Prif Weinidog: Llafur a Phlaid Cymru yn dod i gytundeb
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i Carwyn Jones gael ei ddewis fel prif weinidog Cymru ddydd Mercher, ar ôl i aelodau Llafur a Phlaid Cymru ddod i gytundeb.
Nid yw'r pleidiau wedi cyhoeddi unrhyw fanylion am y ddêl, ond mae'r trafodaethau wedi bod yn "gadarnhaol" ac "adeiladol".
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd y pleidiau y byddai'r cytundeb yn "galluogi enwebiad Carwyn Jones yn brif weinidog, a chreu llywodraeth Llafur leiafrifol".
Mae disgwyl i Mr Jones annerch ACau wedi'r bleidlais i drafod "bwriad y llywodraeth nesaf am y 100 diwrnod cyntaf".
'Caniatáu enwebiad'
Mae'r datganiad "Symud Cymru Ymlaen" yn dweud: "Rydym yn falch o gyhoeddi bod grwpiau Plaid Cymru a Llafur Cymru wedi cysylltu â'r Llywydd heddiw er mwyn adalw'r Cynulliad fory, a mynd ati gyda'r broses o enwebu Prif Weinidog.
"Bydd hyn yn caniatáu enwebiad llwyddiannus Carwyn Jones yn Brif Weinidog, gan sefydlu Gweinyddiaeth Lafur Leiafrifol.
"Mae hyn yn dilyn trafodaethau cadarnhaol ac adeiladol am flaenoriaethau cyffredin y pleidiau ar gyfer y Cynulliad newydd hwn, a threfniadau gweithredu'r dyfodol.
"Fory, bydd y Prif Weinidog yn amlinellu bwriadau'r Llywodraeth nesaf ar gyfer y 100 diwrnod cyntaf, yn cynnwys ymrwymiad i flaenoriaethu'r meysydd hynny sy'n denu cefnogaeth gan fwyafrif y Cynulliad."
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies: "Er gwaethaf yr holl drafod a'r cyfnod newydd o wleidyddiaeth, yr holl rydym wedi gweld yn y diwrnodau diweddar yw'r un hen Plaid Cymru, cloi eu hunain i ffwrdd gan ddod i gytundeb cysurus gyda'u hen ffrindiau yn y Blaid Lafur.
"Dim ond ychydig ddiwrnodau yn ôl roedd arweinydd Plaid Cymru yn honni nad oedd hi'n gweld y gall Cymru fynd yn ei blaen gyda'r un blaid wrth y llyw ar ôl 17 mlynedd."
Trafod
Daw hyn yn dilyn trafodaethau sydd wedi para deuddydd rhwng y ddwy blaid.
Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth 29 AC gefnogi Mr Jones o'r blaid Lafur i fod yn brif weinidog, gyda 29 o blaid arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Mae gan Lafur 29 aelod yn y Cynulliad newydd, gyda chyfanswm y pleidiau eraill yn 31.
Mae UKIP wedi cadarnhau y bydden nhw'n enwebu ymgeisydd ar gyfer swydd y prif weinidog hefyd.
Ond dyw hi ddim yn glir os mai arweinydd y blaid yn y Cynulliad, Neil Hamilton, fydd y person hwnnw.
Mae gan Aelodau'r Cynulliad tan 1 Mehefin i benodi prif weinidog neu bydd angen cynnal etholiad arall.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mai 2016