Gwrthdrawiad lori: Cerddwr wedi cael anafiadau sy'n newid bywyd

Cafodd dyn ei arestio ar amheuaeth o yrru dan ddylanwad cyffuriau ar ôl y gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad sydd wedi achosi anafiadau difrifol i fenyw.
Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng lori a cherddwr ar Welsh Street, Cas-gwent, am tua 07:30 fore Llun, meddai Heddlu Gwent.
Mae menyw 51 oed wedi ei chludo i'r ysbyty gydag anafiadau sy'n newid ei bywyd.
Cafodd dyn 30 oed ei arestio ar amheuaeth o yrru o dan ddylanwad cyffuriau ac achosi anaf drwy yrru'n beryglus.
Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un oedd yn yr ardal rhwng 07:00 a 07:30 ar 10 Chwefror i gysylltu â nhw.