Canser prif leisydd The Alarm wedi dychwelyd

Fe gafodd Peters ddiagnosis o lewcemia lymohocytic cronig (CLL) dros 29 o flynyddoedd yn ôl pan oedd yn 36 oed
- Cyhoeddwyd
Mae prif leisydd y band roc The Alarm wedi dweud bod ei ddyfodol yn "ansicr" wedi i'w ganser ddychwelyd.
Mae'r cerddor 65 oed wedi lansio ymgyrch i gael chwarter miliwn o bobl i gofrestru i fod yn rhoddwyr bôn-gelloedd ar ôl iddo golli'r cyfle i gael trawsblaniad oherwydd ei ganser.
Fe gafodd Mr Peters ddiagnosis o Syndrom Richter - math peryglus o lymffoma - fis Ebrill eleni.
Yn dilyn triniaeth therapi arbrofol mewn ysbyty ym Manceinion, cafodd wybod ei fod yn glir o ganser ychydig fisoedd yn ddiweddarach.
Ond, yn anffodus, mae bellach wedi cadarnhau bod y canser peryglus wedi dychwelyd fis diwethaf.

Ym mis Ebrill eleni cafodd Mike Peters ddiagnosis o Syndrom Richter, math peryglus o lymffoma
Wrth geisio annog mwy o bobl i gofrestru i fod yn rhoddwyr bôn-gelloedd, dywedodd ei fod yn gobeithio derbyn un o'r triniaethau yma sy'n gallu newid bywyd yn y dyfodol, wrth annog pobl i ymuno â'r ymgyrch 'Un mewn Miliwn'.
Fe gafodd Peters ddiagnosis o lewcemia lymohocytic cronig (CLL) dros 29 o flynyddoedd yn ôl pan oedd yn 36 oed.
Yn gynharach eleni, fe gafodd ddiagnosis o syndrom Richter, lle mae'r canser gwreiddiol yn datblygu i fod yn lymphoma mwy bygythiol.
Mae bellach yn derbyn cemotherapi gyda'i olygon ar gychwyn therapi CAR-T - imiwnotherapi dwys ac arbenigol.
'Mor agos, ond mor bell' i dderbyn y driniaeth
Sefydlodd Mike Peters y Sefydliad Love Hope Strength yn 2006 gyda'i wraig Jules.
Mae'r sefydliad bellach wedi lansio ymgyrch newydd, Un mewn Miliwn, er mwyn dyblu'r nifer o bobl sydd wedi cofrestru i fod yn rhoddwyr bôn-gelloedd posib.
"Roeddwn i fod yn paratoi i dderbyn trawsblaniad bôn-gelloedd, union 29 o flynyddoedd ers i mi gael gwybod bod gen i'r cyflwr," meddai.
Aeth ymlaen i ddweud fod syndrom Richter wedi golygu nad oedd modd iddo dderbyn y driniaeth arbennig hon.
Dywedodd yr oedd "mor agos, ond mor bell".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Medi 2024