Theresa May yn 'gyfrifol' am ymateb y DU i eithafiaeth
- Cyhoeddwyd
Dylai Theresa May gymryd cyfrifoldeb os nad yw Prydain wedi bod yn ddigon llym wrth ymateb i eithafiaeth, yn ôl arweinydd Plaid Cymru.
Fe wnaeth Leanne Wood ei sylwadau mewn dadl deledu gan y BBC, ddiwrnod wedi'r ymosodiad terfysgol yn Llundain.
Dywedodd Ms Wood hefyd ei bod hi eisiau gweld y gyfradd dreth uchaf yn cael ei godi o 45% i 50%.
Byddai trethi uwch yn gallu mynd tuag at ariannu gwasanaethau cyhoeddus, meddai.
'Cyfrifoldeb'
Wrth gyfeirio at araith y prif weinidog yn dilyn yr ymosodiad, pan ddywedodd Mrs May fod "gormod o oddef eithafiaeth wedi bod yn y wlad yma", cyfeiriodd Ms Wood at y ffaith ei bod hi wedi bod yn ysgrifennydd cartref am chwe blynedd cyn dod yn brif weinidog.
"Ers 2010 mae hi wedi bod mewn safle i wneud rhywbeth am hyn," meddai.
"Ac os nad ydyn ni wedi bod ddigon llym ar eithafwyr, fel mae hi'n honni, oni ddylai hi gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb dros hynny?"
Wrth siarad ar Election Questions ar BBC One, dywedodd Ms Wood y byddai Plaid Cymru "yn agored i drafodaeth" ar godi treth incwm i bobl yng Nghymru ar gyflogau uchel, unwaith y bydd y pwerau hynny wedi eu datganoli.
"I'r rheiny sy'n gallu fforddio i dalu fwyaf, fe fydden ni," meddai.
Wrth gael ei holi'n bellach a fyddai hi'n fodlon codi'r dreth "mewn egwyddor", dywedodd: "I'r gyfradd ychwanegol o dreth incwm ar gyfer pobl sy'n talu 45% ar hyn o bryd, hoffwn ni weld hynny'n codi i 50%.
"Mewn cyd-destun Prydeinig byddai hynny'n golygu £3bn yn ychwanegol i dalu am wasanaethau cyhoeddus."
Annibyniaeth
Ond ychwanegodd: "Pan fydd treth incwm yn dod i Gymru fe fyddwn ni'n cael sgwrs wahanol."
Bydd pwerau i amrywio treth incwm yn cael eu datganoli i Gymru o 2019 ymlaen.
Pan ofynnwyd i Ms Wood a fyddai "Brexit caled iawn" yn adeg i danio ymgyrch ar gyfer annibyniaeth, dywedodd fod hynny'n "bosib iawn".
"Os yw'r cytundeb terfynol yn un gwael iawn i Gymru wedyn mae'n rhaid i ni ystyried pob opsiwn bryd hynny," meddai.