Llangyndeyrn: 60 mlynedd ers achub y cwm
- Cyhoeddwyd
Mae hi'n amser egwyl yn Ysgol y Fro, Llangyndeyrn ac mae dwy yn chwarae hopscotch ar yr iard.
Byddai'r ysgol dan gysgod argae heddiw oni bai am ymdrech trigolion Cwm Gwendraeth Fach i atal eu bro rhag cael ei boddi 60 mlynedd yn ôl.
Rhwng 1960-1963 roedd cynlluniau gan Gorfforaeth Ddŵr Abertawe i ddefnyddio dŵr Afon Tywi i foddi'r cwm a chreu cronfa ddŵr i ardal Abertawe.
Byddai boddi’r cwm wedi golygu colli wyth fferm, dros 1000 o erwau o dir amaethyddol da, ac effeithio ar 32 fferm arall.
Ar 21 Hydref 1963, ar ôl misoedd o wrthsefyll cadarn a heddychlon, daeth buddugoliaeth i drigolion Llangyndeyrn.
Fe ildiodd swyddogion o ddinas Abertawe i ffermwyr penderfynol Llagyndeyrn.
"Cofiwch Llangyndeyrn!" mae'r plant yn gweiddi'n groch wrth dynnu llun o flaen y murlun arbennig.
Mae'r stori yma'n creu tân yn eu boliau.
‘Dim ond fi sydd ar ôl nawr’
Huw Williams, fferm Pant-teg
Mae gweld ieuenctid y pentref yn dathlu'r hanes yn llawenhau Huw Williams neu Huw Pant-teg.
Petai'r boddi wedi digwydd, byddai fferm Pant-teg o dan y dŵr heddiw.
"Dwi wedi bod yn ffarmo yn Pant-teg erioed. O'n i yn un o’r rhai oedd yn ymgyrchu i achub y cwm rhag cael ei foddi.
"A fi yw’r unig un sydd ar ôl nawr oedd ar y pwyllgor amddiffyn gwaetha’r modd," eglura Huw sy'n 88 erbyn hyn.
"Dechreuodd y cwbl 'nôl ym mis Chwefror 1960 pan ddaeth y siopwyr lleol lan â phapur y Western Mail i fi.
"Ar ôl derbyn y papur sylwes i bod heading ar y papur mewn llythrennau mawr du.
"A Welsh Valley faces death by drowning.
"Wel meddylies i, pwy gwm o'n nhw yn mynd i foddi eto? Oedden nhw wrthi yn boddi Tryweryn ar yr un adeg.
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2015
"Wrth ddarllen ymhellach, ges i’r sioc fwya' o’n i wedi cael erioed.
"Y cwm o’n nhw'n mynd i foddi oedd Cwm Gwendraeth Fach, fy nghartre' i.
"O’n i yn gwbod yn syth y byddai ffarm Pant-teg o dan y dŵr.
"O’n i yn byw gyda nhad a’n fam bryd ’ny a byddai hyn yn golygu y bydden ni’n colli’n bywoliaeth, y tir gore, a’r buildings a’r cwbl.
"Fy nyfodol i a gwaith caled pum cenhedlaeth o’r teulu yn mynd o dan y dŵr. 'Na beth oedd sioc."
Tawelodd y suon tan flwyddyn y 'Frwydr Fawr', ym mis Mawrth 1963.
Roedd bwriad Corfforaeth Ddŵr Abertawe yn y Western Mail unwaith eto heb unrhyw ymgynghoriad swyddogol ac roedd peirianwyr y gorfforaeth am symud i mewn i archwilio'r tir.
"Nawr te, oedd rhaid mynd ati nawr i ymladd hwn hyd y diwedd," cofiai Huw.
Trefnwyd cyfarfod brys yn y neuadd bentref ac yno y ffurfiwyd Pwyllgor Amddiffyn Llangyndeyrn.
"Wy'n cofio, oedd y neuadd yn orlawn o ffermwyr a phentrefwyr. Dewison ni'r cynghorydd lleol, William Thomas yn gadeirydd a'r parch W. M. Rees yn ysgrifennydd.
"Allen ni byth fod wedi dewis gwell arweinwyr, y ddau'n benderfynol bod dim rhoi mewn i fod. 'Na’n ddau arwr i mewn bywyd."
'Ataliwn y Fandalwyr: Ni Chânt Foddi'r Cwm'
Dai Thomas, fferm Glanyrynys
Cafodd Dai Thomas ei fagu ar fferm Glanyrynys, yn fab i Dewi Thomas ac yn ŵyr i William Thomas, cadeirydd Pwyllgor Amddiffyn Llangyndeyrn.
Dyflwydd oed oedd Dai yn 1963 ac er mai brith yw ei atgofion, mae fferm Glanyrynys yn storfa o hanesion o hyd.
Yno mae'r gadwyn haearn, yr hen dractor, posteri protest a'r giât; pethau fu mor bwysig i'w dad wrth iddo frwydro i warchod Glanyrynys.
Roedd Pwyllgor Amddiffyn Llangyndeyrn eisoes wedi wynebu Ymchwiliad Cyhoeddus ac wedi colli i Gorfforaeth Abertawe.
Yn dilyn hynny, dechreuodd y ffermwyr gloi'r ardal â chadwyni haearn a'r peiriannau mwyaf.
"Nôl yn 1963, yn dilyn 'mlaen i'r Hydref, roedd bron bob ffarm 'da tractors, peiriannau yn y bylchau, cadwyn rownd y pistion giât, unrhyw beth i arbed gwŷr Abertawe rhag dod ar y tir i surveyo," eglura Dai.
"Roedd cadwyn fawr o'r gwaith glo gyda ni, maen nhw'n dweud bo' hi yn 100 ton breaking strain.
"O'dd Abertawe ddim yn mynd i fynd â thorri honno mewn hast!"
'Bydden i wedi mynd i'r carchar'
Gyda'r clwydi cymdogol gynt dan glo, mae Huw Pant-teg yn cofio'r dryswch roedd hyn yn ei greu i swyddogion Abertawe oedd yn ysu i archwilio'r tir.
"Wir, doedden nhw ddim yn siŵr beth i wneud nawr a be' wnaethon nhw yn diwedd oedd mynd lan i’r cwrt yn Gaerfyrddin er mwyn cael y gyfraith tu ôl iddyn nhw. "
Gorymdeithiodd dros 100 o wrthwynebwyr drwy strydoedd Caerfyrddin cyn yr achos llys ar 11 Hydref 1963.
"Colli'r frwydr hyn wnaethon ni 'to, a phenderfynon nhw, mae'n rhaid boddi'r pentre' a'r dyffryn i gyd.
"O'n i yn ddigon diflas yn mynd mas o fan hyn nawr, oedd y gyfraith tu ôl iddyn nhw.
"Oedd warant 'da nhw i fynd mewn ac allen nhw ddodi ni yn y carchar am wrthod gadael nhw ar ein tir.
"Yn y cyfarfod nesa' gathon ni, dyna beth fuon ni'n 'neud – dewis pwy oedd yn mynd i’r carchar a phwy bydde’n sefyll gartre'.
"Yn fy achos i nawr, oedd fy nhad fod ffarmo gartre' ac o’n i fod mynd i’r carchar.
"Ac o'n i yn ei feddwl e, bydden i wedi mynd i’r carchar."
'Does neb moyn byw dan gysgod dam'
Chris Smith, ŵyr Jac Smith y clochydd
Un dinc gan gloch yr eglwys yn Llangyndeyrn yn 1963 a byddai'r trigolion yn gwybod bod peirianwyr o Abertawe ar y ffordd a bod angen amddiffyn y cwm.
Y clochydd oedd Jac Smith, y postfeistr a pherchennog y siop.
Y drefn oedd hysbysu Jac Smith yn syth petai rhywun yn gweld landrofer o Abertawe yn y cwm.
Yna byddai Jac Smith yn rhedeg o'r siop i ganu cloch y llan, oedd dafliad carreg i ffwrdd.
Mae ŵyr Jac Smith, Chris Smith yn dal i fyw yn y pentref.
"O’n i yn chwe blwydd oed yn 1963. Dwi’n cofio cael diwrnod bant o’r ysgol i gael martsio drwy’r pentre fel protest," meddai Chris.
"Ond y peth arall fi’n cofio yw ishte yn y gegin gyda’n fam a’n nhad, o’n nhw’n siarad am byti’r ffaith tase nhw yn adeiladu’r dam, bydden ni wedyn yn byw yng nghysgod y dam.
"Bydde’n cartre’ ni heb foddi ond fel oedd fy mam a’n nhad yn dweud, o'n nhw ddim moyn byw yng nghysgod dam."
Ennill y frwydr: 21 Hydref 1963
Ar 21 Hydref 1963 daeth dydd y fuddugoliaeth fawr a hynny ger gatiau Glanyrynys.
Huw Pant-teg sy'n cofio'r diwrnod:
"Oedd sbei gyda ni yn Abertawe yn cadw llygad ar bethe. Daeth e lan gyda'r wawr i ddweud wrth Mr Rees y gweinidog bod Abertawe am ddod i mewn y diwrnod 'ny ar ein tir ni.
"Erbyn da'th pobl Abertawe, a fi’n gallu gweld nhw nawr yn dod lawr rhiw Llangyndeyrn, oedd cannoedd ohonon ni ar y sgwâr yn aros, yr heddlu ar y blaen wedi dod i gadw trefn, y surveyors tu ôl mewn landrovers, a wedyn loris a’r peiriannau a’r gweithwyr."
I gyfeiriad fferm Glanyrynys aeth y confoi o Abertawe ac mae Dai Thomas yn cofio hanes ei dad, Dewi Thomas, yn llwyddo i gyrraedd ei fferm o'u blaenau.
"Fe jwmpodd Dad ar feic modur gydag Aldred o'r sgwâr ac fe allodd e fynd heibio nhw i gyd, i gyrraedd giât Glanyrynys o’u blaenau nhw.
Er bod warant yn nwylo'r prif swyddog o Abertawe, dal ei dir wnaeth Dewi Thomas a mynnu nad oedden nhw'n cael mynd drwy'r giât i'w gaeau.
"Halodd e bum munud a rhagor yn darllen y warant i roi cyfle i bobl y pentre i ddod lan, a daethon nhw lan yn ddynion, plant a hen fenywod."
Roedd tyrfa dda o bobl ger gatiau Glanyrynys erbyn hyn. Roedd rheng o bobl o flaen pob giât er mwyn rhwystro unrhyw fynediad i'r gweithwyr o Abertawe.
Roedd un giât ar ôl, dan glo cadwyn haearn a pheiriant mawr tu ôl iddi.
Gyda'r heddlu'n eu gwarchod, fe lwyddodd y gweithwyr o Abertawe lifio drwy'r gadwyn, ond y syndod mwyaf i bawb oedd eu gweld yn gadael yn fuan wedyn.
"Ar ôl iddyn nhw gerdded mewn i'r cae, daethon nhw mas, ac wrth bo' nhw'n mynd dyma nhw’n dweud, 'We are going now but we will be back,'" eglura Huw.
"Buon ni yn wyliadwrus am fisoedd ar ôl 'ny rhag ofn bydden nhw'n dod mewn ar y slei, ond wir daethon nhw fyth."
"Un o'r rheymau am hyn oedd, buodd cyngor Caerfyrddin yn dda iawn wrth ein hochr ni.
"Gawson nhw surveyors lawr o Lundain i 'neud ymchwil o'r lle i gyd, a ffeindio'r lle delfrydol lan pen ucha'r Tywi, cynllun rhatach a dim ond un tŷ ffarm i'w foddi. 'Na ble mae lle mae Llyn Brianne heddiw."
"Dyna'r ergyd ola' i stopo Abertawe i ddod mewn."
- Cyhoeddwyd6 Medi 2022
Stori o lwyddiant yn hanes Cymru
Yn sgwâr y pentref mae cofeb i gofio'r frwydr gyda'r ymadrodd 'mewn undod mae nerth'.
"Dyna beth oedd cyfrinach y cyfan, yr undod 'ma oedd gyda pawb," yn ôl Huw Pant-teg.
"A un peth arall, dethen ni ddim â politics mewn iddo fe o gwbl.
"Pobl penderfynol o'n ni yn meddwl am ein cartrefi a'n bywoliaeth a phawb yn cyd-dynnu."
Mae Dai Thomas o'r un farn:
"Gethon ni gynnig help gan Plaid Cymru a oedd hynny'n wych ond bydde San Steffan byth wedi gadael Plaid Cymru i faeddu nhw.
"Peth allweddol arall i lwyddiant y frwydr oedd mai ffermwyr oedd berchen bob un fferm yng Nghwm Gwendraeth Fach.
"Yn Tryweryn yn ôl be' fi'n deall, landlords oedd berchen llawer o'r ddaear, o'n nhw ddigon hapus i gael y taliad a boddi pentre Capel Celyn a’r ardal."
Bellach mab Huw, Alun, sy'n ffermio ym Mhant-teg, ac yn dilyn hynny mae'n gobeithio mai ei ŵyr Dewi fydd y seithfed genhedlaeth yng ngofal y fferm.
Dyna ei obaith i Bant-teg, ond ei obaith i stori'r frwydr yw ei chofio:
"Beth fi ffili deall, sdim llawer yn gwybod am hyn trwy Gymru, mae Cofiwch Tryweryn ym mhobman, wel colli’r frwydr wnaeth Tryweryn ond ennill y frwydr wnaeth Llangyndeyrn.
"Mae'n stori o lwyddiant yn hanes Cymru."
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2023
'Ni'n joio byw yn Llangyndeyrn'
Plant Ysgol y Fro, Llangyndeyrn
'Nôl yn Ysgol y Fro mae rhai o'r plant wedi dod ag erthyglau a lluniau o'u perthnasau fu'n ymgyrchu yn y frwydr i'r ysgol i ddathlu 60 mlynedd ers achub y cwm.
Yn ôl Milla sydd yn ddeg oed ac yn wyres i Norman Evans, mae hi "wastad wedi gwybod am yr hanes ac mae dychmygu am Langyndeyrn dan y dŵr yn ei gwneud yn drist."
Ychwanega: "Bydden ni probybli wedi gorfod byw yn Gaerfyrddin ond mae fan hyn yn well!"
Mae ei chyfnither Gwenno, sydd hefyd yn 10 oed, wrth ei bodd yn clywed ei thad-cu yn adrodd straeon am y frwydr.
"Mae'n galed i feddwl pryd oedd Dad-cu yn 10 mlwydd oed, yr un oed â fi ac yn mynd i'r un ysgol â fi, bo' nhw’n mynd i foddi Llangyndeyrn.
"Mae'n adrodd y stori o hyd am fynd i brotestio lawr yn y pentre yn lle mynd i'r ysgol.
"Y diwrnod wedyn, oedd dim amser chwarae o gwbl fel cosb! Mae Dad-cu yn cofio popeth."
Mae'r plant i gyd yn gytûn eu bod "yn joio byw yn Llangyndeyrn", ond pam?
Cynan: "Fi'n lico'r gymuned, y parc a’r ysgol, chwarae pêl-droed ac adeiladu dens."
Milla: "Mae'r ysgol mor fach ond mor neis yr un pryd. Mae bron i bawb o teulu fi yn dod o fan hyn."
Gwenno: "Mae'r gymuned i gyd fel teulu, mae pawb yn nabod ei gilydd a mae'r pentre mor bert."
Y gymuned heddiw
Mae'r hen gadwyn haearn ar fferm Glanyrynys wedi rhydu dros y 60 mlynedd diwethaf.
Dydi'r gadwyn ddim mor gref ag oedd hi, ond mae cymuned Llangyndeyrn mor gadarn ag erioed.
"Mae'r ffermwyr lleol i gyd yn gymdogion da o hyd, yn ffermwyr da, yn ffermio daear dda. Byddai wedi bod yn drosedd ddychrynllyd pe byddai’r ddaear hyn wedi mynd dan y dŵr," meddai Dai Thomas.
Ychwanega Huw Pant-teg: "Chware teg, mae'n 60 mlynedd nawr ac erbyn hyn, 'mond rhyw un neu ddau ohonon ni yn y pentre sy'n cofio’r busnes hyn ond mae ieuenctid y pentre nawr yn dathlu ac yn adfywio'r peth, a ddim yn anghofio. Ni'n ddiolchgar iawn o 'ny."
Pynciau cysylltiedig
- Cyhoeddwyd20 Medi 2022
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2019