Y tŷ â dros 1,700 o fygiau
- Cyhoeddwyd
Yng nghanol cefn gwlad Ceredigion mewn tŷ fferm ym mhentref Bethania mae yno ryfeddod i’w weld – dros 1,700 o fygiau mewn un cegin.
Mae Catherine Woodward yn casglu mygiau ers 1972 pan gafodd un yn anrheg gan ddisgybl yn yr ysgol yr oedd hi’n gogyddes ynddi.
Eleni, fe ddathlodd Catherine Woodward ei phen-blwydd yn 80 mlwydd oed ac, wrth reswm, fe ddaeth y mygiau’n anrhegion rif y gwlith. Un o’r mygiau hynny oedd un wedi’i wneud yn arbennig iddi gan dîm Bore Cothi ar BBC Radio Cymru.
Bu Catherine yn westai pen-blwydd ar y rhaglen foreol boblogaidd yn ôl ym mis Mai eleni a bryd hynny fe wnaeth Shân addewid iddi y byddai'n anfon mwg Bore Cothi ati. Ond yr wythnos hon, fe wnaeth Shân un yn well a’i ddanfon yno ei hun.
Gyda help cyfrwys ei hwyres, Emily, llwyddodd y criw i roi sypreis a hanner i Catherine pan laniodd Shân ar y stepen drws gyda’r mwg a chamera i ddal y cyfan.
Pryd dechreuodd y casglu?
“O’n i’n gogyddes Ysgol Penuwch a’r plant yn rhoi rhai gyda’n enw i arno. Oedd hynny yn ’72 pan dechreuais i yn yr ysgol. Pryd hynny ddechreuodd e chi’n gwybod. A maen nhw’n newydd i gyd chi’n gwybod – dim byd second hand a dim chip yn agos iddyn nhw!”
“Dw i ddim wedi prynu dim un. Eu cael nhw ydw i. Mae ‘da fi chwe chwaer a brawd a phan maen nhw’n mynd ar eu gwylie maen nhw’n dod a mwg yn ôl i fi.”
Faint sydd gennych chi?
“Mae dros 1,700 yma nawr. Maen nhw lan ar y beams yn y kitchen a wedyn bob ochr i’r staer yn mynd lan i’r llofft. Fi’n glanhau nhw ddwywaith y flwyddyn. ”
Oes gennych chi ffefryn?
“O na, allwch chi byth a dweud ‘ny chi’n gweld neu byddwch chi’n offendo rhywun! O’n i’n gwybod pwy oedd wedi dod â phob un ond pan gorffon ni dynnu nhw lawr, dim sbel yn ôl nawr achos bod gweithwyr angen mynd lan y staer, maen nhw wedi cymysgu. Ond cyn hynny, o’n i’n gwybod gan bwy ac o le oedden nhw wedi dod. ”
Oes pobl yn dod i’w gweld nhw?
“Oes oes, mae sawl un wedi bod yn eu gweld nhw, sawl cymdeithas a pethe. Unwaith, dd’wedon nhw ‘dim ond hanner awr byddwn ni‘da chi, ni mewn mini-bus’ ond buon nhw ‘ma tair awr! Mae’n werth eu gweld nhw.”
Mae'r erthygl hon yn addasiad o sgwrs fu ar Bore Cothi ar 9 Mai, 2023.