Cofnodi taith canser y fron i 'leihau pryder eraill'
- Cyhoeddwyd
Mae mam o Landwrog ger Caernarfon wedi gwneud fideo o'i phrofiad o fyw gyda chanser y fron er mwyn helpu eraill.
Pan gafodd Nia Elain Roberts wybod ym mis Tachwedd 2023 ei bod hi'n wynebu llawdriniaeth a thriniaeth cemotherapi dywed nad oedd ganddi fawr o syniad beth oedd o'i blaen a bod yna brinder deunydd Cymraeg.
"Mae hi mor bwysig codi ymwybyddiaeth. Mae'r ffaith i mi gael fy diagnosio yn 46 oed - mi ddoth yn sioc i fi," meddai wrth siarad â Cymru Fyw.
"Mi 'nes i 'neud y fideo yn gofnod i fi'n hun ond hefyd dwi'n gweld e'n arf i leihau pryder pobl.
"Roeddwn i'n bryderus iawn.
"Mi oedd y cemotherapi yn fwgan a'r darlun oedd gen i yn fy mhen oedd bod rhywun yn ofnadwy o sâl ar cemotherapi a methu 'neud dim arall, ond mae modd byw drwy'r driniaeth a chael amseroedd hapus - ro'n i'n awyddus i ddangos hynny."
Mae'r flog yn cyfeirio at brif gamau taith claf sy'n wynebu canser - ceisio byw bywyd normal cyn cael gwybod yn swyddogol, rhannu'r newyddion gyda theulu a ffrindiau, gwisgo cap oer, colli gwallt a sgil effeithiau eraill cemotherapi - ond mae yna sylw hefyd i garedigrwydd pobl.
"Mae'n gyfnod heriol iawn yn emosiynol ac yn gorfforol ond o'n i isio dangos yn y fideo bod yna ddechrau a diwedd iddo," meddai Nia Elain.
"Doeddwn i ddim wedi deall cynt bod yna dabledi a phigiada' ma' rhywun yn eu cymryd i leddfu salwch na chwaith bod yna gyfnodau lle mae rhywun yn teimlo'n well yn y cylch cemo - dwi'n sôn am hynny yn y fideo gan bo' fi fy hun ddim yn ymwybodol."
Yn ystod eleni mae mwy o bobl wedi bod yn cofnodi eu teithiau drwy ganser yn Gymraeg - yn eu plith Mari Grug sydd wedi cyflwyno cyfres o raglenni mewn podlediad a Rhian Wyn Griffiths sydd newydd gyhoeddi ei chyfrol Lwmp.
"Y mwyaf o wybodaeth o'r math yma sydd yna, gorau'i gyd," medd Nia Elain.
"Mae'r nyrsys yn darparu lot o wybodaeth ond o'n i isio gwybod mwy ac o'dd rhaid i fi fynd i chwilio am y wybodaeth yna.
"Yr un peth 'nes i ffeindio yn heriol yn y cyfnod ges i ddiagnosis nad oedd llawer o ddeunyddiau a gwybodaeth yn y Gymraeg.
"Ond yn y flwyddyn ddiwethaf 'ma mae podlediad Mari Grug wedi bod yn arbennig a dwi'n falch bod y llyfr Lwmp ma' yn dod allan - mae hwn yn rhywbeth arall yn y Gymraeg.
"Hefyd mae Anwen Edwards o Sir Fôn wedi creu cymuned cefnogaeth canser ar Facebook - mae'r wybodaeth 'dan ni'n ei gael wrth ein gilydd yn hwnnw o gymorth mawr.
"Mae modd cael sgwrs am symptomau a be' sy'n helpu, ry'n ni hefyd yn mynd am dro gyda'n gilydd ac yn canu mewn côr o'r enw Law yn Llaw."
Dywed Nia Elain bod creu'r fideo wedi bod yn gymorth iddi hefyd gael gwared ar y chwerwder a oedd ganddi ar ddechrau'r daith.
"Mi o'n i'n flin iawn ar y dechrau - blin am sawl rheswm.
"Roeddwn i'n flin efo fi'n hun bo fi ddim wedi ffeindio'r lwmp ynghynt ac yn flin fod y peth 'ma yn dod ar draws fy nghynlluniau i.
"Ro'n i newydd gychwyn swydd newydd fel swyddog pererindodau ysgolion yn Esgobaeth Bangor, dwi'n berson gweithgar yn y gymuned ac mae'r plant yn brysur.
"Ro'n i'n flin ofnadwy am gyfnod ond mae'n rhyfedd, o fewn dim o amser mi wna'th hwnnw fynd.
"'Nes i ddod i bwynt lle oedd yn rhaid i fi jyst derbyn fy sefyllfa a meddwl bod dwy ffordd ymlaen - twll du a theimlo'n wael drosof fy hun a bod yn flin gyda phawb a phopeth, neu 'neud y gorau o'r sefyllfa a dyna ddigwyddodd."
Mae bron i flwyddyn ers i Nia Elain gael gwybod bod ganddi ganser y fron ac mi orffennodd ei thaith cemo ym Mai eleni.
"Ydw dwi'n teimlo'n rhydd ac roedd hi'n braf cerdded allan o Ward Alaw wedi i mi gael gofal arbennig yno," meddai.
"Dwi'n mawr obeithio y bydd y fideo yn help i eraill. Mae fy ffrind newydd gael diagnosis canser.
"Dwi'n gobeithio ei gweld hi yn mynd am dro, yn mynd allan am bryd bwyd - gobeithio bod fy mhrofiadau i yn rhywbeth y gall hi afael ynddyn nhw.
"Ydy mae cael diagnosis yn chwalu byd rhywun, ond eto mae 'na gyfnodau hapus hefyd. Mae'n bwysig sôn am y darlun llawn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Ebrill
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd30 Mehefin