Cofebau i gofio 85 mlynedd ers chwalu cymuned Epynt

Mae'r gofeb i gofio teulu a fferm Abercriban yn un o'r 54 cofeb lechen sydd wedi cael eu creu
- Cyhoeddwyd
Mae digwyddiadau wedi bod i gofio'r dros 200 o Gymry fu'n ffermio yn ardal Mynydd Epynt ac a gafodd eu gorfodi i adael eu cartrefi erbyn mis Mehefin 1940.
Bwriad y Fyddin Brydeinig ar y pryd oedd troi'r 30,000 o erwau yn ne Powys yn faes tanio er mwyn ymarfer saethu ar gyfer yr Ail Ryfel Byd.
Cafodd 54 fferm, tafarn, ysgol a chapel eu cymryd yn ystod 'Y Chwalfa' neu'r 'Epynt Clearance'.
 hithau'n 85 mlynedd ers gwagio cymuned Gymraeg ei hiaith fel rhan o ymdrech Prydain at baratoadau'r Ail Ryfel Byd, fe wnaeth rhai o ddisgynyddion i deuluoedd Mynydd Epynt ymgynnull ar 22 Mehefin i weld cofeb lechen gydag enwau'r teuluoedd wnaeth symud a'u ffermydd yn cael ei dadorchuddio.
Bydd y cyhoedd yn gallu gweld y gofeb yng Nghanolfan Ymwelwyr Epynt ger Garth.
Ond yn fwy na hynny, mae 54 cofeb lechen gydag enw pob un o'r 54 fferm wedi eu creu. Y gobaith yw y bydd pob cofeb yn cael ei gosod yn yr union fan lle roedd y fferm deuluol.

Y gofeb a gafodd ei dadorchuddio ar 22 Mehefin
Cofio Teulu Gwybedog
Un sy'n falch fod cofeb i bob fferm a theulu a gollwyd o'r Epynt yw Ydwena Jones, merch y diweddar Iorwerth Davies o fferm Gwybedog. Cafodd ei thad ei orfodi i symud o Fynydd Epynt pan oedd yn 16 oed.
"Roedd y teulu wedi byw yna ers dros 100 mlynedd cyn symud. Yn ôl y cyfrifiad oedden nhw yna ers 1841," meddai.
Mae Ydwena hefyd yn weithgar gyda Grŵp Epynt fu'n rhan o drefnu'r digwyddiad i ddadorchuddio'r cofebau ar y cyd gyda Menter Brycheiniog a Maesyfed a'r Ganolfan Ymwelwyr. Roedd arddangosfa arbennig yn rhan o'r digwyddiad hefyd.
"Mae llawer o bobl sydd gyda chysylltiad ag Epynt yn dal i bori eu defaid ar y tir. Eu syniad nhw oedd cael yr enwau i gyd yn ôl ar y ffermydd, sy'n hollol hyfryd," ychwanegodd.
"Yn 1940 dim ond tag plastig gyda Farm 1, Farm 2, Farm 3 ac yn y blaen oedd yn nodi safle'r ffermydd ar ôl eu dymchwel. Diolch i gyfrol Ronald Davies, Epynt Without People, roedd cofnod o enwau'r ffermydd ar gof a chadw."

Fe wnaeth cannoedd o bobl ymgynnull i Gofio Epynt ar 22 Mehefin er mwyn dadorchuddio'r cofebau a gweld arddangosfa arbennig

Cofeb arall a fydd yn y pendraw yn cael ei gosod ar y safle lle roedd teulu Brynmeheryn yn byw ac yn ffermio
Iorwerth o'r Epynt
Yn ddiweddar cafodd stori teulu Gwybedog ei defnyddio fel sail i'r ddrama Iorwerth o'r Epynt gan gwmni theatr Mewn Cymeriad.
Er bod hanes colli cymuned Epynt yn un trist, mae Ydwena'n ymfalchïo bod cenhedlaeth newydd wedi cael dysgu am yr hanes:
"Menter Brycheiniog a Maesyfed gomisiynodd y sioe ac fe gysylltodd cwmni Mewn Cymeriad gyda fi yn holi am atgofion Dad.
"Ddaethon nhw yn ôl ata i a deud ydy e'n bosib defnyddio enw dy dad fel y cymeriad. Wedes i yn bydde hynna'n lyfli, fe dreuliodd Dad flynyddoedd yn mynd o amgylch ysgolion a chymdeithasau gwahanol yn dweud ei stori felly fe fydde fe wedi bod wrth ei fodd.
"Aeth y sioe i ysgolion cyfagos gan gynnwys Ysgol y Bannau yn Aberhonddu, Ysgol Gynradd Llanfair-ym-Muallt ac Ysgol Pontsenni.
"O'n i'n falch iawn bo' nhw wedi dewis cadw ei enw yn fyw ond roedd gweld y perfformiad yn Ysgol y Bannau lle o'n i'n arfer dysgu am gyfnod yn brofiad wna i ddim anghofio.
"Daeth fy wyres gyda fi i'w weld e felly oedd e'n itha emosiynol, ac roedd gweld Geraint Cynan yr actor mor debyg i Dad o ran edrychiad, ges i bach o sioc. Ond mae ymateb pob ysgol wedi bod yn arbennig."

Sioe Iowerth o'r Epynt yn ymweld ag Ysgol Llanfair-ym-Muallt, gydag Ydwena, merch Iorwerth Davies, a rhai o ddisgynyddion Gwybedog ymhlith y gynulleidfa
Cofiwch Epynt
Ac fe ddaeth y sioe ag atgofion yn ôl i Ydwena o dyfu i fyny yn Aberhonddu a dysgu am hanes ei hachau:
"Magwyd fi yn Aberhonddu ond oedd llawer o'r teulu dal yn byw yn Tirabad a Cefn-gorwydd felly o'n i'n mynd dros y mynydd bob penwythnos i ymweld â nhw felly o'n i'n croesi'r Epynt i fynd i bobman bron ac oedd Dad yn adrodd y straeon i ni am dyfu i fyny yno ar y ffordd."
Beth oedd teimladau ei diweddar dad, Iorwerth Davies am chwalfa Mynydd Epynt?
"Oedd e tua 16 oed pan 'nath e symud. Iddo fe oedd e'n eitha cyffrous achos doedd e ddim wedi bod yn bellach na Phontsenni.
"Ar ôl iddo fe heneiddio fe wnaeth e sylweddoli be' oedden nhw wedi colli; colli ffrindiau, colli cymuned agos iawn, yr amser cneifio a gwneud y gwair a phawb yn dod at ei gilydd, lot o eisteddfoddau a chwrdd drwy'r diwylliant Cymraeg."
Symud i Bumsaint yn agos at fwynfeydd aur Dolaucothi wnaeth Iorwerth Davies a theulu Gwybedog cyn i Iorwerth ymgartrefu'n Aberhonddu, cyfarfod ei wraig a magu teulu yno. O newid gwaith fel amaethwyr i gloddio am aur, roedd newid gwaith yn ogystal â newid cartref yn newid byd i deulu Gwybedog.

I Ydwena, mae cofio Epynt yn bwysig o hyd:
"Dwi jest eisiau i bobl gofio am y bobl oedd yn byw yna am ganrifoedd a'r gymdeithas Gymraeg oedd yn ffynnu ynddo, a chymdeithas yn llawn diwylliant.
"Cafodd teuluoedd Epynt eu gwasagaru i bobman. Mae'n stori drist ond eto mae lot o bethe da wedi digwydd gyda'r Gymraeg yn dod yn ôl i'r ardal.
"Ar y pryd roedd Mynydd Epynt a'r ardal o amgylch yn ardal o siaradwyr Cymraeg ond ar ôl i'r teuluoedd symud fe Seisneigiodd yr ardal.
"Doedd dim cyfle i fi gael addysg Gymraeg yn Aberhonddu, fe fu'n rhaid i bobl yn y dre frwydro i gael addysg Gymraeg yno. Ond rwy'n falch o ddweud fod fy mhlant i wedi cael addysg Gymraeg, a fy wyrion heddiw, felly rwy'n dewis edrych yn bositif ar yr hanes erbyn heddiw."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2023