Merthyr Town yn gwrthod y cynnig i ymuno â'r Cymru Premier
- Cyhoeddwyd
Mae clwb pêl-droed Merthyr Town wedi gwrthod y cynnig i ymuno â'r Cymru Premier ac felly yn aros yn system Lloegr.
Roedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cynnig cytundeb gwerth hyd at £6m i'r clwb er mwyn ceisio eu denu pan fydd y gynghrair yn ehangu o 12 i 16 tîm yn 2026.
Cefnogwyr sy'n berchen ar glwb Merthyr ac fe wnaeth 96% ohonyn nhw bleidleisio yn erbyn ymuno â'r Cymru Premier.
Cafodd y cynnig ei wneud yn wreiddiol ym mis Tachwedd.
Dim ond pum tîm o Gymru sydd yng nghynghreiriau Lloegr bellach - Caerdydd, Abertawe, Wrecsam, Casnewydd a Merthyr.
Merthyr yw'r isaf o'r rheiny yn y pyramid, gan chwarae yn y seithfed haen.
Ddydd Sadwrn roedd yna lwyddiant i'r tîm yn erbyn Taunton (2-0) - hwb i'w gobeithion i chwarae yn y gynghrair sy'n cael ei hadnabod fel National League South.
- Cyhoeddwyd15 Ionawr
Roedd y Gymdeithas Bêl-droed wedi dweud y byddai £2m yn cael ei roi tuag at wella isadeiledd yn stadiwm Parc Penydarren, ble mae Merthyr yn chwarae eu gemau cartref.
Yn ychwanegol roedd CBDC wedi gobeithio dyblu'r arian hynny drwy sicrhau yr un swm mewn nawdd gan gyrff llywodraethol ac awdurdodau lleol.
Roedden nhw hefyd wedi addo taliad o £250,000 y flwyddyn i'r clwb am bum mlynedd.
Yn ôl y gymdeithas, roedd y pecyn ariannol yn werth cyfanswm o £5.95m.