Arestio dyn 37 oed ar ôl i ddwy ddynes gael eu clwyfo

Mae presenoldeb yr heddlu yn parhau ar y safle wrth i swyddogion fforensig gynnal ymholiadau
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 37 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio ar ôl i ddwy ddynes gael eu clwyfo.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i gyfeiriad yn Y Rhyl yn fuan wedi 09:30 fore Iau yn dilyn adroddiadau o glwyfo.
Fe ddaeth y swyddogion o hyd i ddwy ddynes a oedd wedi dioddef anafiadau mewn cyfeiriad yn Meredith Crescent.
Cafodd un ei chludo i'r ysbyty gan Ambiwlans Awyr, tra bod y llall wedi ei chludo i'r ysbyty mewn ambiwlans i dderbyn triniaeth bellach.
Mae presenoldeb yr heddlu yn parhau ar y safle wrth i swyddogion fforensig gynnal ymholiadau.
Nid oes bygythiad pellach i'r cyhoedd, meddai'r heddlu.