'Newid, nid marw' mae stryd fawr Bangor

Jason Hughes, Bwyd Da Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jason Hughes o siop Bwyd Da Bangor yn dweud bod y ddinas yn "symud yn y ffordd iawn"

  • Cyhoeddwyd

Mae stryd fawr Bangor yn dechrau "troi cornel", yn ôl pwyllgor newydd sy'n ceisio adfywio'r ddinas.

Wrth i Fangor nodi 1,500 o flynyddoedd ers ei sefydlu mae ymdrech o'r newydd i geisio tacluso'r ddinas a denu mwy o fusnesau yn ôl.

Yn ôl sy'n un arbenigo ar ddyfodol y stryd fawr, fe allai ymgais newydd i geisio marchnata'r ardal yn ddigidol arwain at ragor yn ymweld â'r ddinas.

Gyda chyfres o ddigwyddiadau eleni i nodi'r pen-blwydd mae'r cyngor hefyd wedi derbyn buddsoddiad gan Gyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru.

Wrth i dueddiadau siopa newid mae stryd fawr Bangor wedi wynebu sawl beirniadaeth wrth i nifer o siopau mawr adael y ddinas.

Yr wythnos ddiwethaf, daeth ergyd arall posib i'r ddinas wrth i Brifysgol Bangor gyhoeddi eu bod tua 200 o swyddi yn y fantol wrth iddyn nhw geisio gwneud arbedion o £15m.

Roedd y cyhoeddiad yn "drychinebus", meddai'r Aelod lleol o'r Senedd ar y pryd, "nid yn unig i staff y brifysgol a'r 10,000 o fyfyrwyr, ond i'r gymuned ehangach hefyd".

Ond yn ôl cyngor y ddinas mae busnesau yn dechrau dychwelyd i'r stryd fawr gyda chwech yn fwy o fusnesau o gymharu â'r un adeg y llynedd.

Martin Hanks
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Martin Hanks bod y stryd fawr yn newid - "'di o ddim yn marw"

"'Di'r problemau ddim am gael eu newid ar un cam mawr... baby steps," meddai Martin Hanks, Cyfarwyddwr Cyngor Dinas Bangor.

"'Da ni dechrau ers rhai misoedd i 'neud i'r ddinas edrych yn well, gwario ar y stryd fawr, trwsio rhai o'r siopau a peintio vinyls ar y tu mewn.

"Mae pethau yn dechrau troi yn slo' bach," meddai Mr Hanks, ond mae'n cydnabod o hyd bod ceisio newid delwedd pobl o'r ardal yn her fawr.

"Mae pobl wedi dweud ers blynyddoedd bod pethau yn drist, ond mae'n rhaid i'r gymuned i gyd nid dim ond y cyngor edrych ar beth 'da ni eisiau yma.

"Mae'r stryd fawr yn newid - 'di o ddim yn marw."

'Her i fusnesau i adaptio'

Un sy'n cytuno efo hynny ydy Medi Parry Williams, sy'n arbenigo ar gynnal a gwella'r stryd fawr.

Mae hi wedi gweithio gan reoli canolfannau siopau dros y ffin yn Lloegr ac yn cyd-weithio gyda Bangor i wella presenoldeb digidol y ddinas.

"Dwi wedi gweld bod 'na buzz wedi dechrau yma," meddai.

"Mae Bangor yn lle grêt i fyw, i weithio, i ddod yma am y diwrnod ac i investio ac astudio."

Mae hi rŵan yn gweithio i greu un wefan i farchnata yr ardal er yn cydnabod bod denu pobl yn ôl yn her ar brydiau.

"Mae'n her i fusnesau i adaptio i siopa ar-lein a'r hyn mae cwsmeriaid eisiau."

Medi
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bangor yn lle grêt i fyw ac i weithio, meddai Medi Parry Williams

O blith y cynlluniau eleni mae'r cyngor wedi plannu 18,000 o gennin pedr ac yn bwriadu trefnu cyfres o weithgareddau gyda'r gobaith o ddenu pobl yn ôl i'r ardal.

Mae gobaith hefyd y gallai cynlluniau aml-gorff i greu canolfan iechyd yn yr hen siop Debenhams fod yn atyniad.

Er yn newidiadau bach, mae Jason Hughes, sy'n rheoli bwyty Bwyd Da Bangor ar y stryd fawr, yn dweud bod pethau yn dechrau newid.

"Mae Bangor yn symud... mae bach yn slow ond ma'n symud yn y ffordd iawn," meddai.

"Dwi'n reit excited ma'r lle mae'n newid ac yn dod, as long as 'da ni'm yn colli Cymraeg ni a 'da ni'n mynd yn brysurach efo bwyd ac entertainment," meddai.

Y gobaith felly ydy y bydd y pethau bach yn gwneud gwahaniaeth mawr ac y bydd pobl Bangor yn dal i gredu bod lle o hyd i'w stryd fawr.

Pynciau cysylltiedig