Merch, 16, fu farw wedi 'cymysgu â'r criw anghywir' - cwest

Caiti Ffynhonnell y llun, Aimi Imber
Disgrifiad o’r llun,

Pan oedd Caiti yn 14, dechreuodd ysmygu canabis yn rheolaidd gyda ffrindiau gan symud ymlaen i ddefnyddio cetamin

  • Cyhoeddwyd

Fe wnaeth merch, 16, a fu farw mewn cartref arbenigol i blant ger Wrecsam "gymysgu â'r criw anghywir" a wnaeth fanteisio arni'n rhywiol a'i harwain i droseddu, clywodd cwest.

Pan yn 15 oed, clywodd y gwrandawiad fod Caitlin Imber - a oedd yn cael ei hadnabod fel Caiti - yn dosbarthu cyffuriau yn anghyfreithlon i ddyn ym Manceinion. Roedd hefyd yn meithrin perthynas amhriodol o natur rywiol gyda hi.

Cafodd Caiti ei chymryd i ofal awdurdod lleol, ac fe gafodd ei chanfod yn farw yn ei hystafell wely yn y cartref ym mis Rhagfyr 2022.

Cofnododd cwest gasgliad naratif, gyda'r crwner yn dweud, er ei bod wedi hunan-niweidio, ei bod yn debygol nad oedd hi'n bwriadu dod â'i bywyd i ben.

Yn ystod y gwrandawiad pedwar diwrnod cafodd Caiti, a oedd yn byw yn Kidsgrove yn Sir Stafford, ei disgrifio fel "plentyn doniol a hoffus iawn", a dywedodd ei theulu ei bod yn "fywiog a disglair".

Pan oedd hi'n 14, dechreuodd ysmygu canabis yn rheolaidd gyda ffrindiau gan symud ymlaen i ddefnyddio cetamin.

Dywedodd ei mam, Aimi Imber, wrth y cwest "ei bod wedi newid yn gyflym a'i bod hi'n anodd i'w rheoli".

"Ceisiais ei hatal rhag gadael adref a chymryd ei ffôn, ond ar un achlysur, neidiodd allan o ffenestr ar y llawr cyntaf.

"Roedd hi mewn hwyliau hunanddinistriol ac ond yn gwneud yr hyn a ddymunai.

"Mae'r teimlad yna nad ydych chi'n gallu helpu eich plentyn eich hun yn erchyll. Mae'n effeithio ar eich iechyd meddwl eich hun," ychwanegodd.

Beirniadu'r bwrdd iechyd am ddiffyg ymdrech

Dywedodd y Crwner John Gittins bod Caiti, pan oedd hi tua 14, wedi mynd i gwmni pobl a wnaeth fanteisio arni'n rhywiol a'i harwain i droseddu. Er gwaethaf cefnogaeth rhieni bu hi ar goll yn gyson ac yn camddefnyddio cyffuriau.

"O ganlyniad i'r ymddygiad hwn, roedd hi'n angenrheidiol i'r awdurdod lleol gadw Caiti'n ddiogel, ac ym mis Mawrth 2022, cafodd le mewn cartref preswyl sy'n arbenigo ar gefnogi merched ifanc sydd wedi dioddef camfanteisio rhywiol a throseddol."

Clywodd y gwrandawiad fod ei hiechyd meddwl a'i lles wedi dechrau gwella tra roedd hi'n byw yn y cartref, a dechreuodd astudio yng Ngholeg Cambria gerllaw.

Ond ychwanegodd y crwner: "Yn hydref a dechrau gaeaf 2022 dirywiodd iechyd meddwl Caiti.

"Er gwaethaf hyn, doedd yna ddim arwyddion amlwg o fwriad i hunan-niweidio ac ar adegau roedd ei hwyliau yn nodweddiadol o ferch yn ei harddegau ac roedd y plentyn i'w weld ynddi hi o hyd wrth iddi fod yn llawn cyffro am y Nadolig oedd i ddod."

Cafodd ei darganfod yn farw yn ei hystafell ar 13 Rhagfyr 2022.

Dywedodd y crwner hefyd ei fod yn bryderus fod Caiti wedi cael ei chyfeirio at Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) ym mis Ebrill 2022, ond na chafodd apwyntiad oherwydd diffyg gwybodaeth.

Beirniadodd y bwrdd iechyd am beidio â gwneud digon o ymdrech i gael yr wybodaeth oedd ei hangen arnynt – a dywedodd bod hynny wedi arwain at oedi o chwe wythnos cyn i Caiti gael cymorth.

Ychwanegodd y crwner nad oedd hyn wedi cyfrannu at ei marwolaeth, ond y byddai'n ysgrifennu at y bwrdd iechyd er mwyn sicrhau eu bod wedi gwella'r ffordd y maen nhw'n delio ag achosion sydd yn cael eu cyfeirio at CAMHS.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig