Llun o gopa'r Wyddfa a'r lleuad yn llonni ffotograffydd

Mae'r llun yma o'r Wyddfa wedi denu miloedd ar filoedd o ymatebion ar-lein
- Cyhoeddwyd
Mae llun sy'n dangos pobl ar gopa'r Wyddfa gyda'r lleuad llawn yn gefndir wedi bod yn denu canmoliaeth ar y cyfryngau cymdeithasol.
Dywedodd y ffotograffydd Tony Harnett ei fod wrth ei fodd gyda'i lun diweddaraf sydd wedi cymryd blynyddoedd i'w gipio'n llwyddiannus.
Esboniodd fod yn rhaid i "lawer o wahanol newidynnau" fod yn gywir, gan gynnwys y tywydd a dod o hyd i'r lleoliad iawn.
Cafodd ei arwain gan ap ffôn i nodi'r lle a'r amser gorau.
Er mwyn tynnu'r llun perffaith, aeth Tony tua chwe milltir (10km) i ffwrdd o'r Wyddfa ger llynnoedd prydferth Llynnau Mymbyr, ger Capel Curig yn sir Conwy, dros nos ddydd Gwener.
"Mae rhai lluniau yn mynnu mwy o amynedd a dyfalbarhad nag eraill," meddai'r dyn 42 oed, sy'n wreiddiol o Salford, Manceinion, ond sydd bellach yn treulio llawer o amser yn tynnu lluniau yn Eryri.
"Mae'n llun rydw i wedi bod eisiau ei chael ers rhai blynyddoedd... ac rydw i wedi ei gael o'r diwedd."
Caniatáu cynnwys Facebook?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Facebook. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Facebook Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2021