Pryder am ddyfodol menter gymunedol ym Mangor

Bwyd Da Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Mae menter Bwyd Da Bangor wedi methu sicrhau grantiau ar gyfer y flwyddyn ariannol i ddod

  • Cyhoeddwyd

Mae caffi a menter gymunedol ym Mangor yn bryderus am eu dyfodol ar ôl methu â sicrhau cyllid ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Mae Bwyd Da Bangor angen cyllid o £150,000 i gynnal y lle, neu bydd o bosib yn gorfod cau ei drysau ddiwedd Mawrth.

Mae'r safle yn gartref i siop goffi, siop fferm a bwyty, ond mae hefyd yn fenter sy'n ailddosbarthu stoc dros ben o archfarchnadoedd, yn cynnig banc bwyd a phecynnau bwyd i deuluoedd mewn angen yn ogystal â hyfforddi staff.

Yn ôl cyfarwyddwr y fenter, Dylan Evans, "Roedden ni'n deall bod o'n mynd i fod yn ddrud, bod o'n mynd i fod yn anodd, ac mae o wedi gweithio.

"Ond wnaiff o ddim cario mlaen i weithio heb gefnogaeth gyllidol."

'Cefnogi 150 o deuluoedd yr wythnos'

Dywedodd Mr Evans fod Bwyd Da Bangor wedi derbyn cefnogaeth ariannol gan gyrff llywodraethol, sefydliadau iechyd a chymdeithasau tai yn y gorffennol.

Ond dywedodd eu bod nhw wedi methu â sicrhau grantiau ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod.

Yn ôl y cyfarwyddwr, mae'r twll ariannol "tua £175,000, ar y mwyaf, ond ni'n meddwl gallwn ni leihau hwnna rhywfaint i o gwmpas £150,000".

Bwyd Da BangorFfynhonnell y llun, Bwyd Da Bangor

Eu bwriad yw ceisio canolbwyntio rŵan ar ail-gyllido'r caffi a gosod strwythur newydd.

Maen nhw am gadw'r caffi fel ag y mae gan ei fod yn cynnig nifer o wasanaethau cymunedol eraill.

Mae'r safle yn ailddosbarthu gwastraff bwyd, yn cynnig banc bwyd ac yn dosbarthu pecynnau i deuluoedd mewn angen, mae oergell gymunedol yno ac maen nhw hefyd yn cynnig hyfforddiant a chyflogaeth i'r rhai sy'n gweithio yno.

Mae'n wasanaeth pwysig, yn ôl Dylan Evans: "Does neb arall ym Mangor neu yn bellach yng ngogledd Cymru hyd yn oed, yn 'neud hyn.

"'Da ni'n dal i gefnogi bron i 150 o deuluoedd bob wythnos."

'Ddim eisiau ei golli'

Mae'r cyfarwyddwr yn dweud eu bod wedi dechrau ar y broses o siarad gyda'u haelodau o staff.

Bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal nos Iau hefyd i drafod syniadau.

Yn ôl Dylan Evans: "Yn y bôn, fydd rhaid i ni newid ein busnes yn gyfangwbl, i gadw fo fynd, a 'da ni ddim eisiau ei golli fo achos mae o werth gymaint i Fangor a'r ardal."

Ond tra bod strwythur newydd i'r busnes yn cael ei sefydlu, mae Dylan Evans yn poeni y gallai'r drysau orfod cau ddiwedd Mawrth.

"Ella bod hynna'n bosibilrwydd… 'da ni ddim 100% yn siŵr. 'Da ni'n trio'i osgoi o ond mae'n bosibilrwydd."

Pynciau cysylltiedig