Derbyn tystysgrifau marwolaeth Cymraeg yn 'frwydr am gyfiawnder'

Mae Afryl yn ceisio newid tystysgrif marwolaeth ei diweddar ŵr Aled i'r Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae'n "hollol afresymol" nad yw tystysgrifau marwolaeth a genedigaeth ar gael yn Gymraeg heb orfod gofyn, yn ôl un sy'n cefnogi ymgais i newid y gyfraith.
Mae Afryl Davies, 65 o Gaerdydd, yn dweud bod ceisio newid tystysgrif marwolaeth ei gŵr, Aled Glynne Davies, i'r Gymraeg wedi bod fel "brwydr am gyfiawnder".
Yr wythnos hon fe gyflwynodd yr AS Llafur Alex Barros-Curtis fesur yn San Steffan i geisio pasio deddf a fyddai'n gwneud tystysgrifau sy'n cael eu cyhoeddi yng Nghymru'n ddwyieithog, heb orfod gofyn am un yn y Gymraeg.
Mae'r cynigion, a gafodd eu hawgrymu am y tro cyntaf yn ôl yn 1999, wedi cael cefnogaeth gan Aelodau Seneddol Llafur Cymru a Phlaid Cymru.
Mae Llywodraeth y DU wedi cael cais am sylw.
'Fy iaith i ddim yn gamgymeriad'
Dywedodd Afryl ei bod wedi aros misoedd am dystysgrif marwolaeth i'w gŵr, ond ar ôl iddi gyrraedd sylwodd ei bod yn uniaith Saesneg.
"'Nes i guddiad y dystysgrif am gyfnod achos do'n i ddim yn gallu wynebu hi," meddai.
"A wedyn pan 'nes i agor y dystysgrif nes i sylweddoli bod e'n uniaith Saesneg."
Wedi iddi gysylltu â'r Swyddfa Gofrestru leol yn gofyn i'w newid, dywedodd ei bod wedi cael ymateb gan y brif swyddfa oedd yn "gwrthod ei chyfieithu hi".
"'Does 'na ddim camgymeriad wedi cael ei wneud' - dyna ydy'r llinell maen nhw'n defnyddio drosodd a throsodd - 'There is no clerical error.'
"Mae o'n hollol, hollol afresymol yn 2025 bo' fi'n gorfod brwydro am rywbeth mor sylfaenol, ddylai fod yn digwydd mor hawdd i fi," meddai Afryl.
Ychwanegodd bod y Swyddfa Gofrestru wedi cynnig rhoi blwch Cymraeg ar waelod y dystysgrif "mewn ysgrifen fach, fach fyse ti prin yn gallu ei ddarllen o".
Dywedodd fod yr ymateb wedi ei "brifo" hi. "Dydy fy iaith i ddim yn gamgymeriad," meddai.
Cafodd cwest i farwolaeth Mr Davies - cyn-olygydd gyda'r BBC - ei gynnal yn Gymraeg y llynedd, a daeth i'r casgliad ei fod wedi marw'n ddamweiniol.

Dywedodd Afryl ei bod yn ymladd dros newid y gyfraith er mwyn "anrhydeddu" ei gŵr
Petai'r mesur yn dod yn ddeddf, byddai'n bosib cyhoeddi dogfennau yn y Gymraeg yn unig, yn Saesneg yn unig, neu yn y ddwy iaith.
I Gymry sy'n byw yn Lloegr, byddai'r ddeddf yn caniatáu iddyn nhw dderbyn eu tystysgrifau yn y Gymraeg hefyd.
Ar gyfer digwyddiadau nad ydynt eisoes wedi'u cofrestru'n ddwyieithog, bydden nhw'n cael eu cyfieithu i'r Gymraeg gan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol.
Gan nad oedd y cofrestrydd a wnaeth gofrestru marwolaeth Aled Glynne Davies yn siarad Cymraeg na chwaith yn deall Cymraeg, yn gyfreithiol roedd yn rhaid cael tystysgrif Saesneg.
Mae deddfau o'r 1950au a'r 1960au yn nodi y gallai genedigaethau a marwolaethau gael eu cofrestru yn Gymraeg ac yn Saesneg - dim ond pan mae'r cofrestrydd yn siarad a deall Cymraeg.
Ni chafodd marwolaeth Aled ei gofrestru yn ddwyieithog, felly dyw Afryl ddim wedi gallu cael cyfieithiad o'r dystysgrif.
"Mae o'n dalcen caled," meddai.
'Dim opsiwn'
Wrth gyflwyno'r darlleniad yn y Senedd, dywedodd AS Gorllewin Caerdydd, Alex Barros-Curtis y dylid "rhoi'r hawl" i bobl sy'n byw yng Nghymru a phobl Gymreig sy'n byw yn Lloegr i gael eu tystysgrif geni neu farwolaeth nhw neu aelod o'r teulu yn Gymraeg, Saesneg neu'n ddwyieithog.
Dywedodd os nad oes unrhyw opsiwn yn cael ei ffafrio, y dylai'r tystysgrifau gael eu cyhoeddi yn "ddwyieithog heb orfod gofyn".
"Mae fy etholwyr eisiau tystysgrifau marwolaeth eu perthnasau yn y Gymraeg neu'n ddwyieithog, ond nid yw'r opsiwn hwnnw wedi'u rhoi iddyn nhw heb orfod gofyn.
"Yn lle hynny, maen nhw'n wynebu brwydr.
"Dydy hyn ddim yn iawn yng Nghymru fodern - Cymru sy'n falch o'i hiaith, poblogaeth sy'n falch o'u gwlad."

Buodd Afryl ac Aled yn briod am 41 o flynyddoedd
Dywedodd Osian Llywelyn, Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, bod swyddfa'r comisiynydd wedi bod yn cydweithio gydag amryw bartïon perthnasol, ac wedi derbyn cyngor cyfreithiol ar y mater.
"Rydym hefyd wedi trafod pryderon ehangach gyda'r Cofrestrydd Cyffredinol ynghylch y broses o gofrestru marwolaeth," meddai.
Dywedodd bod y trafodaethau hyn yn cynnwys cyfarwyddiadau a chanllawiau i gofrestryddion.
Ychwanegodd er nad yw Safonau'r Gymraeg yn uniongyrchol berthnasol i'r mater yma, gan ei fod yn dod o dan gyfundrefn Llywodraeth y DU, mae'n "grediniol y dylai fod yn fater gweithredol dan gynllun iaith Gymraeg yr adran berthnasol".
"Rwy'n credu y dylai'r broses gofrestru yng Nghymru adlewyrchu hawliau unigolion i fyw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg, yn enwedig yn ystod digwyddiadau bywyd sensitif ac arwyddocaol," meddai.
'Credu'n gryf mewn cyfiawnder'
Nid dyma'r tro cyntaf i fesur o'r fath gael ei gyflwyno yn Nhŷ'r Cyffredin.
Cafodd y cynnig ei wneud yn 1999 gan y diweddar Arglwydd Dafydd Elis-Thomas.
Yn 2009, fe wnaeth cyn-aelod seneddol Plaid Cymru, Hywel Williams, gynnig mesur tebyg.
Gyda chefnogaeth ei theulu a ffrindiau, mae Afryl yn benderfynol o wneud gwahaniaeth.
"Mi wnai frwydro achos rwy'n credu'n gry' mewn cyfiawnder, mewn hawl," meddai.
"Fy nheulu i, a theulu Aled sy'n dweud caria 'mlaen, 'da ni hefo chdi, 'da ni angen 'neud hwn.
"Felly dyna pam dwi'n cario 'mlaen, a mi fysa Aled eisiau i fi hefyd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.