,000 a £30,000 - dyw'r Gwasanaeth Iechyd ddim yn cynnig triniaethau cosmetig.

Mae systemau gwallt hefyd yn ddewis poblogaidd ac yn fwy fforddiadwy i nifer o ddynion a menywod sy'n colli gwallt.

Pynciau cysylltiedig