'Angen clinigau arbenigol' i blant gordew dan 16

  • Cyhoeddwyd
Nadim Haboubi
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Athro Nadim Haboubi yn dweud bod diffyg gwasanaethau arbenigol i blant gordew dan 16

Mae cynnig cymorth arbenigol i blant gordew yng Nghymru yn hanfodol, yn ôl arbenigwr.

Dywedodd yr Athro Nadim Haboubi, cadeirydd Cymdeithas Gordewdra Cymru, nad oes clinigau arbenigol i blant dan 16 ar gael yma ar y Gwasanaeth Iechyd.

Mae hyn er bod tua 11% o blant pedair a phum mlwydd oed yn ordew a rhai mor ifanc â naw yn diodde' o ddiabetes math dau.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymrwymo i ddelio â'r broblem.

Gordewdra yng Nghymru

  • Mae 59% o oedolion Cymru dros eu pwysau a 23% yn ordew, yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru 2016-17;

  • Mae 26% o blant pedair a phump oed derbyn dros eu pwysau, yn ôl y Rhaglen Mesur Plant mewn ysgolion;

  • O'r rheiny, mae 11% yn ordew.

Dywedodd yr Athro Haboubi, sy'n gweithio fel meddyg gordewdra yn Ysbyty Nevill Hall yn Y Fenni, nad oes digon yn cael ei wneud i blant sydd eisoes dros eu pwysau.

"Mae gwasanaethau a chefnogaeth i oedolion gordew yn gwella'n araf ond does dim byd o ran gwasanaethau i blant - maen rhaid iddyn nhw aros nes eu bod yn oedolion," meddai.

"Ond erbyn hynny, mae'n gallu bod yn rhy hwyr. Mae 'na blant naw, 10 ac 11 oed nawr gyda diabetes math dau...

"Cyflwr canol oed sydd i'w wneud â ffyrdd afiach o fyw yw e, nid cyflwr ddylai effeithio ar blant."

'Cwbl hurt'

Bu'r dietegydd Sioned Quirke yn gweithio gyda'r llywodraeth i ddatblygu Llwybr Gordewdra Cymru yn 2010 - dogfen yn nodi'r arfer gorau wrth fynd i afael â gordewdra i blant ac oedolion.

Ond mae hi'n feirniadol nad oes digon wedi'i wneud ers cyhoeddi'r strategaeth, yn enwedig gyda gwasanaethau i blant.

"Saith mlynedd ers cyhoeddi Llwybr Gordewdra Cymru ry'n ni'n gweld bod y strategaeth i oedolion wedi datblygu ychydig, ond mae'r strategaeth i blant yn dal ar ei hôl hi, ac mae hynny'n gwbl hurt.

"Ry'n ni'n gwybod bod problem enfawr, dyw Llywodraeth Cymru yn gwneud dim i orfodi byrddau iechyd i wneud rhywbeth amdano.

"Mae'r llywodraeth yn gallu gweld ffigyrau gordewdra yn codi pob blwyddyn, ac mae'n gwbl amlwg, os ydych chi'n helpu pobl sydd dros eu pwysau bydd yn lleddfu'r baich ar wasanaethau eraill fel diabetes a chardioleg."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr Athro Haboubi bod addysgu plant am fwyta'n iach yn bwysig, ond bod diffyg cymorth i'r rhai sydd eisoes yn ordew

Mae'r Athro Haboubi yn rhedeg un o dri chlinig arbenigol ar gyfer pobl dros 16 yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru sy'n trin cleifion sydd wedi cael eu gyrru yno gan feddyg teulu.

Mae'r cleifion yn cael gofal personol gan ddietegydd, meddyg, ffisiotherapydd a chynghorydd.

Yn ôl yr Athro Haboubi, byddai gwasanaeth tebyg o fudd i blant hefyd.

"Mae llawer o ewyllys da i'r syniad ond dim adnoddau," meddai.

'Parhau i ddatblygu'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn parhau i ddatblygu eu ffordd o ddelio â gordewdra, gan gynnwys y Llwybr Gordewdra Cymru, sy'n gosod y ffordd mae byrddau iechyd ac awdurdodau lleol yn ceisio delio gyda'r mater.

Ychwanegodd: "Mae data diweddar o'r Rhaglen Mesur Plant yn dangos bod y niferoedd sydd dros eu pwysau neu'n ordew ymysg plant oed derbyn yn parhau i gysoni, gyda'r rhan fwyaf o blant yn cyrraedd pwysau iach.

"Mae nifer y plant a phobl ifanc sydd â diabetes math dau yn fach iawn; mae tua 96% o'r plant a phobl ifanc sydd â diabetes â diabetes math un, sydd ddim i'w wneud â'u ffordd o fyw.

"Bydd plant a phobl ifanc sy'n cael eu heffeithio gan ddiabetes math dau yn cael cefnogaeth i reoli eu cyflwr gan unedau diabetes pediatrig arbenigol ar draws Cymru."