Achub bachgen o glogwyn ger Castell Cricieth

Castell CriciethFfynhonnell y llun, Gwylwyr y Glannau Cricieth
Disgrifiad o’r llun,

Mae Castell Cricieth yn sefyll ar bentir creigiog sy'n edrych dros Fae Tremadog, gyda chlogwyni'n codi 30m o'r môr

  • Cyhoeddwyd

Mae bachgen yn ei arddegau wedi cael ei achub o glogwyn ar arfordir Gwynedd.

Roedd y bachgen wedi mynd yn sownd mewn lleoliad peryglus ger Castell Cricieth nos Lun.

Fe wnaeth ei ffrind alw Heddlu'r Gogledd a gysylltodd â chanolfan Gwylwyr y Glannau Caergybi ar ôl 21:00.

Cafodd hofrennydd gwylwyr y glannau, Rescue 936, ei yrru i'r lleoliad a chafodd dau gwch achub eu lansio o ganolfan RNLI Cricieth hefyd.

Gwylwyr y Glannau ar glogwyn Castell CriciethFfynhonnell y llun, Gwylwyr y Glannau Cricieth
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y timau achub gyrraedd y bachgen gan ddefnyddio rhaffau i fynd i lawr y clogwyn

Roedd y bachgen wedi bod yn neidio o'r clogwyni i'r môr gyda ffrindiau ond aeth yn sownd ar ôl dringo o fan uwch, meddai Gwylwyr y Glannau.

Gyda'r hofrennydd a'r badau achub wrth law, llwyddodd y timau achub i gyrraedd y bachgen gan ddefnyddio rhaffau i fynd i lawr y clogwyn.

Cafodd y bachgen ei lusgo i ddiogelwch heb ei anafu.

Cafodd person ifanc arall, a oedd wedi ceisio helpu ei ffrind, gymorth allan o'r dŵr ar ôl dioddef o effeithiau'r oerfel.

Mae Castell Cricieth o'r 13eg Ganrif yn sefyll ar bentir creigiog sy'n edrych dros Fae Tremadog, gyda chlogwyni'n codi 30m o'r môr.

Castell CriciethFfynhonnell y llun, Gwylwyr y Glannau Cricieth

Dywedodd llefarydd ar ran yr orsaf bad achub yng Nghricieth: "Mae plymio oddi ar y creigiau a'r clogwyni o amgylch y castell yn gyffredin yn ystod misoedd yr haf, fodd bynnag, dylai unrhyw un sy'n mynd ar y creigiau fod yn ymwybodol o'r perygl difrifol.

"Mae'n weithgaredd risg uchel sydd â'r potensial i arwain at anaf neu drasiedi.

"Diolch byth, daeth digwyddiad heno i ben yn ddiogel oherwydd ymateb y criw, gwasanaethau brys eraill ac yn enwedig dewrder ein tîm Gwylwyr y Glannau lleol; mae'n ein hatgoffa o beryglon sylweddol gweithgareddau o'r fath."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig