Cynnig £6m i Merthyr Town i ymuno â'r Cymru Premier
- Cyhoeddwyd
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cynnig cytundeb gwerth hyd at £6m i glwb pêl-droed Merthyr Town i geisio eu denu i ymuno â chynghreiriau Cymru.
Mae'r gymdeithas eisiau i'r clwb adael system Lloegr ac ymuno â'r Cymru Premier pan fydd y gynghrair yn ehangu o 12 i 16 tîm yn 2026.
Dim ond pum tîm o Gymru sydd yng nghynghreiriau Lloegr bellach - Caerdydd, Abertawe, Wrecsam, Casnewydd a Merthyr.
Merthyr yw'r isaf o'r rheiny yn y pyramid, gan chwarae yn y seithfed haen.
Cefnogwyr sy'n berchen ar glwb Merthyr, ac mae disgwyl i aelodau bleidleisio ar gynnig CBDC - a wnaed yn wreiddiol fis Tachwedd - erbyn diwedd Ionawr.
£2m ar isadeiledd Parc Penydarren
Mae'r gymdeithas wedi ysgrifennu at y clwb yn amlinellu'r arian y bydden nhw'n ei dderbyn trwy ymuno â'r Cymru Premier.
Maen nhw'n dweud y byddai £2m yn cael ei roi tuag at wella isadeiledd yn stadiwm Parc Penydarren, ble mae Merthyr yn chwarae eu gemau cartref.
Ond mae CBDC yn gobeithio dyblu'r arian hynny trwy sicrhau yr un swm mewn nawdd gan gyrff llywodraethol ac awdurdodau lleol.
Maen nhw hefyd yn addo taliad o £250,000 y flwyddyn i'r clwb am bum mlynedd.
Yn ôl y gymdeithas, mae'r pecyn ariannol gwerth cyfanswm o £5.95m.