Cytundeb cwmni bwyd yn diogelu 70 o swyddi yng Ngwynedd

Mae pencadlys cwmni Roberts of Port Dinorwic wedi ei leoli rhwng Caernarfon a'r Felinheli
- Cyhoeddwyd
Mae 70 o swyddi mewn cwmni dosbarthu bwyd yng Ngwynedd wedi eu diogelu ar ôl i brynwr ddod i'r amlwg.
Roedd pryderon dros ddyfodol cwmni Roberts of Port Dinorwic wedi i staff gael rhybudd y gallai'r cwmni orfod cau os nad oedd modd dod o hyd i brynwr, gan nodi cynnydd mewn costau cynhwysion a gweithredu.
Yn bodoli ers 1924 ac wedi'i leoli rhwng y Felinheli a Chaernarfon, mae'r cwmni'n paratoi prydau parod ar gyfer archfarchnadoedd a thai bwyta.
Ond bellach wedi ei werthu i GIL Investments Acquisition, mae prif swyddog gweithredol newydd, Mark Rodgers, hefyd wedi'i benodi.
- Cyhoeddwyd13 Mai
Dywedodd y cwmni y daw'r cytundeb yn ystod cyfnod hollbwysig i'r sector bwyd, sydd wedi wynebu "heriau digynsail oherwydd chwyddiant bwyd sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf".
Ar ran y teulu oedd yn berchen ar y cwmni, fe wnaeth Wyn Roberts "ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r cwmni".
"O aelodau ein tîm hirhoedlog sydd wedi ymroi i flynyddoedd o wasanaeth, i'r rhai sydd wedi symud ymlaen ond wedi gadael eu marc – mae pob person wedi cyfrannu at adeiladu rhywbeth gwirioneddol arbennig," meddai.
"Mae treftadaeth gyfoethog a chysylltiad ddofn â'r ardal hon, ac rydym wrth ein bodd y bydd hyn yn parhau o dan GIL Investments."
Cadarnhaodd Miriam Williams, a fydd hefyd yn aros gyda'r busnes fel cyfarwyddwr masnachol, bod y cytundeb yn amddiffyn pob un o'r 70 o swyddi presennol.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.